Penweddig yn blasu llwyddiant gyda’i hastudiaeth pecynnau bwyd
Aelodau o dîm buddugol Ysgol Penweddig Maria Jones, Elain Tanat Morgan (ail o’r dde) a Noa Rowlands yn derbyn siec am £2000 gan yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth yng nghwmni Jane Richards, Pennaeth Busnes yn Ysgol Penweddig (chwith pellaf) a Mr Jonathan Fry o Ysgol Busnes Aberystwyth.
17 Hydref 2023
Profodd astudiaeth o'r farchnad fyd-eang ar gyfer bocsys ryseitiau a chitiau bwyd yn gynhwysyn allweddol i enillwyr gwobr fusnes i nodi 150 mlwyddiant Prifysgol Aberystwyth.
Lansiwyd y gystadleuaeth yn 2022 gan Ysgol Fusnes Aberystwyth a denwyd dros 170 o geisiadau o bob rhan o’r DU.
Cyflwynodd yr enillwyr, Ysgol Penweddig, ddadansoddiad marchnad manwl o arweinydd y sector Hello Fresh, a chafodd aelodau o’r tîm llwyddiannus eu cyflwyno yn nathliadau Diwrnod Sylfaenwyr y Brifysgol ar ddydd Gwener 13 Hydref.
Yn ogystal â darparu dadansoddiad o’i brif gystadleuwyr, roedd y cais buddugol yn cymhwyso theori marchnata i gynnig syniadau datblygu busnes ar gyfer y brand mewn cyflwyniad fideo pum munud.
Gan nodi ‘Babanod a Phlant’ fel marchnad newydd bosibl, maent yn dadlau’r achos dros lansio ‘Cooking With Kids’, categori newydd o focsys bwyd sydd wedi’u cynllunio i helpu plant i ddysgu coginio.
Llongyfarchodd un o feirniaid y gystadleuaeth, Jonathan Fry, Darlithydd Busnes a Rheolaeth yn Ysgol Busnes Aberystwyth, y tîm ar eu cais buddugol.
Dywedodd Jonathan Fry: “Roedd ansawdd ceisiadau’r rownd derfynol yn eithriadol, ac roedd yr ymgais fuddugol yn dangos dadansoddi a gwerthuso lefel dwfn a gallu cyfathrebu hynod effeithiol. Braf hefyd oedd gweld y gwaith yn cael ei gyflwyno yn y Gymraeg a’r Saesneg, gan adlewyrchu’r ddarpariaeth ddwyieithog yn Ysgol Fusnes Aberystwyth.”
Anelwyd y gystadleuaeth at ddisgyblion blwyddyn 12 oedd yn astudio busnes, a phynciau cysylltiedig â busnes.
Gallai timau ddewis o ystod eang o dasgau yn ymwneud ag Economeg, Cyfrifeg a Chyllid, Busnes a Rheolaeth, Marchnata a Rheoli Twristiaeth.
Dros gyfnod o 5 mis, rhoddwyd cyfle i dimau fynychu sesiynau ar-lein dan arweiniad academyddion, gan eu cyflwyno i’w themâu dewisol a thrafod prosesau safonol a barnau’r diwydiant a ddylai gefnogi eu hymchwil, yn ogystal â chysylltu ag academyddion arbenigol o bob maes i lunio eu canlyniadau terfynol.
Ymhlith y rhai a gyrhaeddodd y rhestr fer roedd ystod o arddulliau cyfathrebu busnes traddodiadol o Dragon’s Den i gyfryngau newydd megis TikTok ac Instagram.
Roedd aelodau’r tîm buddugol Maria Jones, Noa Rowlands ac Elain Tanat Morgan wrth eu boddau’n derbyn y wobr a gyda’r profiadau a gawsant wrth gymryd rhan.
Dywedodd Maria: “Trwy wneud y prosiect hwn roeddwn i’n gallu datblygu llawer o sgiliau, o’r agwedd greadigol o roi cyflwyniad deniadol at ei gilydd a meddwl y tu allan i’r bocs am fenter newydd i Hello Fresh, i’r agwedd academaidd a chymhwyso’r hyn dwi wedi’i ddysgu yn fy ngwaith ysgol i'r prosiect i gryfhau ein cyflwyniad a'n dealltwriaeth. Roedd yn brofiad gwirioneddol wych.”
Dywedodd Elain: “Mae’r her hon wedi gwella fy sgiliau cydweithio i’n fawr. Mwynheais i’r ymchwil a wnaethon ni o amgylch Hello Fresh ac mae’r profiad yn sicr wedi bod yn ddefnyddiol i mi cyn mynd i’r brifysgol.”
Ychwanegodd Noa: “Yn sicr fe wnaeth y prosiect hwn fy helpu i gyda fy arholiadau gan iddo roi gwahanol ffyrdd i mi o edrych dros yr hyn dwi’n ei wybod am y pwnc a ffordd arall o adolygu.”
Jane Richards, Pennaeth Busnes Ysgol Penweddig fu’n arwain y tîm buddugol wrth iddynt baratoi eu cyflwyniad. Dywedodd:
“Mae hwn wedi bod yn brofiad gwych i bawb. Mae wedi gwella eu sgiliau academaidd ac wedi eu helpu i gymhwyso'r hyn y maen nhw wedi bod yn ei astudio yn yr ystafell ddosbarth i senario ymarferol. Maen nhw hefyd wedi cael eu herio i feddwl yn greadigol a gweithio fel tîm. Llongyfarchiadau iddyn nhw ar eu llwyddiant, sy’n destun boddhad arbennig o ystyried nifer y cystadleuwyr a’u penderfyniad i gyflwyno eu gwaith yn ddwyieithog.”
Derbyniodd pob aelod o’r tîm buddugol £200 gyda £2000 yn cael ei gyflwyno i’r ysgol fuddugol.