Masnachu Mewn Pobl
Yr Athro Ryszard Piotrowicz

Yr Athro Ryszard Piotrowicz

Mae’r Athro Ryszard Piotrwicz wedi bod yn cynnal ymchwil yn agweddau cyfreithiol masnachu mewn pobl ers 20 mlynedd, gan weithio gyda llunwyr polisi i sicrhau newidiadau yn y gyfraith.

“Bu’r Athro Piotrowicz yn aelod gweithgar iawn o GRETA, gan gyfrannu at ddatblygu polisïau yn ogystal â gwaith monitro. Mae'r ddwy elfen yma’n dylanwadu'n uniongyrchol ar weithredoedd gwladwriaethau o ran cynorthwyo pobl sydd wedi'u masnachu ac erlyn y troseddwyr” - Dr Petya Nestorova, Ysgrifennydd Gweithredol GRETA, Grŵp Arbenigwyr Cyngor Ewrop ar Weithredu yn erbyn Masnachu mewn Pobl.

Mae Masnachu Mewn Pobl yn golygu recriwtio, llochi, cludo neu dderbyn pobl er mwyn eu hecsbloetio. Fel rheol, ecsbloetio at ddibenion rhyw neu lafur, ond mae hefyd yn cynnwys cynaeafu organau dynol, troseddi dan orfodaeth, a chardota dan orfodaeth.

Fel rhan o'i ymchwil, mae'r Athro Piotrowicz wedi cyhoeddi erthyglau ar ddyletswydd gwledydd i amddiffyn ac estyn cymorth i ddioddefwyr masnachu mewn pobl, yn enwedig eu dyletswydd i ddarparu statws ffoadur a mathau eraill o nawdd i’r sawl sydd wedu eu cludo dramor, a’r angen i beidio â chosbi pobl a fasnachwyd am droseddau maen nhw wedi cael eu gorfodi i’w cyflawni gan eu masnachwyr. Mae’r gwaith yma wedi’i fabwysiadu’n helaeth gan Gyngor Ewrop, Uchel Gomisiwn y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid yr UNHCR, Sefydliad Diogelwch a Chydweithrediad yn Ewrop yr OSCE, a grŵp arbenigol yr UE ar Fasnachu mewn Pobl.

Mae ei waith wedi arwain at newidiadau i gyfreithiau a pholisïau ar fasnachu mewn pobl ac mae'n gweithio'n rheolaidd fel ymgynghorydd i sefydliadau rhyngwladol sy'n delio â masnachu o’r fath. Mae wedi dyfeisio a chyfrannu at raglenni hyfforddi ar fasnachu mewn pobl ar gyfer gweision cyhoeddus, cyrff anllywodraethol a sefydliadau rhyngwladol. Mae hefyd yn un o'r hyfforddwyr ar raglen addysg ryngwladol ar fasnachu mewn pobl sy'n cael ei gynnig gan Academi John J. Brunetti ym Mhrifysgol St Thomas University, Miami.

Mae'r Athro Piotrowicz yn aelod o sawl corff allanol sy'n ymwneud â'r frwydr yn erbyn masnachu mewn pobl, gan gynnwys Grŵp Arweinyddiaeth Gwrth-gaethwasiaeth Cymru. Ar hyn o bryd mae’n ysgrifennu llyfr am y drefn gyfreithiol Ewropeaidd ar fasnachu mewn pobl, a’i obaith yw y bydd yn cyfrannu at wybodaeth a dealltwriaeth am y pwnc, yn benodol trwy egluro rhwymedigaethau gwledydd i helpu ac amddiffyn y sawl sydd mewn perygl rhag masnachwyr pobl.

Yn y fideo islaw, mae'r Athro Priotrowicz yn siarad am ei waith yn Saesneg.

Mwy o wybodaeth

Yr Athro Ryszard Piotrowicz

Erthygl Newyddion

AU16219 Athro yn y Gyfraith yn Aberystwyth wedi’i ethol yn Is-Lywydd corff hawli

Adran Academaidd

Adran Y Gyfraith a Throseddeg

Nesaf
Blaenorol