Perfformiad ac Anabledd
Dr Margaret Ames

Cyrff Ystwyth performance (Llun gan Chris Stuart)

Mae fy ymchwil wedi’i seilio mewn ymarfer. Rwyf i wedi bod yn gweithio ers 1987 gyda chwmni dawns-drama Cyrff Ystwyth lle mae pobl gydag a heb anableddau dysgu’n dilyn gwaith cydweithwyr sydd ag anableddau dysgu.

Mae’r ymagwedd hon i’r gwrthwyneb i’r model mwy arferol yn y celfyddydau lle mae pobl ag anableddau dysgu’n cael eu hannog i gymryd rhan mewn perfformiad ond yn cael eu harwain gan hwyluswyr nad ydyn nhw’n anabl.

Mae pobl ag anableddau dysgu’n parhau i fod ar ymylon cymdeithas. Yn aml mae pobl sy’n ei chael yn anodd ymdopi yn ein byd cymhleth yn ymwneud ag ymarfer theatr oherwydd gall fod yn fuddiol. Fodd bynnag mae pobl ag anableddau dysgu sy’n cael cyfle i arwain prosiectau creadigol yn datgelu ymagweddau newydd at goreograffi a themâu, gan dynnu ar eu profiadau, eu barn a’u gwybodaeth benodol. Gall hefyd newid canfyddiadau am anableddau dysgu ymhlith pobl nad oes ganddynt anableddau o’r fath.

Mwy o wybodaeth

Dr Margaret Ames

Adran Academaidd

Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu

Nesaf
Blaenorol