Penodi Is-Ganghellor newydd i Brifysgol Aberystwyth
Yr Athro Jon Timmis
09 Hydref 2023
Mae’r Athro Jon Timmis wedi’i benodi’n Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.
Ar hyn o bryd mae'r Athro Timmis yn Ddirprwy Is-Ganghellor (Masnachol) Prifysgol Sunderland lle mae'n arweinydd gweithredol ar gyfer cynllunio academaidd a gwasanaethau, ymchwil a chyfnewid gwybodaeth, datblygu strategol, gweithgaredd rhyngwladol, recriwtio myfyrwyr a chydraddoldeb, amrywioldeb a chynhwysiant.
Mae’r Athro Timmis yn gyn-fyfyriwr Prifysgol Aberystwyth, lle bu’n astudio Cyfrifiadureg fel myfyriwr aeddfed cyn cwblhau doethuriaeth mewn deallusrwydd artiffisial.
Gwnaed y cyhoeddiad heddiw (9 Hydref, 2023) yn dilyn proses recriwtio a arweiniwyd gan Gadeirydd Cyngor y Brifysgol, Dr Emyr Roberts.
Dywedodd Dr Roberts: “Ar ôl proses hynod gystadleuol, mae’n bleser gen i gyhoeddi penodiad yr Athro Timmis i rôl yr Is-Ganghellor.
“Rydym wedi’n plesio’n fawr gan record yr Athro Timmis o gyflwyno ac arloesi, ei frwdfrydedd dros Aberystwyth fel sefydliad a thref, a’i weledigaeth wych ar gyfer dyfodol y Brifysgol. Mae'n gyfnod hynod gystadleuol i'r sector addysg uwch, gyda sefydliadau'n gweithio dan amodau economaidd anodd. Rwyf i a chyd-aelodau’r Cyngor yn gwybod bod yr Athro Timmis wedi ymrwymo’n llwyr i adeiladu ar ein hanes o lwyddiant ac arloesedd.”
Ar ôl astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng 1993 a 2000, ymunodd yr Athro Timmis â Phrifysgol Caint yn 2000, lle daeth yn Uwch Ddarlithydd. Yn 2005, ymunodd â Phrifysgol Efrog fel Darllenydd rhwng yr adrannau Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig, cyn dod yn Athro. Bu’n Bennaeth Adran Peirianneg Electronaidd Prifysgol Efrog rhwng 2015 a 2017, yna’n Ddirprwy Is-Ganghellor Partneriaethau a Chyfnewid Gwybodaeth rhwng 2017 a 2019 cyn ymuno â Sunderland.
Mae'r Athro Timmis wedi derbyn Gwobr Teilyngdod Ymchwil y Gymdeithas Frenhinol-Wolfson a Chymrodoriaeth Menter yr Academi Beirianneg Frenhinol. Mae wedi cyhoeddi tua 300 o bapurau ac wedi codi mwy na £30 miliwn mewn cyllid ymchwil.
Meddai’r Athro Jon Timmis: “Mae’n anrhydedd cael fy mhenodi’n Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth. Mae’n sefydliad sy’n annwyl iawn i mi ac yn un sy’n cael ei adnabod am ragoriaeth y dysgu, boddhad myfyrwyr ac arloesedd ymchwil. Mae addysgu ac ymchwil arloesol Prifysgol Aberystwyth yn diwallu anghenion Cymru sy’n newid a byd ehangach sy’n newid. Rwyf am adeiladu ar yr arloesedd hwn, gan weithio gyda phartneriaid yn y sectorau preifat a chyhoeddus, yn lleol ac yn fyd-eang, ac effeithio ar newid sydd o fudd i bob un ohonom yn y blynyddoedd i ddod.
“Ar ôl byw ac astudio yn Aberystwyth, rwy'n gyfarwydd iawn â'r gymuned ddwyieithog fywiog. Ochr yn ochr a’i heffaith fyd-eang, rwyf wedi cael fy mhlesio'n fawr gan bwysigrwydd allweddol Prifysgol Aberystwyth i'w chymuned a'i rhanbarth, gan gynnwys ei hunaniaeth ddwyieithog. Fel Is-Ganghellor rwy'n edrych ymlaen at wella fy Nghymraeg ac ailgysylltu â chymuned a chwaraeodd ran mor fawr yn fy mywyd fy hun."
Bydd yr Athro Timmis yn ymgymryd â’r rôl ar 1 Ionawr 2024. Mae’n olynu’r Athro Elizabeth Treasure, sy’n ymddeol o’r sefydliad ddiwedd 2023 ar ôl bron i saith mlynedd yn y rôl.
Dywedodd Dr Roberts: “Mae Prifysgol Aberystwyth wedi newid yn sylweddol ac er gwell yn ystod cyfnod Elizabeth ac mae hynny oherwydd ei phenderfyniad, ei brwdfrydedd a’i hangerdd dros y Brifysgol a’r dref. Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu penodi Is-Ganghellor newydd sy’n addo’r un ymrwymiad, uchelgais a ffocws i'n sefydliad a’n cymuned.”