Myfyrwraig gyntaf yn ennill gwobr er mwyn rhoi hwb i filfeddygaeth yng Nghymru
05 Hydref 2023
Mae’r enillydd cyntaf gwobr newydd i hybu milfeddygaeth yng Nghymru wedi’i gyhoeddi gan Brifysgol Aberystwyth.
Hwb ariannol i brosiect cymorth cyfreithiol i gyn-filwyr
02 Hydref 2023
Mae prosiect sy'n darparu cymorth cyfreithiol yn rhad ac am ddim i gyn-filwyr wedi derbyn rhagor o gyllid gwerth £499,885 dros 3 blynedd oddi wrth Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Dechrau gwaith i ailddatblygu maes parcio Eglwys Mihangel Sant
02 Hydref 2023
Bydd gwaith i ailddatblygu maes parcio Eglwys Mihangel Sant yn Aberystwyth yn dechrau’r wythnos hon fel rhan o gynllun uchelgeisiol i roi bywydd newydd i'r Hen Goleg.
Syr Anthony Hopkins yn anfon neges fideo ar gyfer digwyddiad dathlu 50 mlwyddiant yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu
03 Hydref 2023
Yn rhan o ddangosiad arbennig o ffilm newydd Andie MacDowell a ffilmiwyd yn Aberystwyth, bydd yr actor Syr Anthony Hopkins yn cyflwyno neges fideo yn arbennig i’r myfyrwyr a fu’n gweithio’n aelodau o’r criw.
Cartref clyfar i gyfrannu at fenter ofal newydd ym Mhowys
06 Hydref 2023
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi ffurfio partneriaeth gyda Chyngor Sir Powys fel un o 10 tîm sy’n cymryd rhan mewn rhaglen technoleg gofal arloesol newydd gwerth £2m.
Penodi Is-Ganghellor newydd i Brifysgol Aberystwyth
09 Hydref 2023
Mae’r Athro Jon Timmis, Dirprwy Is-Ganghellor (Masnachol) Prifysgol Sunderland, wedi’i benodi yn Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth a bydd yn dechrau yn y rôl ar 1 Ionawr 2024.
Ar drywydd heddwch yng Ngogledd Iwerddon: Sgwrs gydag Eileen Weir
10 Hydref 2023
Yr heddychwr arobryn o Ogledd Iwerddon, Eileen Weir, yn myfyrio ar ei phrofiadau personol yn ymgyrchydd cymunedol fydd digwyddiad cyweirnod Gŵyl Ymchwil Prifysgol Aberystwyth.
Ghosts: y tebygrwydd rhyfeddol rhwng comedi y BBC a thŷ a aflonyddid gan ysbrydion ‘go iawn’ yn oes Fictoria
11 Hydref 2023
Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Alice Vernon (Darlithydd yn Llenyddiaeth ac Ysgrifennu Creadigol y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg) yn cymharu'r cymysgedd o hiwmor a dwyster yng nghyfres gomedi'r BBC ag ymdrechion go iawn i gyfathrebu ag ysbrydion, yn enwedig tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Pobl yng Ngholombia yn defnyddio celf i greu heddwch mewn dinas lle bu gwrthdaro
13 Hydref 2023
Bydd tîm sy'n ymroddedig i ddefnyddio celf i fynd i'r afael â thrais a gwrthdaro yn ninas Medellín Colombia yn cyflwyno eu canfyddiadau ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Iau 19 Hydref.
£3 miliwn gan un o dorwyr cod Enigma ar gyfer ymchwil Prifysgol Aberystwyth
13 Hydref 2023
Mae un o raddedigion o Aberystwyth a gyfrannodd at dorri cod Enigma yr Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd wedi gadael dros £3m i'w chyn-Brifysgol.
Ni ddaeth Maen Allor Côr y Cewri o Gymru – ymchwil
17 Hydref 2023
Mae ansicrwydd am darddiad y “garreg las” fwyaf sydd yng nghanol Côr y Cewri yn sgil ymchwil newydd o Brifysgol Aberystwyth.
Penweddig yn blasu llwyddiant gyda’i hastudiaeth pecynnau bwyd
17 Hydref 2023
Profodd astudiaeth o'r farchnad fyd-eang ar gyfer bocsys ryseitiau a chitiau bwyd yn gynhwysyn allweddol i enillwyr gwobr fusnes i nodi 150 mlwyddiant Prifysgol Aberystwyth.
Llyfr newydd i nodi canmlwyddiant Deiseb Heddwch Menywod Cymru
17 Hydref 2023
Bydd cyfrol ddwyieithog yn adrodd stori ryfeddol deiseb heddwch, a lofnodwyd ganrif yn ôl gan 390,296 o fenywod Cymru a’i chludo draw i America, yn cael ei lansio’n swyddogol yng Ngŵyl Ymchwil Prifysgol Aberystwyth ar 3 Tachwedd.
Prifysgol Aberystwyth yn dangos ymchwil i Weinidogion yn Llundain
24 Hydref 2023
Mae gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth wedi trafod eu hymchwil gyda Gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol mewn digwyddiad yn Llundain yn arddangos y gorau o ymchwil ac arloesi Cymru.
Beth fydd yn digwydd i len iâ yr Ynys Las os byddwn yn methu ein targedau cynhesu byd-eang
19 Hydref 2023
Mewn erthygl ar gyfer The Conversation, mae'r Athro Bryn Hubbard o'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn son am astudiaeth newydd sy'n awgrymu y bydd yr iâ yn goroesi os yw'r tymheredd yn dod yn ôl i lawr yn fuan.
Aberystwyth yn rhannu ymchwil a phrofiadau gyda chymuned siaradwyr Hakka
19 Hydref 2023
Bu aelodau o’r gymuned sy’n siarad yr iaith Hakka yn Taiwan yn ymweld â Phrifysgol Aberystwyth ddydd Iau 19 Hydref i ddysgu am ymchwil ac am brofiadau ymarferol wrth hybu’r defnydd o’r Gymraeg.
Storm y Royal Charter 1859: y sbardun ddinistriol ar gyfer creu'r rhagolygon tywydd i forwyr
25 Hydref 2023
Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Cerys Jones o’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn trafod Storm y Royal Charter 1859, a’i effaith barhaol ar ragolygon tywydd y Deyrnas Gyfunol a thu hwnt.
Gwobrau rhagoriaeth am effaith ymchwil ar bolisïau byd-eang
25 Hydref 2023
Mae gwaith arloesol gan ddau ymchwilydd ym meysydd bioamrywiaeth fyd-eang a rheoleiddio masnachu mewn pobl wedi cael cydnabyddiaeth arbennig.
Gobaith a Chytgord: Noson o gerddoriaeth, barddoniaeth a bwyd Syriaidd
25 Hydref 2023
Bydd noson o fwyd ac adloniant yn cael ei chynnal yn Aberystwyth i godi arian i achosion lleol sy'n cynorthwyo'r rhai sydd wedi dioddef effeithiau rhyfel.
Cyhoeddi enillydd cyntaf Ysgoloriaeth Milfeddygaeth ‘Defi Fet’
25 Hydref 2023
Elan Haf Henderson o Landwrog ydy enillydd cyntaf Ysgoloriaeth ‘Defi Fet’ y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Pump enghraifft o lenyddiaeth gothig Gymreig y dylech chi ddarllen y Calan Gaeaf hwn
27 Hydref 2023
Wrth ysgrifennu yn The Conversation, mae Sophie Jessica Davies o'r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn argymell pum darn o waith o lenyddiaeth gothig Gymreig y dylech chi ddarllen y Calan Gaeaf hwn.
Nos Galan Gaeaf: y dathliad traddodiadol Cymreig sy'n cael ei ddisodli gan y Calan Gaeaf modern
30 Hydref 2023
Wrth ysgrifennu yn The Conversation, mae Dr Simon Rodway o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn trafod Nos Galan Gaeaf, ac a yw ei harferion fel dathliad traddodiadol Cymreig yn dechrau cael eu disodli gan y Calan Gaeaf modern.
Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Hybu’r Gymraeg Prifysgol Aberystwyth
31 Hydref 2023
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi anrhydeddu unigolion am eu cyfraniad at y Gymraeg.