Ysgoloriaethau Cerdd

Cerddorfa yn chwarae

Wyt ti’n caru cerddoriaeth? Yn chwarae offeryn neu’n hoffi canu? Bydd rhywbeth yn sicr i ti fwynhau gyda ni yn Aber.

Mae cerddoriaeth yn Aber yn agored i bob myfyriwr. Beth bynnag wyt ti’n astudio, mae yma gyfle i fod yn rhan o gymuned cerddorol egnïol. Ni’n cynnig sawl Ysgoloriaeth Gerdd bob blwyddyn, sy’n cefnogi doniau cerddorol ein myfyrwyr. Cysylltwch am fwy o wybodaeth a dewch i ymuno â ni!