Cefnogaeth i Fyfyrwyr Trawsryweddol a Rhywedd-amrywiol

Mae’r Tîm Hygyrchedd a Chynhwysiant yn cynnig cymorth i fyfyrwyr ac ymgeiswyr Trawsryweddol a Rhywiol-amrywiol. Ein nod yw creu amgylchedd diogel, cefnogol a chroesawgar i fyfyrwyr gael archwilio a bod yn falch o'u rhywedd.

Gall ein tîm gynnig cyngor a chymorth cyfrinachol gyda newid eich enw, ymholiadau llety, ac unrhyw gwestiynau eraill sydd gennych. Gallwn hefyd eich helpu i newid eich enw drwy weithred newid enw (deed poll) am ddim os ydych yn dymuno newid eich enw yn gyfreithlon.

Caiff graddedigion Prifysgol Aberystwyth hefyd wneud cais i ddiweddaru tystysgrifau gradd fel eu bod yn dangos enw newydd.

Newid eich enw

Rydym yn cydnabod efallai na fydd myfyrwyr rhywedd-amrywiol yn dymuno aros nes bydd eu henw wedi ei newid yn gyfreithiol cyn diweddaru eu henw gyda’r Brifysgol. Mae tair ffordd o newid eich enw ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac mae modd i ddwy o'r ffyrdd ddigwydd yn gyflym heb fod angen y newid cyfreithiol:

Yr enw y'ch gelwir

Hwn yw enw arddangos eich e-bost a'r enw ar y rhan fwyaf o systemau TG y Brifysgol. Mewngofnodwch i newid yr enw ar eich Cofnod Myfyriwr, neu cysylltwch â'r Tîm Hygyrchedd a Chynhwysiant (dim angen dogfennau cyfreithiol). Ni allwn sicrhau na fydd eich hen enw yn ymddangos yn achlysurol; i atal hyn, gwnewch gais am Gerdyn Adnabod Aber yn lle hynny.

Cerdyn Adnabod Aber

Mae hyn yn tynnu eich hen enw oddi ar systemau TG y Brifysgol fel na all neb arall ei weld. Nid yw'n newid eich enw yn gyfreithiol gyda'r Brifysgol. Mewngofnodwch i'ch Cofnod Myfyriwr a diweddarwch eich enwau cyntaf a/neu'ch cyfenw i ddechrau. Bydd y Tîm Hygyrchedd a Chynhwysiant yn cysylltu â chi i egluro'r broses (nid oes angen unrhyw ddogfennau cyfreithiol).

Newid enw llawn

Dyma'r enw sy'n ymddangos ar eich gradd. Er mwyn ei newid, mae'r Brifysgol angen gweithred newid enw a thrwydded yrru neu basbort cyfredol yn eich enw newydd.

Gwybodaeth i Ymgeiswyr

Caiff ymgeiswyr sy'n dymuno newid eu henw gysylltu â'r Tîm Hygyrchedd a Chynhwysiant ar unrhyw adeg cyn cyrraedd i Brifysgol Aberystwyth neu wrth gyrraedd.

Cerdyn Aber

Os ydych wedi newid eich enw, neu os nad yw eich llun bellach yn adlewyrchiad o'ch ymddangosiad, gallwn drefnu Cerdyn Aber newydd i chi yn rhad ac am ddim. Cysylltwch â'r Tîm Hygyrchedd a Chynhwysiant i ofyn am un.

Gweithred Newid Enw a Cherdyn Adnabod

Gall y Tîm Hygyrchedd a Chynhwysiant eich helpu i gynhyrchu gweithred newid enw am ddim. Nid oes angen talu am wasanaeth ar-lein na gweithred newid enw cofrestredig oni bai eich bod yn dymuno gwneud hynny.

I gyflwyno gweithred newid enw, llenwch y templed hwn gyda'ch manylion a llofnodwch ef gyda dau dyst. Rydym yn hapus i gynghori, a gweithredu fel tystion os oes angen.

Gallwn hefyd roi cyngor ar y broses o ddiweddaru eich trwydded yrru a’ch pasbort i gwblhau eich newid enw cyfreithiol. Dylai Myfyrwyr Rhyngwladol a deiliaid fisa sy'n dymuno newid eu henwau gyda'r Brifysgol gysylltu â ni  am ragor o wybodaeth.

Llety

Os oes gennych unrhyw anghenion llety penodol cysylltwch â'r Tîm Hygyrchedd a Chynhwysiant i drafod.

Cyfleusterau

Mae rhyddid i'r holl fyfyrwyr a'r staff ddefnyddio toiledau a chyfleusterau yn unol â'r rhywedd y maent hwy eu hunain yn ei ddatgan. Mae yna hefyd nifer o doiledau hygyrch sy’n niwtral o ran rhywedd ar gael ym mhob rhan o'r campws.

Myfyriwr gyda chontractau staff

Os ydych hefyd yn gweithio i'r Brifysgol, gallwn eich helpu i gysylltu â'r Tîm Adnoddau Dynol i ddiweddaru eich manylion ar y systemau staff.

Adnoddau pellach

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth

Mae Undeb Myfyrwyr Aberystwyth yn darparu cyngor, cefnogaeth a chyfleoedd i gymdeithasu.

Rhwydwaith Trawsryweddol a Rhyweddol-Anghydffurfiol

Grŵp cymdeithasol diogel a chroesawgar sy'n cael ei redeg gan Undeb y Myfyrwyr ar gyfer pob myfyriwr trawsryweddol a rhyweddol-anghydffurfiol, yn ogystal â'r rhai sy'n cwestiynu a chefnogwyr sy'n dod i gefnogi ffrind.

Gwasanaeth Lles

Mae'r Gwasanaeth Lles yn cynnig amrywiaeth o opsiynau i helpu myfyrwyr i reoli unrhyw fater lles. Cysylltwch â nhw i gael gwybod mwy.

Datganiad Cydraddoldeb i Bobl Drawsryweddol

Gweler y Datganiad Cydraddoldeb i Bobl Drawsryweddol i gael mwy o wybodaeth am bolisi Prifysgol Aberystwyth ar gyfer myfyrwyr a staff rhywedd-amrywiol.

Adrodd a Chymorth

Gallwch roi gwybod i'r Brifysgol am unrhyw ddigwyddiadau, yn ddienw neu beidio, trwy Adrodd a Chymorth