Mentoriaid Cyfredol

Mae nifer o adnoddau defnyddiol i'w cael i fentoriaid cyfredol, gweler isod

Pynciau defnyddiol i gyfarfodydd

  • Llety
  • Cyd-letywyr
  • Cymdeithasau
  • Arian a threfnu cyllideb
  • Rheoli amser
  • Gwasanaethau
  • Adolygu
  • Arholiadau

Yn ogystal â chofio i e-bostio eich mentoreion o leiaf unwaith y mis (i weld a ydynt eisiau cyfarfod) dyma linell amser nodweddiadol o ddigwyddiadau allweddol y flwyddyn i Fentoriaid y Cynllun:

Awst

Trefnu mentoriaid i fyfyrwyr newydd a fydd yn cyrraedd ym mis Medi.

Medi

Diwrnod ymgyfarwyddo a hyfforddiant i fentoriaid
Wythnos y Glasfyfyrwyr
Myfyrwyr newydd yn cyrraedd
Anfon negeseuon e-bost cychwynnol.

Hydref

Anfon negeseuon atgoffa trwy e-bost
Gall yr wythnosau cyntaf fod yn anodd oherwydd nifer y negeseuon e-bost
Sesiwn ddal-i-fyny i'r Mentoriaid.

Tachwedd

Angen cyflwyno'r aseiniadau cyntaf
Cadw golwg gyson ar eich e-bost i weld a oes rhywun eisiau cyfarfod
Sesiynau hyfforddi ychwanegol dewisol ar gael i fentoriaid.

Rhagfyr

Cadw cyswllt â'r mentoreion gan mai dyma'r tro cyntaf iddynt fynd adref o bosibl
Hefyd holi ynglŷn â pharatoadau arholiadau a rheoli eu hamser.

Ionawr

Cadw i holi am arholiadau ac adolygu
Holi ynglŷn â pharatoadau ar gyfer semester 2
Myfyrwyr cyfnewid Semester 2 yn cyrraedd: anfon negeseuon e-bost cychwynnol

Chwefror / Mawrth

Holi am ganlyniadau arholiadau semester 1 eich mentoreion
Anfon negeseuon e-bost atgoffa at fyfyrwyr cyfnewid semester 2
Gwirio trefniadau llety eich mentoreion am y flwyddyn academaidd nesaf
Sesiwn ddal-i-fyny i fentoriaid y cynllun.

Ebrill / Mai

Holi ynglŷn â pharatoadau ar gyfer arholiadau a threfniadau'r flwyddyn academaidd nesaf
Trefnu sesiwn fentora derfynol i fentoreion cyfredol. Mae'r cyfarfodydd olaf yn ddelfrydol ar gyfer ystyried pethau gyda'ch gilydd ac i adolygu'r mentora.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin