Mr Liam Edwards PhD, MPhys
Manylion Cyswllt
- Ebost: lte2@aber.ac.uk
- Swyddfa: 3.17, Adeilad y Gwyddorau Ffisegol
- Gwefan Personol: https://liamtomosedwards.github.io/
- Twitter: LiamTEdwards
- Proffil Porth Ymchwil
- Rhagenwau personol: Fo / ei
Proffil
Mae Liam yn gynorthwyydd ymchwil ôl-ddoethurol yn y grŵp ymchwil Ffiseg y Gofod sy’n gweithio ar ddadansoddi data electronau egnïol o’r offeryn SIXS ar y llong ofod BepiColombo. Cwblhaodd ei PhD yn ddiweddar, ar ôl ennill Ysgoloriaeth Ymchwil gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 2019 i ariannu ei astudiaethau ôl-raddedig. Roedd ei PhD yn cynnwys defnyddio arsylwadau golau gweladwy o gorona'r ar uchderau heliocentrig isel (<8 Rs), ar y cyd â thechnegau dadansoddi data, i astudio dwysedd electronau yn y corona - paramedr pwysig mewn modelu coronaidd a heliosfferig. Ceir gwybodaeth fanylach am ei ymchwil ac ymchwil y grŵp cyfan yn: https://solarphysics.aber.ac.uk/