Sut mae gwneud cais am gyllid myfyriwr?

Gallwch wneud cais am gyllid myfyrwyr ar-lein drwy eich darparwr cyllid lleol. Ceir rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau Cyllid Myfyrwyr yma - Benthyciadau i Fyfyrwyr

Rwy'n cael problem gyda fy Nghyllid Myfyrwyr

Os ydych yn cael problemau gyda'ch Cyllid Myfyrwyr gallwch gwrdd ag un o'n Cynghorwyr Myfyrwyr a all helpu i ddatrys y broblem i chi. Gallwch drefnu apwyntiad yn uniongyrchol drwy ein system ar-lein - https://support.aber.ac.uk/unauth?locale=cy

Rwy'n cael trafferth rheoli fy arian

Gall y Cynghorwyr Myfyrwyr eich helpu i adolygu eich amgylchiadau ariannol a helpu i greu cyllideb i'ch galluogi i reoli eich cyllid drwy gydol eich amser yma. Byddant yn trafod eich amgylchiadau gyda chi i sicrhau eich bod yn derbyn y swm cywir o gyllid a'ch cyfeirio at yr adnoddau ar-lein defnyddiol cywir.

Ar hyn o bryd nid oes gennyf unrhyw arian ar gyfer costau byw sylfaenol

Os nad oes gennych arian ar hyn o bryd, rydym yn cynghori eich bod yn gwneud cais i'r Gronfa Caledi Myfyrwyr yn y lle cyntaf. Os nad oes gennych arian nes bod eich dyfarniad caledi yn cael ei dalu, cysylltwch â ni drwy e-bost ac efallai y gallwn gynnig cymorth ariannol brys i chi yn y cyfamser.

Sut mae gwneud cais i'r Gronfa Caledi Myfyrwyr?

Gallwch wneud cais i'r gronfa caledi drwy ein ffurflen ar-lein yma - https://forms.office.com/Pages/ResponsePage.aspx?id=Dgl71Fo_oEyE0JJ0mnxdZv0cIDBJQtDjKzkqe2tdBtUMjVJTzFPWVNGOEowTjhLTFQ4S0Q1Uk9BOS4u.

Ar ôl i chi gyflwyno'ch cais, bydd ein tîm yn asesu eich tystiolaeth a dylech gael ymateb o fewn 10 diwrnod gwaith.

 

Rwy’n ystyried newid cynllun neu gymryd peth amser allan o'r Brifysgol

Gall ein cynghorwyr gynnig cyngor ac arweiniad ar ystod o faterion academaidd megis newid cynllun neu gymryd amser allan. Gallwch drefnu apwyntiad â chynghorydd drwy ein system ar-lein - https://support.aber.ac.uk/unauth?locale=cy

Lle gallaf ddod o hyd i wybodaeth am yr Ysgoloriaethau a’r Bwrsariaethau sydd ar gael i mi?

Gellir dod o hyd i holl Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau'r Brifysgol yma - Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau

Cwestiynau Cyffredin