Ymchwil, Busnes ac Arloesi

Mae’r Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi (YBA) yn cynnig ystod o wasanaethau cymorth i staff ymchwil – o ddatblygiad proffesiynol i baratoi ceisiadau am grantiau. Mae’r Adran hefyd yn borth i ddiwydiant a sefydliadau allanol eraill i ddarganfod mwy am y cyfoeth o gyfleoedd cyfnewid gwybodaeth a gynigir gan Brifysgol Aberystwyth, a sut y gall busnes a’r byd academaidd gydweithio.

Cliciwch ar y diagram uchod i'w ehangu.

Cenhadaeth YBA

  • Darparu gwasanaethau o ansawdd uchel sy'n cefnogi ymdrechion ymchwilwyr i ariannu, monitro a chyfieithu eu hymchwil yn allanol mewn ffordd sy'n sicrhau'r effaith ehangaf bosibl ac sydd o fudd i gymdeithas.
  • Creu cysylltiadau cryf gyda diwydiant, llywodraeth a chymunedau a fydd yn bartneriaid i ni o ran cyllid ac effaith.
  • Optimeiddio ein perfformiad yn erbyn rhagoriaeth ymchwil sefydledig a fframweithiau cyfnewid gwybodaeth sy'n adeiladu gwytnwch sefydliadol a sefydlogrwydd ariannol.