Astudiaeth Ffotograffiaeth Gyntaf y Byd ar Annibyniaeth yn Aberystwyth
Darn o’r enw ‘Misfit’ gan Neil McGuff, Cadeirydd Clwb Camera Aberystwyth
12 Ebrill 2023
Bydd bandstand Aberystwyth yn arddangos y casgliad ffotograffig cyntaf yn y byd yn archwilio sut mae profiadau bywyd pobl yn effeithio ar eu hagweddau at annibyniaeth yng Nghatalwnia, Cymru, a’r Alban.
Mae’r arddangosfa dros dro, Pen Rheswm/Gwrando’r Galon: Darlunio Dyfodol Cymru, ar agor i’r cyhoedd rhwng 10am a 5pm dros y tridiau nesaf (13-15 Ebrill 2023) ac mae’n rhan o astudiaeth dan arweiniad academyddion o Aberystwyth.
Mae'r ymchwil yn nodi newid sylfaenol yn y modd o astudio annibyniaeth hyd yn hyn. Arweinwyr y prosiect yw Dr Anwen Elias a Dr Elin Royles o Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru Prifysgol Aberystwyth ac maent yn defnyddio ffotograffiaeth i gael dealltwriaeth well o agweddau a theimladau pobl am annibyniaeth yn y tair gwlad.
Mae’r arddangosfa gyntaf yn Aberystwyth, gydag arddangosfeydd o’r casgliad hefyd ar y gweill yn Barcelona a Chaeredin.
Eglura Dr Elin Royles: “Rydym yn gweithio yng Nghymru, Catalwnia a’r Alban i ddatblygu dull newydd sbon o ymchwilio i ‘Annibyniaeth’. Mae'r rhan fwyaf o’r gwaith ymchwil blaenorol wedi canolbwyntio’n gyfan gwbl ar ymatebion i arolygon ac i ddemograffeg, megis oedran, rhyw, dosbarth cymdeithasol ac incwm, ond ry’n ni’n cloddio’n ddyfnach ac â diddordeb mewn dysgu sut y gallwn esbonio ffordd mae pobl yn meddwl ac yn teimlo am ddyfodol cyfansoddiadol eu gwledydd.
“Ni yw’r cyntaf yn y byd i ddefnyddio’r ddull yma a dylai ychwanegu lliw a chysgod at yr hyn sy’n hysbys hyd yma am farn pobl mewn perthynas ag Annibyniaeth. Yn bwysicaf oll, gall arwain at drafodaeth fwy cynnil, yn enwedig yng Nghatalwnia a’r Alban, lle mae’r dadlau’n ddwys ac wedi’i begynnu ymhlith pleidiau gwleidyddol a’r cyfryngau.”
Bydd yr arddangosfa yn cael ei lansio’n ffurfiol nos Iau (13 Ebrill) gan Aelod Seneddol Ceredigion Elin Jones AS a Llywydd y Senedd. Wrth sôn am nodau’r prosiect a’r arddangosfa dywedodd: “O gofio'r ddadl sy’n digwydd yng Nghymru, Lloegr a’r Alban am ddyfodol cyfansoddiadol y DU, rwy’n croesawu’r ymchwil yma sydd dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth. Gan roi safbwyntiau gwahanol y pleidiau gwleidyddol i'r neilltu, mae datblygu dealltwriaeth ddyfnach o farn pobl ar annibyniaeth yn bwysig i ddemocratiaeth Cymru.”
Mae Cadeirydd Clwb Camera Aberystwyth, Neil McGuff, sydd yn arddangos ei ffotograffau yn y casgliad cyntaf, am annog clybiau a dosbarthiadau ffotograffiaeth eraill i gymryd rhan: “Fe wnes i ac aelodau eraill o’r clwb ffotograffiaeth fwynhau cymryd rhan yn yr ymchwil yma’n fawr iawn. Drwy ddefnyddio ein creadigrwydd i archwilio’r syniad o annibyniaeth at sgyrsiau hynod ddiddorol ymhlith y grŵp. Fe wnaeth agor fy llygaid i’r ffordd y gall pob un ohonom fynd i’r afael â phwnc sy'n rhannu. Byddwn yn argymell unrhyw glwb neu ddosbarth ffotograffiaeth i gymryd rhan gan ei fod yn cynnig cyfle gwych i ddilyn eich creadigrwydd ac i arddangos eich ffotograffiaeth, o bosib, mewn lleoliad fel Barcelona.”
Ariennir y prosiect gan Gyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) fel rhan o’i raglen WISERD (Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru).