Mentora 'Ffordd Hyn'
Beth yw cynllun Mentora 'Ffordd Hyn'?
Cynllun sy'n cael ei ddarparu trwy'r Gwasanaethau i Fyfyrwyr yw Mentora'r 'Ffordd Hyn', i fyfyrwyr sydd angen ychydig o gymorth ychwanegol o bosibl gyda bywyd dydd i ddydd yn y Brifysgol.
Israddedigion ail, drydydd neu flwyddyn olaf, neu uwchraddedigion yw Mentoriaid Ffordd Hyn. Mae Mentoriaid y cynllun yn cael eu hyfforddi gan Gwasanethau i Fyfyrwyr ac mae pob un wedi bod yn lasfyfyriwr ei hun yn ddiweddar! Mae'r mentoriaid yn awyddus i wrando ac i'ch arwain trwy ba drafferthion bynnag rydych chi'n eu cael mewn ffordd gefnogol a chyfeillgar heb farnu dim. Gall y cymorth gynnwys : -
- Ymgyfarwyddo â bywyd Prifysgol: er enghraifft trwy gyfeirio myfyrwyr at wasanaethau eraill yn y Brifysgol a gweithgareddau allgyrsiol ac yn y blaen
- Cyflawni potensial: er enghraifft, trwy roi cyngor ar reoli'ch amser a datblygu sgiliau trefnu
- Cynllunio am y dyfodol: trwy gael profiad gwaith a chynorthwyo i baratoi am arholiadau.
Mae hefyd gan Fentoriaid Ffordd Hyn wybodaeth dda am wasanaethau cymorth y Brifysgol a gallant gynorthwyo myfyrwyr i fanteisio ar y gwasanaethau hyn, er enghraifft, yng nghyswllt Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA), Cymorth i Astudio, gwasanaethau Lles y Myfyrwyr (gan gynnwys Ymarferydd Iechyd Meddwl ac Ymarferydd Cwnsela) a Chyllid Myfyrwyr.
Mae Mentora Ffordd Hyn yn breifat, yn gyfrinachol ac yn hollol anfeirniadol.
'Mae 'Ffordd Hyn' yn hanfodol i las fyfyrwyr! Beth bynnag yw'r mater neu'r pryder - bach neu fawr - maen nhw yno i gynorthwyo.' - Myfyriwr a gafodd ei Fentora ar y Cynllun
Er mai at fyfyrwyr newydd mae'r cynllun wedi'i dargedu’n bennaf, i'w cynorthwyo i ymgartrefu ac ymgyfarwyddo â bywyd prifysgol, mae'n agored i bob myfyriwr sydd eisiau gwneud cais. Awgrymwn ichi fynd i dudalen y Mentoreion i weld a allwn ni fod o gymorth ichi.
'Gyda help fy Mentor y dysgais i fy ffordd o gwmpas prifysgol Aberystwyth. Gan fy mod yn fyfyriwr ar gynllun cyfnewid ac ar flwyddyn olaf fy nghwrs gradd, roedd ychydig yn ddychrynllyd i gyrraedd prifysgol hollol ddieithr, ac roedd yn galonogol gwybod fod 'na rywun y gallwn i droi ato am gymorth.' - Myfyriwr a gafodd ei Fentora ar y Cynllun
I gael rhagor o wybodaeth am effaith Cynllun Mentora 'Ffordd Hyn' edrychwch ar astudiaeth gyllidwyd gan y Gronfa Gwella Dysgu ac Addysgu (LTEF)
Os cawsoch eich ysbrydoli a'ch bod yn addas yn ôl y meini prawf uchod, gallwch ddarllen ynglŷn â gwneud cais ar yr adnod Mentoriaid isod.
Mentor 'Ffordd Hyn' Panna Karlinger (Myfyriwr-Fentor y Flwyddyn)
Gall mentora wneud gwahaniaeth go iawn ac mae llawer o Fentoreion wedi elwa o gymorth gan eu cymheiriaid. Mae UMAber nawr yn cynnwys gwobr Myfyriwr-Fentor y Flwyddyn yn y Gwobrau Staff a Myfyrwyr.
Ochr yn ochr â chynllun 'Ffordd Hyn' mae gan yr adrannau hefyd gynlluniau Mentora gan Gymheiriaid i roi cyngor adrannol wedi'i dargedu'n benodol.
Mentoreion
Mentoriaid
Staff
Rhieni a gwarcheidwaid
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin