Aberystwyth yn rhannu ymchwil a phrofiadau gyda chymuned siaradwyr Hakka
Aelodau o’r gymuned Hakka o Taiwan yn ystod eu hymweliad â Phrifysgol Aberystwyth i ddysgu am y gwaith sy’n cael ei wneud i hyrwyddo’r Gymraeg.
19 Hydref 2023
Bu aelodau o’r gymuned sy’n siarad yr iaith Hakka yn Taiwan yn ymweld â Phrifysgol Aberystwyth ddydd Iau 19 Hydref i ddysgu am ymchwil ac am brofiadau ymarferol wrth hybu’r defnydd o’r Gymraeg.
Rhoddodd academyddion blaenllaw’r Brifysgol gyflwyniadau ar y meysydd addysg statudol a galwedigaethol a’r Gymraeg ynghyd â’r ymchwil ddiweddaraf i adfywio’r iaith. Clywyd hefyd am waith Mudiad Meithrin yn y sector blynyddoedd cynnar.
Arweiniwyd yr ymweliad gan aelodau o Gyngor Materion Hakka sy’n gweithio i adfywio iaith a diwylliant Hakka, a dod yn ganolfan fyd-eang ar gyfer ymchwil a chyfnewid diwylliannol Hakka.
Mae tua 4.5 miliwn o bobl Hakka yn byw yn Taiwan, yn bennaf yn y gogledd-orllewin, sef tua 20% o boblogaeth y wlad o 23 miliwn.
Caiff yr iaith ei siarad gan un o bob dau o’r boblogaeth Hakka, ond ymhlith plant mae'r ganran cyn ised â 13% sy’n ei dysgu’n bennaf mewn ysgolion.
Tra bod siaradwyr Hakka hefyd i’w cael yn Tsieina, Malaysia ac Indonesia, mae'r iaith wedi'i chategoreiddio fel un sydd mewn perygl.
Adran Datblygu Iaith Cyngor Materion Hakka sydd â'r dasg o adeiladu seilwaith yr iaith Hakka a chryfhau'r gwaith o hyrwyddo ieithoedd lleiafrifoedd ethnig.
Roedd y ddirprwyaeth yn cynnwys addysgwyr a phenderfynwyr allweddol o Taiwan sydd â diddordeb mewn addysg mamiaith ac addysg ddwyieithog ar bob lefel.
Roedd y ddirprwyaeth o 49 yn cynnwys Mr Kuo-Sung Sun, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Adran Ddatblygu Iaith a Mr Kuan-Ting Liu, Gweithrediaeth yr Adran Iaith, Cyngor Materion Hakka ynghyd ag athrawon prifysgol, penaethiaid ac athrawon lefelau meithrinfa i brifysgol.
Croesawyd yr ymweliad gan Dr Rhodri Llwyd Morgan, Cyfarwyddwr y Gymraeg, Diwylliant ac Ymgysylltiad Allanol. Dywedodd Dr Morgan: “Roedd yn bleser croesawu’r ddirprwyaeth o Taiwan a chael y cyfle i ddysgu am y bobl a’r iaith Hakka a chael y cyfle i rannu’r gwaith sy’n cael ei wneud yn Aberystwyth ac yn ehangach yng Nghymru i hybu’r defnydd o’r Gymraeg. Rwy’n mawr obeithio y bydd yr ymweliad yn cynnig syniadau i gefnogwyr yr iaith Hakka ar gyfer ei hybu, yn enwedig ymhlith pobl ifanc. Mae’r heriau sy’n wynebu’r Gymraeg yn cael eu hadlewyrchu gan ieithoedd eraill ar draws y byd ac mae dysgu am brofiadau eraill yn bwysig wrth i ni ddatblygu ein gwaith yma i ehangu apêl a defnydd y Gymraeg.”
Yn ystod eu hymweliad deuddydd ag Aberystwyth, bu’r ddirprwyaeth yn ysgolion Penweddig a Phlascrug i gael cipolwg ar addysg ddwyieithog mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.