Cymerwch Rhan

Mae croeso i bawb ymuno gydag unrhyw grwp ar unrhyw adeg o’r flwyddyn. Mae’r cyfan am ddim.
Am fwy o fanylion, gan gynnwys lleoliadau, cysylltwch â music@aber.ac.uk neu edrychwch ar ein tudalen Facebook.
Amserlen
Diwrnod | Amser | Grŵp | Gwybodaeth Bellach |
---|---|---|---|
Dydd Llun | 12:30-1:15 yh | Côr Cinio |
Côr ‘cymunedol’ anffurfiol. Agored i bawb – dewch a’ch cinio! |
Dydd Llun | 7:00-9:00 yh | Band Chwyth |
Cyfle i chwaraewyr chwyth, pres ac offer taro o bob ystod profiad i chwarae holl gyfoeth y repertoire band chwyth. |
Dydd Mawrth | 7:00-9:00 yh | Grŵp Jamio |
Sesiwn wythnosol ar gyfer gitârs, iwcalele, banjos, mandolinau, a chantorion (mae croeso i’r mwyafrif o offerynnau eraill hefyd oni bai eu bod yn swnllyd iawn!), gan gwmpasu ystod eang o genres, gan gynnwys jazz, clasurol, blŵs, traddodiadol a sioeau cerdd, gyda llawer o le i fyrfyfyrio. |
Dydd Mawrth | 7:00-9:00 yh | Simply Strings |
Grŵp llinynnau anffurfiol i chwaraewyr llai profiadol. |
Dydd Mercher | 7:00-9:00 yh | Philomusica |
Yn cynnwys tua 80 o chwaraewyr fel arfer, mae canran mawr o chwaraewyr Philomusica yn fyfyrwyr sy’n cyd-weithio gyda charaewyr amatur a phroffesiynol lleol. Cynhelir dwy gyngerdd y flwyddyn yn Neuadd Fawr Canolfan y Celfyddydau, ynghyd â digwyddiadua eraill fel cyngherddau plant. Mae’r repertoire yn ymestyn o’r cyfnod clasurol hwyr i gerddoriaeth gyfoes, gyda sylw arbennig i gyfansoddwyr Cymraeg. |