Dechrau gwaith i ailddatblygu maes parcio Eglwys Mihangel Sant
Chwith i’r Dde: Hannah Green o Eglwys Mihangel Sant, Nia Davies a Jim O’Rourke o Brosiect yr Hen Goleg, a Craig Williams o Andrew Scott Cyf, prif contractiwr prosiect yr Hen Goleg, ym maes parcio Eglwys Mihangel Sant.
02 Hydref 2023
Bydd gwaith i ailddatblygu'r maes parcio yn Eglwys Mihangel Sant yn Aberystwyth yn dechrau’r wythnos hon.
Bydd y maes parcio talu ac arddangos yn cael ei uwchraddio gydag arwyneb a goleuo newydd, a 3 lle parcio dynodedig ychwanegol ar gyfer yr anabl.
Mae’r gwaith yn cael ei ariannu fel rhan o brosiect ailddatblygu'r Hen Goleg, a bydd yn cynyddu nifer y mannau parcio i 71 tra'n cadw'r mannau gwyrdd o amgylch y safle.
Mae darparu mannau parcio dynodedig yn amod cynllunio ar gyfer prosiect yr Hen Goleg. Bydd cytundeb gydag Eglwys Mihangel Sant yn golygu bod 30 o leoedd parcio wedi’u neilltuo i’w defnyddio gan yr Hen Goleg pan dydd y gwaith wedi’i gwblhau.
Mae disgwyl i’r gwaith o ailddatblygu'r safle gymryd tri mis a bydd parcio cyfyngedig ar gael ar sail talu ac arddangos wrth i'r gwaith fynd rhagddo.
Mae trefniadau hefyd ar waith i ganiatáu i addolwyr yn Eglwys Mihangel Sant ddefnyddio'r ardal rhwng 10:30am a 1:30pm ar ddydd Sul a phan fydd yr Eglwys yn cynnal priodasau, angladdau a digwyddiadau nodedig eraill.
Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Arweinydd Gweithredol Prifysgol Aberystwyth ar gyfer Prosiect yr Hen Goleg: "Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gydag Eglwys Mihangel Sant i wella cyfleusterau yn y maes parcio hwn. Bydd y trefniadau o fudd i addolwyr a thrigolion lleol, tra'n darparu adnodd pwysig ar gyfer prosiect yr Hen Goleg a ddaw â manteision economaidd sylweddol i Aberystwyth a'r ardal gyfagos.”
Bydd y gwaith ar y safle’n cael ei oruchwylio gan Andrew Scott Limited, prif gontractwr prosiect yr Hen Goleg, gyda chymorth Gwasanaethau Archeolegol DAT, un o adrannau Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed, gan fod rhan o’r maes parcio ar hen fynwent.
Dywedodd Craig Williams o Andrew Scott Cyf: “Bydd sensitifrwydd y safle hwn yn flaenllaw yn ein meddyliau wrth i ni weithio i wella’r ardal dros yr wythnosau nesaf. Mae’n anochel y bydd rhywfaint o darfu ar drefniadau parcio wrth i’r gwaith fynd rhagddo, ond byddwn yn gwneud pob ymdrech i leihau hyn cyn belled ag y bo modd wrth i ni weithio i wella’r gofod hwn ar gyfer y rhai sy’n ei ddefnyddio’n rheolaidd.”
Dywedodd y Parch. Ganon Mark Ansell o Eglwys Mihangel Sant: “Rydym yn falch o allu cydweithio â’n cymdogion, Prifysgol Aberystwyth, ar brosiect yr Hen Goleg ac rydym yn hyderus y bydd y gwelliannau sydd mawr eu hangen i dir yr eglwys yn cael eu gwerthfawrogi gan y gymuned leol ac ymwelwyr â’r dref.”
Cefnogir prosiect yr Hen Goleg gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Cronfa Cymunedau’r Arfordir, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ymddiriedolaethau dyngarol ac unigolion.