Myfyrwyr sy’n Gadael Gofal, Gofalwyr ifanc a Myfyrwyr Ddigefnogaeth Arall

I’r rhai sydd yn, gweithio gyda neu sydd yn cefnogi unigolyn sydd yn un o’r uchod, mae yna bwynt cyswllt penodol o fewn Brifysgol Aberystwyth.

Prosiectau a chymorth cyn mynediad, y chweched dosbarth a cholegau: cysylltwch â Nia Gwyndaf, Pennaeth Denu Myfyrwyr ac Ehangu Cyfranogiad ar
ehangu-cyfranogiad@aber.ac.uk.

Os ydych chi’n gwneud cais neu’n ystyried gwneud cais i Aberystwyth ac angen cymorth gyda’r broses ymgeisio, mewn Dyddiau Agored neu mewn Dyddiau Ymweld adrannol, bydd Teleri Lewis (Ehangu Cyfranogiad) a Marion Thomson (Gwasanaethau Hygyrchedd) yn fwy na pharod i siarad â chi ac/neu gwrdd â chi a’ch tywys o amgylch yr amrywiol gyfleusterau sydd gan y Brifysgol i’w cynnig. Dyma fanylion cyswllt Marion: mnt@aber.ac.uk  (01970 628423 / 621761) neu hygyrchedd@aber.ac.uk.

Wrth i chi geisio ac wrth i chi gyrraedd yn yr Hydref, mi fyddwn ni mewn cysylltiad â chi i’ch hysbysu ynglŷn â’r cymorth sydd a’r gael

Gweler ein Cwestiynau a Holir yn Aml isod:

Gwybodaeth i myfyrwyr sy'n gadael gofal

Rheoli arian

Mentora

Paratoi ar gyfer y Brifysgol