Cwsg

Mae anghenion pawb yn amrywio o ran cwsg. Yn aml, bydd pryderu ynglŷn â chysgu yn achosi'r corff i dynhau â'r pryder a'i gwneud yn anodd ymlacio ac yn anos cysgu. Os ydych chi'n teimlo nad yw eich cwsg yn llesol, mae pethau syml y gallwch eu gwneud er mwyn ceisio helpu i sefydlu arferion cwsg llesol. Mae'r dolenni cyswllt isod yn cynnig gwybodaeth amrywiol a allai eich helpu.

Cymuned a chymorth ar-lein - Togetherall

Sgwrs â'r gymuned yn ddienw, asesiad a modiwlau hyfforddiant er mwyn eich helpu i ymdopi - ar gael am ddim i fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. https://togetherall.com/

GIG ar-lein - Deg awgrym defnyddiol

Gall newidiadau syml fod yn fuddiol iawn i'n cwsg. Mae'r GIG wedi rhannu 10 awgrym defnyddiol er mwyn eich helpu i newid ambell beth yn eich bywyd er mwyn cysgu’n well. https://www.nhs.uk/Livewell/insomnia/Pages/insomniatips.aspx

Mind Over Mood – Dr Christine Padesky

Gwybodaeth ar-lein ynglŷn â rheoli eich tymer er mwyn cysgu'n well gan yr arbenigwr byd-eang mewn Therapi Ymddygiad Gwybyddol, Christine Padesky https://www.mindovermood.com/

GET SELF HELP ar-lein

Amrywiaeth o daflenni gwaith defnyddiol i'ch helpu i reoli gwahanol gyflyrau https://www.getselfhelp.co.uk/

Sgwrs am ddim bob awr o'r wythnos - Y Samariaid

Sgwrsiwch â rhywun am eich anawsterau - Ar gael i sgwrsio bob awr o'r wythnos dros y ffôn neu e-bost https://www.samaritans.org/wales/how-we-can-help/contact-samaritan/

Gwasanaethau Iechyd Meddwl lleol Gofal Sylfaenol y GIG:

Gwybodaeth hunangymorth ddefnyddiol ar-lein ynglŷn â chwsg a gwybodaeth am sut i ddefnyddio'r gwasanaethau sydd ar gael http://www.iawn.wales.nhs.uk/mental-health-self-help-resources

Gwasanaeth Lles y Myfyrwyr

Gall ein hymarferwyr cymwysedig eich helpu i ystyried gwneud newidiadau defnyddiol er mwyn cysgu'n well a helpu gydag effaith eich cwsg ar eich bywyd academaidd. Gallwch gofrestru â'n gwasanaeth ar-lein.