Athro yn y Gyfraith yn Aberystwyth wedi’i ethol yn Is-Lywydd corff hawliau dynol Ewropeaidd
Yr Athro Ryszard Piotrowicz
01 Ebrill 2019
Mae arbenigwr ar gyfraith ymfudo a masnachu pobl ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi cael ei ail-ethol i swydd flaenllaw gydag un o gyrff hawliau dynol pwysicaf Ewrop.
Mae’r Athro Ryszard Piotrowicz o Adran y Gyfraith a Throseddeg wedi cael ei ethol yn Is-Lywydd GRETA, sef Grŵp Arbenigwyr Cyngor Ewrop ar Weithredu yn erbyn Masnachu Pobl, sydd wedi’i leoli yn Strasbwrg.
Mae’r grŵp yn gyfrifol am asesu sut mae gwledydd Ewropeaidd yn cyflawni eu dyletswyddau i ddiogelu pobl rhag cael eu masnachu i’w hecsbloetio’n rhywiol neu am eu llafur, yn ogystal â chloriannu’r camau y mae gwledydd yn eu cymryd i ddal ac erlyn y masnachwyr.
Etholwyd yr Athro Piotrowicz i GRETA yn wreiddiol yn 2012, cyn cael ei ethol yn Is-Lywydd yn 2017. Bydd yn gwasanaethu fel Is-Lywydd am dymor pellach o ddwy flynedd.
Yn sôn am gael ei ail-ethol, dywedodd yr Athro Ryszard Piotrowicz: “Rwy’n hynod falch o gael fy ethol gan fy nghydweithwyr yn GRETA i fod yn Is-Lywydd am ail dymor. Rwyf wedi bod yn aelod o GRETA am bron i saith mlynedd bellach, ac yn ystod y cyfnod hwn rwyf wedi ymweld â llawer o wledydd i asesu pa mor effeithiol yw eu cyfreithiau a’u polisïau gwrth-fasnachu, gan gynnwys yr Almaen, Gwlad Groeg, Denmarc, Malta, Kosovo, Macedonia, Azerbaijan a’r Weriniaeth Tsiec. Fel Is-Lywydd rwyf yn gyfrifol am gyfarwyddo gweithgareddau a blaenoriaethau’r Grŵp, gyda’r nod o sicrhau’r mesurau diogelu gorau posibl yn erbyn masnachu pobl i mewn i, ac o fewn, Ewrop.”
Yr Athro Ryszard Piotrowicz
Ac yntau'n hanu o'r Alban, astudiodd yr Athro Piotrowicz ym Mhrifysgolion Dundee, Glasgow, Thessaloniki a Warsaw, yn ogystal ag astudio yn Sefydliad Materion Rhyngwladol Gwlad Pwyl yn Warsaw a Sefydliad Max-Planck y Gyfraith Ryngwladol yn Heidelberg.
Ar ôl cael ei Ddoethuriaeth yn 1987, aeth i fod yn ddarlithiwr ym Mhrifysgol Tasmania, gan aros am ddeng mlynedd ac yna cael ei benodi'n Ddeon ar Gyfadran y Gyfraith.
Cafodd Gadair yn y Gyfraith yn 1999 ac mae hefyd wedi dysgu'r gyfraith ryngwladol ym Mhrifysgolion Glasgow a Durham. Mae'n un o Gymrodorion Alexander-von-Humboldt a bu'n athro gwadd yn y gyfraith ryngwladol mewn sawl gwlad.
Mae'n arbenigo ar gyfraith ymfudo a'r gyfraith ddyngarol ryngwladol, ac ar hyn o bryd mae wrthi'n gweithio'n bennaf ar y materion cyfreithiol sy'n codi o fasnachu pobl.
Mae wedi cynghori cyrff rhyngwladol, llywodraethau cenedlaethol a chyrff anllywodraethol ar y materion hyn. Mae'n aelod o Grŵp Arweinyddiaeth Atal Caethwasiaeth Cymru a bu'n aelod o Grŵp y Comisiwn Ewropeaidd o Arbenigwyr ar Fasnachu Pobl o 2008-15.
Mae'r Athro Piotrowicz wedi gweithio'n eang â sefydliadau rhyngwladol, gan gynnwys y Sefydliad dros Ddiogelwch a Chydweithredu yn Ewrop (OSCE), Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid (UNHCR), Sefydliad Rhyngwladol Ymfudo (IOM) a'r UE.