Materion yn ymwneud â’ch cwrs

Cael trafferth gyda'r gwaith?

Os ydych chi ar ei hôl hi o ran gwaith, fe’ch cynghorwn i gysylltu â’ch adran drwy siarad â Chydlynydd eich Modiwl a/neu eich tiwtor personol am unrhyw bryderon sydd gennych.

Mae’r dudalen SgiliauAber yn ffynhonnell o gymorth ar gyfer materion academaidd amrywiol. Hefyd, mae Cymorth Dysgu Myfyrwyr yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau a gwasanaethau ledled y Brifysgol ar gyfer gwella eich profiad o astudio.

Os ydych chi’n cael trafferth ag asesiadau ac aseiniadau eich cwrs o ganlyniad i anabledd canfyddedig neu faterion iechyd meddwl/corfforol cyfredol, cysylltwch ag anabledd@aber.ac.uk i drafod pa gymorth sydd ar gael a beth yw’r dewisiadau eraill posibl.

Cael trafferth gyda'r bywyd prifysgol?

Gall cymorth gan gymheiriaid ddarparu cymorth i fyfyrwyr sy’n ymaddasu i fywyd prifysgol.

Ansicr am eich cwrs?

Os nad ydych yn siŵr a yw cwrs yn iawn i chi, neu os ydych chi’n teimlo y byddai cymryd amser i ffwrdd o’ch cwrs yn ddefnyddiol, mae croeso i chi drafod eich dewisiadau ag un o’n Ymgynghorwyr Myfyrwyr, oherwydd mae’n bosibl y bydd goblygiadau o ran eich Cyllid Myfyrwyr. Cysylltwch â student-adviser@aber.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth.

I fwcio apwyntiad gydag ymgynghorwyr, cliciwch y botwm ar y dde. 

Efallai yr hoffech edrych ar ein Cwestiynau Cyffredin am y pynciau canlynol:

Tiwtoriaid Personol

Materion academaidd cyffredin

Cymryd amser i ffwrdd o’r Brifysgol neu adael y Brifysgol