Prifysgol Aberystwyth yn dangos ymchwil i Weinidogion yn Llundain
Ysgrifennydd Cymru David TC Davies (dde) a Dr Kerrie Farrar o Brifysgol Aberystwyth (chwith)
24 Hydref 2023
Mae gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth wedi trafod eu hymchwil gyda Gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol mewn digwyddiad yn Llundain yn arddangos y gorau o ymchwil ac arloesi Cymru.
Dangosodd Dr Kerrie Farrar a’r Athro Richard Lucas eu hymchwil ar Miscanthus a’r prosiect mapio tir byd-eang ‘Daear Byw’ yn y digwyddiad a fynychwyd gan Ysgrifennydd Cymru David TC Davies a’r Gweinidog Gwyddoniaeth, George Freeman.
Swyddfa Cymru a Rhwydwaith Arloesi Cymru oedd wedi cynnal y digwyddiad yn Lancaster House a oedd yn tynnu sylw at gryfder ac ehangder ymchwil prifysgolion Cymru, a gallu’r ymchwil i sicrhau manteision amlwg i gymunedau yng Nghymru, y DU a ledled y byd.
Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i fuddsoddi bron i £40 biliwn mewn ymchwil a datblygu rhwng 2022 a 2025. Mae prifysgolion Cymru mewn sefyllfa dda i gael gafael ar ragor o gyllid ar gyfer ymchwil, gydag ymdrech i gynyddu’r cyllid i ardaloedd yn y DU y tu allan i dde-ddwyrain Lloegr o leiaf 40% erbyn 2030.
Dywedodd David TC Davies, Ysgrifennydd Cymru:
"Roedd yn bleser gennyf groesawu prifysgolion Cymru i'r digwyddiad arbennig iawn hwn a dangos ymrwymiad Llywodraeth y DU i'r sector addysg uwch. Roedd yn gyfle gwych i UKRI gael blas ar rywfaint o'r gwaith ymchwil ac arloesi anhygoel sydd eisoes yn digwydd yng Nghymru ar draws ein holl brifysgolion.
"Rwyf am i brifysgolion Cymru chwarae rhan hollbwysig wrth osod y DU ar flaen y gad o ran ymchwil a datblygu, ac rwy'n gobeithio bod y digwyddiad hwn wedi ein helpu i wneud cynnydd tuag at y nod cyffredin hwnnw."
Dywedodd yr Athro Angela Hatton,Dirprwy Is-Ganghellor dros Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesi ymMhrifysgol Aberystwyth:
"Roedd yn bleser cael cwrdd â’r Gweinidigion ac roedd yn gyfle gwych i dynnu sylw at rywfaint o’r gwaith ymchwil ac arloesi o safon byd-eang sy’n digwydd ym Mhrifysgol Aberystwyth.
"Gyda sector ymchwil ac arloesi sy'n cael ei ariannu'n gynaliadwy, gallwn barhau i greu effaith economaidd a chymdeithasol ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol."
Dywedodd y Fonesig Athro Ottoline Leyser, Prif Weithredwr UKRI:
"Mae yna gryfderau ymchwil ac arloesi nodedig ym mhrifysgolion Cymru, ac yn system ymchwil ac arloesi ehangach Cymru. Pan rwyf wedi ymweld â Chymru a chwrdd â rhanddeiliaid yng Nghymru, rwyf wedi siarad â llawer o bobl wych, gan gynnwys ymchwilwyr ac entrepreneuriaid ar ddechrau eu gyrfa, technegwyr, y gymuned leol ac arweinwyr ymchwil byd-eang.
"Mae prifysgolion Cymru yn llwyddiannus iawn wrth ennill cyllid ymchwil o bob rhan o UKRI, gyda chyfraddau llwyddiant yn debyg i weddill y DU. Mae'r prosiectau hyn yn dangos yn gadarn sut mae prifysgolion Cymru yn datblygu ymchwil ar draws ystod eang o feysydd, ac yn sbarduno arloesedd a thwf economaidd, sydd o fudd i'r DU gyfan a thu hwnt."