Dicter

Rydym ni i gyd yn teimlo'n ddig o dro i dro. Os ydych chi'n teimlo bod dicter yn effeithio ar eich gweithgareddau o ddydd i ddydd ac ar eich perthynas â phobl eraill, dylech ofyn am help a chyngor ynglŷn â'r ffordd orau o reoli dicter. Gall y dolenni isod fod yn ganllaw.

Cymuned a chymorth ar-lein - Togetherall

Sgwrs â'r gymuned yn ddienw, asesiad a modiwlau hyfforddiant er mwyn eich helpu i ymdopi - ar gael am ddim i fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. https://togetherall.com/

Mind Over Mood – Dr Christine Padesky

Gwybodaeth ar-lein ynglŷn â rheoli eich tymer gan yr arbenigwr byd-eang mewn Therapi Ymddygiad Gwybyddol, Christine Padesky https://www.mindovermood.com/

Cyflyrau'r GIG Ar-lein

Dysgu sut i reoli dicter a pha opsiynau cymorth sy'n cael eu hargymell drwy'r GIG https://www.nhs.uk/conditions/stress-anxiety-depression/controlling-anger/

Gwasanaethau Iechyd Meddwl lleol Gofal Sylfaenol y GIG:

Gwybodaeth hunangymorth ddefnyddiol ar-lein ynglŷn â Dicter a gwybodaeth am sut i fanteisio ar y gwasanaethau sydd ar gael http://www.iawn.wales.nhs.uk/mental-health-self-help-resources

GET SELF HELP ar-lein

Amrywiaeth o daflenni gwaith defnyddiol i'ch helpu i reoli gwahanol gyflyrau https://www.getselfhelp.co.uk/

Llinell ffôn neu e-bost am ddim bob awr o'r wythnos - Y Samariaid

Sgwrsiwch â rhywun am eich anawsterau - Ar gael i sgwrsio bob awr o'r wythnos dros y ffôn neu e-bost https://www.samaritans.org/wales/how-we-can-help/contact-samaritan/

MIND Aberystwyth

I gael cymorth yn lleol cysylltwch â changen leol Mind i gael sgwrs a chefnogaeth fuddiol

Cyfeiriad: Y Cambria, Glan y Môr, Aberystwyth SY23 2AZ Ffôn: 01970 626225

Gwasanaeth Lles y Myfyrwyr

Gall ein hymarferwyr cymwysedig eich helpu i reoli dicter ac effaith y dicter ar eich bywyd academaidd. Gallwch gofrestru â'n gwasanaeth ar-lein.