Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cael cipolwg o arloesedd ym maes technoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth
Ysgrifennydd Gwladol Cymru David TC Davies (chwith) gyda Dr Fred Labrosse, Uwch-ddarlithydd yn yr Adran Gyfrifiadureg (dde).
25 Ebrill 2023
Yn ystod ei ymweliad â Phrifysgol Aberystwyth, cafodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru gyfle i weld y datblygiadau arloesol diweddaraf ym meysydd teithio yn y gofod, realiti rhithwir a cherbydau awtomataidd.
Cafodd David TC Davies gyfle i weld gwaith ymchwil a wnaed gan yr adrannau Cyfrifiadureg, y Gyfraith a Throseddeg, a Ffiseg.
Dangosodd Dr Matt Gunn, Uwch Gymrawd Ymchwil yn yr Adran Ffiseg, replica maint llawn o grwydryn ExoMars i’r Ysgrifennydd Gwladol. Bydd y crwydryn ExoMars yn chwilio am fywyd ar y blaned Mawrth yn 2028. Mae Dr Gunn a Dr Helen Miles, Darlithydd yn yr Adran Gyfrifiadureg, wedi adeiladu caledwedd ar gyfer y crwydryn, gan gynnwys offer a fydd yn ei helpu i brosesu delweddau.
Bu Dr Sarah Wydall, Darllenydd yn Adran y Gyfraith a Throseddeg a Phrif Ymchwilydd yn Dewis Choice, Dr Miles, a Rebecca Zerk, Rheolwr Prosiect Ymchwil yn Dewis Choice, yn dangos sut y gellir defnyddio technoleg realiti rhithwir wrth hyfforddi heddlu i'w helpu i ymdrin â phobl sydd wedi dioddef/goroesi cam-drin a thrais domestig.
Dangosodd Dr Fred Labrosse, Uwch-ddarlithydd yn yr Adran Gyfrifiadureg, gerbydau awtomataidd y gellir eu defnyddio ar gyfer gwaith dosbarthu milltir olaf ym meysydd amddiffyn a chwilio ac achub, casglu deunydd gwastraff i’w drosi’n borthiant anifeiliaid, a cherbyd sy’n ei yrru ei hun y gellir ei ddefnyddio i fesur tir.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru David TC Davies:
"Roedd yn hynod ddiddorol ymweld â Phrifysgol Aberystwyth i weld enghreifftiau o'r ymchwil o safon fyd-eang a wneir yno mewn ystod eang o feysydd.
"Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn falch o gefnogi gwaith anhygoel Aberystwyth sy'n cyfrannu at yr enw da sydd gan brifysgolion Cymru am waith ymchwil a datblygu o'r radd flaenaf."
Dywedodd yr Athro Colin McInnes, Dirprwy Is-Ganghellor (Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesi) ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Roeddem yn falch iawn o groesawu'r Ysgrifennydd Gwladol i Brifysgol Aberystwyth a rhoi cipolwg iddo o waith ymchwil sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
"Mae'r prosiectau hyn ac eraill yn dangos amrywiaeth a chadernid y gwaith sydd ar y gweill. Mae deallusrwydd artiffisial, cerbydau awtomataidd, archwilio'r gofod a realiti rhithwir yn dechnolegau trawsnewidiol ac yn feysydd yr ydym yn flaenllaw ynddynt.
"Yr hyn sy'n fy nghyffroi fwyaf yw'r ffordd yr ydym yn defnyddio ymchwil yn y technolegau hyn i fynd i'r afael ag anghenion y byd go iawn. Dim ond ychydig o enghreifftiau oedd y rhain o'r llu o brosiectau y gallem fod wedi’u dangos i'r Ysgrifennydd Gwladol ac sy'n cynorthwyo unigolion a chymunedau i gwrdd â'r heriau y maent yn eu hwynebu."