Rhybudd perygl llifogydd am drin tir â chalch ar yr ucheldir – ymchwil
Dr John Scullion
27 Ebrill 2023
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi rhybuddio y gallai llifogydd waethygu oni bai bod yr arfer o drin tiroedd uwch â chalch yn cael ei gynnal.
Mae’r ymchwil newydd, sydd wedi’i gyhoeddi yn y cyfnodolyn Science of the Total Environment, yn dangos bod poblogaeth mwydod mewn tir pori serth yn cwympo os yw’r tir yn mynd yn fwy asidig, gan leihau gallu'r tir i amsugno a storio dŵr glaw.
Yn ystod ail hanner yr 20fed ganrif troswyd ardaloedd mawr o ucheldiroedd y DU yn dir pori mwy cynhyrchiol er mwyn cynyddu cynhyrchiant da byw, ar anogaeth y llywodraeth.Roedd yr arfer hwn yn gyffredin iawn yng Nghymru lle mae ychydig dros 200,000 o hectarau, bron i 20% o’r ucheldiroedd, yn cael eu hystyried yn dir pori wedi’i wella.
Elfen allweddol o wella porfeydd oedd gwneud pridd yn llai asidig, yn aml trwy ddefnyddio calch wedi’i falu. Mae trin pridd asid â chalch yn cynyddu gweithgaredd mwydod, sy'n golygu y gall y tir amsugno mwy o ddŵr glaw.
Mae dileu’r cymorth i drin tir â chalch, ynghyd â chyfyngiadau economaidd ac ymarferol, yn golygu bod llai o galch, sydd ei angen i wrthsefyll asideddio’r pridd yn y Deyrnas Gyfunol, yn enwedig mewn priddoedd yn yr ucheldiroedd, yn cael ei wasgaru.
Arweiniodd Dr John Scullion o Adran Gwyddorau Bywyd Prifysgol Aberystwyth yr astudiaeth ar y cyd ag Environment Systems Consultancy.Dywedodd Dr Scullion:
“Rydyn ni’n gweld cyfnodau dwys o law trwm yn amlach o achos newid hinsawdd gyda chynnydd yn y perygl o lifogydd o ganlyniad.Mae ymchwil flaenorol i effeithiau defnydd tir ar berygl llifogydd wedi canolbwyntio ar gywasgu pridd a choedwigo.Yma rydyn ni’n dangos y gall asideiddio pridd fod yn ffactor risg ychwanegol.”
Mae’r adroddiad yn awgrymu y gallai cymorth amaeth-amgylcheddol sydd wedi’i dargedu ar gyfer trin tir pori sydd wedi ei wella â chalch, liniaru’r perygl o lifogydd a dod â buddion ehangach, gan gynnwys ansawdd dŵr gwell.
Ychwanegodd Dr John Scullion:
“Yn y gorffennol roedd ffermwyr yn derbyn taliadau am drin eu tir â chalch yn rheolaidd er mwyn gwella ei botensial agronomeg.Mae rhoi’r gorau i grantiau o’r fath a phwysau ar economeg ffermio wedi golygu bod trin tir â chalch wedi dod yn llai cyffredin, yn enwedig ar y llethrau mwyaf serth yn ucheldir Cymru, ond hefyd mewn mannau eraill yn y Deyrnas Gyfunol ac Ewrop.Doedd rhai o’r caeau yn yr astudiaeth bresennol heb eu trin â chalch ers 30 mlynedd gyda phoblogaethau mwydod wedi eu cyfyngu ac ymdreiddiad dŵr gwael.
“Mae ein hymchwil yn amlygu, ar laswelltiroedd sydd wedi’u gwella’n flaenorol, y gallai calch wedi’i dargedu i hybu poblogaethau mwydod iach fod yn arf ymarferol y gall ffermwyr ei ddefnyddio i gyfrannu at y gwasanaeth ecosystem llifogydd pwysig hwn.Mae angen i ni ddeall yn well rôl glaswelltiroedd ar lethrau serth mewn dalgylchoedd yr ucheldir a’r modd y cân nhw eu rheoli wrth liniaru peryglon llifogydd.
“Mae angen rhagor o waith i fesur unrhyw effeithiau o lai o ymdreiddiad a storio glaw mewn priddoedd ar gyfraddau llif afonydd.Yn ogystal, mae angen asesu maint a dosbarthiad diffygion calch mewn dalgylchoedd yn enwedig yng Nghymru.”
Dywedodd Dr Katie Medcalf, Cyfarwyddwr Amgylchedd Environment Systems Ltd:
“Mae tua 20% o ucheldir Cymru yn cael ei ddynodi fel glaswelltir wedi’i wella ac mae llawer o’r glaswelltir hwn ar lethrau mwy serth lle gallai glaw sy’n cronni o ganlyniad i ymdreiddiad araf arwain at ddŵr sy’n llifo’n gyflym ar yr wyneb ac i afonydd.Ond mae cyfran y glaswelltir wedi’i wella yn amrywio’n sylweddol rhwng dalgylchoedd felly bydd unrhyw effeithiau hydrolegol o’i reoli yn benodol i ddalgylchoedd.”
Dywedodd Llywydd NFU Cymru, Aled Jones:
"Rydym wedi dadlau ers peth amser y dylai fod na elfen o gymorth cyhoeddus i galchu tir. Gwyddom oll am y manteision i iechyd pridd a chynhyrchiant ond mae'r astudiaeth bwysig yma'n amlygu budd pwysig arall. Mae'r gwaith yma'n amserol iawn wrth inni geisio llunio polisïau i warchod rhag llifogydd."