Gwasanaethau YBA

Cliciwch ar y diagram uchod i'w ehangu.

Ymgysylltu

Rydym yn hwyluso deialog gyda chymunedau, cwsmeriaid a llunwyr polisi sy'n ymwneud â chyfnewid gwybodaeth.

Datblygu Cyfleoedd i Gyfnewid Gwybodaeth: Rydym yn cefnogi ymchwilwyr i ddatblygu a chyflwyno cyfleoedd cymhellol ar gyfer cyfnewid gwybodaeth ar bob cam o'r ymchwil. 

Datblygu Cysylltiadau Cymunedol: Rydym yn meithrin cysylltiadau cadarnhaol ac yn datblygu rhwydweithiau â sefydliadau a chymunedau sy’n sicrhau bod ein hymchwil a’n cyfnewid gwybodaeth yn cael yr effaith ehangaf bosibl. 

Ymgysylltiad Ymchwilwyr: Rydym yn gweithio gydag ymchwilwyr i gataleiddio syniadau ymchwil newydd, gwella cydweithio a chryfhau cyfleoedd effaith. 

Ymgysylltiad Cyhoeddus: Rydym yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu cyfleoedd i ymchwilwyr gyfnewid gwybodaeth â’r cyhoedd gan greu’r effaith ehangaf bosibl.

Cysylltwch â: deialog@aber.ac.uk

Datblygu

Rydym yn datblygu cyfleoedd ariannu a phartneriaethau i adeiladu gweithgarwch cyfnewid gwybodaeth.

Cymorth Grant Cyn Dyfarnu: Rydym yn cefnogi ymchwilwyr i ddatblygu a chyflwyno cynigion i gyllidwyr ymchwil allanol, gan reoli'r galw am gynlluniau gyda nifer cyfyngedig o ymgeiswyr. 

Diwylliant Ymchwil a Chyfnewid Gwybodaeth: Rydym yn creu amgylchedd cefnogol ac yn arwain eraill i wella ansawdd gweithgarwch ymchwil a chyfnewid gwybodaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth. 

Rheoli Partneriaethau: Rydym yn canfod a meithrin cysylltiadau cynaliadwy hirdymor gyda phartneriaid strategol. 

Datblygu Seilwaith: Cynllunio, Casglu, Monitro a Chyhoeddi Data

Cysylltwch â: rdostaff@aber.ac.uk

Sicrhau

Rydym yn sicrhau bod ceisiadau am gyllid yn gymwys ac yn gystadleuol. Rydym yn adeiladu gallu ymchwilwyr a diwylliant ymchwil ar gyfer rhagoriaeth.

Datblygu Grantiau a Buddsoddiadau Mawr: Rydym yn sicrhau cyllid cyhoeddus a phreifat strategol mawr i adeiladu lleoedd a rhaglenni i wella ansawdd ac effaith ymchwil y Brifysgol. 

Datblygu Sgiliau Ymchwilwyr: Rydym yn hyfforddi ac yn addysgu ymchwilwyr yn rhan o’u cynlluniau meithrin gyrfa. 

Moeseg a Llywodraethu Cyn Dyfarnu: Rydym yn cefnogi’r broses adolygu moesegol ar gyfer ymchwil ac yn cefnogi diwydrwydd dyladwy ymchwil cydweithredol rhyngwladol. 

Datblygu Portffolio Sicrhau Grantiau: Rydym yn chwilio am gyfleoedd sy'n cyfateb ein cryfderau ymchwil i ffynonellau ariannu ac yn cefnogi ymchwilwyr i arwain ceisiadau ariannu. 

Cysylltwch â: busnes@aber.ac.uk

Contractau

Rydym yn trafod a ffurfioli perthnasau sy'n sicrhau’r effaith fwyaf o bob gweithgaredd, tra'n rheoli risg.

Contractau: Rydym yn negodi ac yn drafftio contractau sy’n ffurfio cytundeb cyfreithiol rhwng y Brifysgol a phartïon eraill, yna’n monitro’r rhwymedigaethau y mae’r naill a’r llall wedi cytuno i’w cyflawni. 

Defnyddio Asedau: Rydym yn datblygu cynlluniau sy’n cynyddu’r gwerth a geir o asedau'r Brifysgol. 

Masnacheiddio: Rydym yn cynghori ac yn cefnogi masnacheiddio: y broses ar gyfer dod â thechnolegau, cynhyrchion, prosesau a gwasanaethau newydd neu well i'r farchnad gan ddefnyddio ymchwil y Brifysgol. 

Datblygu Is-gwmni: Rydym yn sianelu gweithgareddau cyfnewid gwybodaeth y Brifysgol a dechrau busnes newydd trwy fodel is-gwmni. 

Cysylltwch â: cytundebau@aber.ac.uk

Darparu

Rydym yn arwain, monitro ac adrodd i sicrhau bod y Brifysgol yn cyfarfod rhwymedigaethau cytundebol ac yn dangos rhagoriaeth.

Cofnodi a Defnydd Cyfrifol o Fetrigau: Rydym yn sicrhau bod y metrigau a ddefnyddir i asesu ansawdd cynnyrch ymchwil y Brifysgol a’u heffaith yn berthnasol ac yn gywir. 

Cydymffurfio a Rheoli Polisi: Rydym yn cynghori a hyfforddi timau prosiectau ymchwil ar sut i gyflwyno prosiectau â chyllid grant sy’n sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau cyllidwyr. 

Moeseg a Llywodraethu Ôl-ddyfarniad: Rydym yn darparu cymorth ar foeseg a llywodraethiant i ymchwilwyr a'r Brifysgol yn ystod y gwaith o gyflwyno prosiect. 

Sicrhau Ansawdd a Chyllid Ôl-ddyfarniad: Rydym yn gweinyddu grantiau ymchwil, arloesi a chyfnewid gwybodaeth a ddyfarnwyd, yn darparu Sicrwydd Ansawdd ac yn cynghori ar arferion gorau i sicrhau bod canlyniadau prosiectau’n bodloni gofynion disgwyliedig tra’n lleihau risgiau. 

Monitro a Llywodraethu: Rydym yn goruchwylio ac yn adrodd i’r Weithrediaeth ar ein dull o weinyddu grantiau mawr i sicrhau cywirdeb, llywodraethu cadarn a darpariaeth lawn yn erbyn disgwyliadau’r cyllidwr.

Cysylltwch â: postaward@aber.ac.uk

Gweinyddu, Marchnata a Chyfathrebu

Cyfathrebu a Marchnata: Rydym yn cefnogi staff YBA i greu negeseuon clir i hysbysu, ysbrydoli a gwella ymchwil, arloesi a chyfnewid gwybodaeth ar draws pob cam o’r gwasanaeth. 

Cysylltwch â: rbicomms@aber.ac.uk

Rheoli a Gweinyddu Swyddfa: Rydym yn sicrhau bod gan staff YBA y gefnogaeth weinyddol o'r ansawdd uchaf ar gyfer prosiectau, rhaglenni, cyfarfodydd a digwyddiadau ar draws pob cam o’r gwasanaeth. 

Cysylltwch â: drbi@aber.ac.uk