Dal y Mellt: Mae cyfres Gymraeg gyntaf Netflix yn hwb pellach i gynnwys gydag isdeitlau
05 Ebrill 2023
Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Kate Woodward o Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn trafod yr hyder cynyddol mewn cynyrchiadau Cymraeg gyda ffrydio Dal y Mellt ar Netflix.
Gwyddonwyr Aberystwyth yn helpu i warchod taith ofod i’r blaned Iau rhag ymbelydredd eithafol
06 Ebrill 2023
Bydd taith ofod arloesol i astudio lleuadau’r blaned Iau yn cael ei gwarchod rhag peth o’r ymbelydredd llymaf yng Nghysawd yr Haul, diolch i gyfrifiadau gan ymchwilwyr Prifysgol Aberystwyth.
Astudiaeth Ffotograffiaeth Gyntaf y Byd ar Annibyniaeth yn Aberystwyth
12 Ebrill 2023
Bydd bandstand Aberystwyth yn arddangos y casgliad ffotograffig cyntaf yn y byd yn archwilio sut mae profiadau bywyd pobl yn effeithio ar eu hagweddau at annibyniaeth yng Nghatalwnia, Cymru, a’r Alban.
Academyddion Aberystwyth yn ei throi hi am y Gelli
13 Ebrill 2023
Bydd academyddion o Brifysgol Aberystwyth yng Ngŵyl y Gelli eleni i arwain sgyrsiau ar sut rydym yn dychmygu'r tywyllwch, dysgu gwersi o hanes ffoaduriaid a mudwyr, a’r byd ar ôl y rhyfel yn Wcráin.
Profi gwydr a wnaed o lechi ar gyfer cynhyrchwr gwin a seidr o Gymru
14 Ebrill 2023
Mae math newydd o wydr sydd wedi ei wneud o wastraff llechi ar gyfer gwinllan o Gymru wedi cael ei brofi am ei rinweddau cadw bwyd gan ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth.
Comisiynydd yn trafod rôl gwirfoddolwyr mewn taclo rhaniadau cymunedol
17 Ebrill 2023
Caiff cyfraniad mudiadau gwirfoddol at fynd i’r afael â pholareiddio mewn cymunedau lleol ei drafod gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn Aberystwyth fis nesaf.
Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cael cipolwg o arloesedd ym maes technoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth
25 Ebrill 2023
Yn ystod ei ymweliad â'r Brifysgol, cafodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru gyfle i weld y datblygiadau arloesol diweddaraf ym meysydd teithio yn y gofod, realiti rhithwir a cherbydau awtomataidd.
Cymrodoriaethau am ragoriaeth academydd i dri gwyddonydd Aberystwyth
25 Ebrill 2023
Mae tri academydd blaenllaw ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi eu hethol yn Gymrodyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
Rhybudd perygl llifogydd am drin tir â chalch ar yr ucheldir – ymchwil
27 Ebrill 2023
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi rhybuddio y gallai llifogydd waethygu oni bai bod yr arfer o drin tiroedd uwch â chalch yn cael ei gynnal.
Llwyddiant i Aberystwyth yng ngwobrau Whatuni?
27 Ebrill 2023
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ennill dwy wobr fawr yng ngwobrau Whatuni Student Choice Awards 2023 gafodd eu cynnal yn Llundain nos Fercher 26 Ebrill.