Cymorth i Baratoi am Yrfa
Mae Cymorth i Baratoi am Yrfa (CBY) yn lefel ychwanegol o gymorth i fyfyrwyr a allai wynebu rhwystrau o ran dod o hyd i gyflogaeth ar lefel raddedig yn y dyfodol.
Mae wedi'i anelu'n benodol at unigolion sy'n teimlo'n ansicr am y dyfodol, efallai oherwydd diffyg hyder, diffyg profiad gwaith perthnasol, neu nad oes ganddynt rwydweithiau a chysylltiadau a all helpu.
Beth mae'n ei olygu?
Mae Cymorth i Baratoi am Yrfa yn rhan o Wasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth. Rydym yn cynnig cyfleoedd datblygu sgiliau, gweithdai a hyfforddiant yn ogystal â chyfleoedd i gwrdd ag unigolion o amrywiaeth eang o fusnesau a sefydliadau drwy sesiynau Cwrdd â'r Gweithiwr Proffesiynol. Gallwn hefyd helpu i drefnu profiad gwaith yn benodol ar gyfer myfyrwyr CBY.
Pwy fydd yn cael cymryd rhan?
Mae Cymorth i Baratoi am Yrfa ar gael i fyfyrwyr o'r flwyddyn cyntaf ymlaen sydd:
|
|
Os ydych chi'n perthyn i unrhyw un o'r uchod, cliciwch yma i weld a allwch chi gael mynediad at Gymorth i Baratoi am Yrfa a chofrestru eich diddordeb.
(Os oes angen cymorth arnoch i lenwi ein ffurflen ar-lein neu os oes angen ffordd arall arnoch i ystyried cofrestru, anfonwch e-bost atom drwy crsupport@aber.ac.uk.)
Rhaglen Ffyniant
Mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn awyddus i gyflwyno Ffyniant, rhaglen ddatblygu newydd i fenywod sydd wedi'i chynllunio i rymuso a chynorthwyo eich twf personol a phroffesiynol.
Gan ddechrau ym mis Mawrth, rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni ar brynhawn Mercher ar gyfer cyfres o wyth gweithdy rhyngweithiol sy'n canolbwyntio ar feithrin eich hyder a'ch sgiliau, ac ehangu eich dylanwad.
Rhaglen
Bydd y gweithdai canlynol yn aml yn cynnwys siaradwyr gwadd ysbrydoledig a chyfle i rwydweithio:
Dyddiad | Sesiwn | Amser | Lleoliad |
---|---|---|---|
5 Mawrth '25 | Grymuso a Chysylltu | 13:30-16:30 | Ar Campws |
12 Mawrth '25 | Rhwydweithio i Ennill | 14:00-16:00 | Ar Campws |
19 Mawrth '25 | Arddangos Eich Cryfderau | 14:00-16:00 | Ar Campws |
26 Mawrth '25 | Goresgyn Syndrom y Ffugiwr | 14:00-16:00 | Ar Campws |
2 Ebrill '25 | Mwy o Egni, Llai o Bryder | 14:00-16:00 | Ar Campws |
9 Ebrill '25 | Diffinio Chi’ch Hunan | 13:30-16:00 | Microsoft Teams (Ar-lein) |
30 Ebrill '25 | Grym Pendantrwydd | 14:00-16:00 | Ar Campws |
7 Mai '25 | Gweledigaeth a Nodau | 13:00-15:30 | Ar Campws |
Pam ymuno â Ffyniant?
- Meithrin hyder a bod yn glir am eich dyfodol.
- Datblygu sgiliau hanfodol ar gyfer eich bywyd academaidd, personol a phroffesiynol.
- Cysylltu â chymuned o fyfyrwyr sydd o'r un anian.
Sut mae cymryd rhan?
Os hoffech wneud cais ar gyfer y rhaglen, gofynnwn i chi gwblhau'r ffurflen hon erbyn 5yh ar Ddydd Sul 23 Chwefror, a nodwch mai dim ond nifer gyfyngedig o lefydd sydd ar gael.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â crsupport@aber.ac.uk.
Noder: Mae Ffyniant ar gael i fyfyrwyr sy'n nodi eu bod yn fenywod ac sydd:
|
|
Profiad rhywun o gymryd rhan
Dyma enghraifft o daith un cyfranogwr CBY:
Roedd SOS, myfyriwr ysgrifennu creadigol uwchraddedig anneuaidd, niwroamrywiol, aeddfed ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn wynebu rhwystrau cyflogadwyedd oherwydd diffyg profiad gwaith a chysylltiadau rhwydweithio. Fe wnaethant hefyd ymgodymu â stigma mewnol am eu cyflwr iechyd meddwl, gan ofni gwahaniaethu posibl gan gyflogwyr.
O fis Mawrth 2023, cymerodd SOS ran mewn 30 sesiwn un-i-un gyda'r tîm yn eu prifysgol, gan ganolbwyntio ar ddatblygu CV, cymorth i wneud ceisiadau, a gwella sgiliau. Roedd y gweithdai a fynychwyd yn cynnwys "Datblygu Meddylfryd i ganolbwyntio ar Dwf," "Amrywioldeb a Chyflogadwyedd," a "Niwroamrywiaeth mewn Busnes."
Arweiniodd cyfranogiad SOS yn y rhaglen at leoliad ABERYmlaen gyda thîm Hygyrchedd a Chynhwysiant y brifysgol. Ysbrydolodd y profiad hwn, ynghyd â chefnogaeth y tîm Cymorth i Baratoi am Yrfa yn y brifysgol, SOS i wneud cais am swydd barhaol yn yr un adran, gan dynnu sylw at effaith drawsnewidiol y rhaglen.
"Mae Cymorth i Baratoi am Yrfa wedi bod yn amhrisiadwy. Mae cymorth fy Ymgynghorydd i sicrhau lleoliadau a chyflogaeth raddedig, ynghyd â chymorth CV a LinkedIn, wedi bod yn allweddol."