Beth yw CERDDWN?

Mae CERDDWN yn gyfle hollol wahanol i gyfansoddwyr gael magu eu crefft. Ein nod yw creu canolbwynt ar gyfer arborofi cerddorol yng nghanolbarth Cymru sy’n flaenllaw’n fyd eang. Trwy gydweithio gyda cherddorfa gymunedol Aberystwyth Philomusica a’r gerddorfa broffesiynol blaenllaw Sinfonia Cymru, bydd cyfansoddwyr a pherfformwyr yn creu cyfansoddiadau newydd a gweledigaethol i gerddorfeydd.

Dysgwch am CERDDWN

Ein bwriad yw dianc rhag modelau ymarferol ac addysgol arferol, creu cyfle i arbrofi gyda syniadau newydd a mentrus, a chreu cerddoriaeth newydd uchelgeisiol ac eithriadol- man cychwyn ar gyfer traddodiad newydd o gerddoriaeth gerddorfaol yng Nghymru. I wthio’r cwch i’r dŵr, rydym wedi comisiynu pedwar cyfansoddwr i greu gweithiau newydd. Byddwn hefyd yn cefnogi pedwar o gyfansoddwyr i gael eu mentora trwy’r broses o greu cyfansoddiadau newydd ac uchelgeisiol.

Pedwar Comisiwn Newydd

Mae CERDDWN yn falch o gomisiynu cyfansoddiadau newydd gan y cyfansoddwyr Cymreig David John Roche, Nathan James Dearden, Mared Emlyn, a Jeferson Lobo. Bydd pob cyfansoddwr yn creu gwaith newydd ar gyfer cerddorion Sinfonia Cymru ac Aberystwyth Philomusica, a’r cyfansoddiadau yma fydd asgwrn cefn y prosiect uchelgeisiol hwn.

Cyfleoedd Mentoriaeth

Mae ein cyfleoedd mentoriaeth yn agored i bawb, o’r sawl sydd heb dderbyn addysg gerddorol ffurfiol neu heb brofiad o gyfansoddi ar gyfer cerddorfa, i symffonyddion sy’n ymarferol alluog a phrofiadol. Hoffech gyfansoddi rhywbeth hollol wahanol? Ydych chi o gefndir cerddorol llai traddodiadol? A yw’r modelau dysgu presennol yn eich atal rhag arbrofi gyda syniadau cerddorol amgen ac anodd? Hoffech y cyfle i weithio’n ymarferol gyda cherddorfa i arbrofi, dysgu'r pethau sylfaenol, neu fentro? Os felly, CERDDWN yw’r cyfle perffaith i chi – dyma’r lle i gyfansoddwyr uchelgeisiol, mentrus ac arloesol. Does dim gofynion addysgol ffurfiol nac ychwaith gyfyngiadau ar arddull y gerddoriaeth - rydym am glywed eich gweledigaeth

Ariennir y prosiect drwy haelioni Tŷ Cerdd, Cyngor Celfyddydau Cymru, a Phrifysgol Aberystwyth

 

Cyfleoedd Mentoriaeth

Mae ein cyfleoedd mentoriaeth yn agored i bawb, o’r sawl sydd heb dderbyn addysg gerddorol ffurfiol neu heb brofiad o gyfansoddi ar gyfer cerddorfa, i symffonyddion sy’n ymarferol alluog a phrofiadol. Hoffech gyfansoddi rhywbeth hollol wahanol? Ydych chi o gefndir cerddorol llai traddodiadol? A yw’r modelau dysgu presennol yn eich atal rhag arbrofi gyda syniadau cerddorol amgen ac anodd? Hoffech y cyfle i weithio’n ymarferol gyda cherddorfa i arbrofi, dysgu'r pethau sylfaenol, neu fentro? Os felly, CERDDWN yw’r cyfle perffaith i chi – dyma’r lle i gyfansoddwyr uchelgeisiol, mentrus ac arloesol. Does dim gofynion addysgol ffurfiol nac ychwaith gyfyngiadau ar arddull y gerddoriaeth - rydym am glywed eich gweledigaeth.

Beth fydd y cyfansoddwyr sy’n cael eu mentora yn ei wneud?

Gofynnir i 4 cyfansoddwr (a fydd yn derbyn £500 yr un) i gyfansoddi ar gyfer cerddorion Aberystwyth Philomusica a Sinfonia Cymru. Gellir cyfansoddi ar gyfer ensemble o unrhyw faint, ond rhaid defnyddio perfformwyr o’r gronfa o gerddorion sy’n gweithio gydag Aberystwyth Philomusica a Sinfonia Cymru. Caiff y cyfansoddwyr gyfle i weithio’n agos ac yn gyson gyda’r ddwy gerddorfa a bydd y rhaglen yn cael ei theilwra’n benodol at ofynion ac anghenion addysgol pob cyfansoddwr. Pwysleisiwn bwysigrwydd uchelgais, mentro, a chreu cerddoriaeth mewn modd ymarferol.

Bydd pob cyfansoddwr sy’n cael ei fentora hefyd yn cydweithio’n agos gydag 1 o’r 4 mentor (David John Roche, Nathan James Dearden, Mared Emlyn, a Jeferson Lobo) wrth gyfansoddi. Cefnogaeth, uchelgais ac arbrofi’n gerddorol sydd wrth wraidd y prosiect hwn.

Dyddiad cau: Dydd Sul  fed o Awst 2023 (11:59pm Amser Llundain)

Gofynion:

  1. 1-3 enghraifft o gerddoriaeth.
  2. 250 gair neu hyd at 3 munud o sain neu fideo yn disgrifio'n gryno pwy ydych chi a pham yr hoffech chi fod yn rhan o'r prosiect.
  3. Cyfeiriad e-bost neu rif ffôn er mwyn i ni allu cysylltu â chi.

Gofynion Cymhwystra

  1. Cynigir y cyfle i 4 cyfansoddwr. 1 ar gyfer cyfansoddwr yn y DU/ rhyngwladol, 3 lle ar gyfer cyfansoddwyr Cymreig a/neu sydd yn byw yng Nghymru.
  2. Nid oes unrhyw ofynion ffurfiol eraill ac nid oes cyfyngiadau ar arddull y gerddoriaeth. Rydym yn cefnogi Egwyddorion Mynediad Teg gan Sound and Music.

Bydd y ceisiadau'n cael eu hadolygu gan banel o dri sef  David John Roche, Iwan Davies, a Simmy Singh. Bydd pob ymgeisydd yn derbyn adborth a bydd ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer yn cael eu gwahodd i gael sgwrs ar-lein.

Cyflwyno cais

Cyflwynwch eich cais yma neu anfonwch e-bost at cerddwn@gmail.com neu d_roche@hotmail.co.uk

Dylid gwneud cais drwy’r Gymraeg neu’r Saesneg. Os oes unrhyw beth yn eich atal rhag gwneud cais, cysylltwch â David John Roche ar cerddwn@gmail.com neu d_roche@hotmail.co.uk – rydym hefyd yn hapus i drafod y prosiect dros y ffôn. Mae’n bosib y gallwn dderbyn ceisiadau hwyr, ond cysylltwch â ni ymlaen llaw. Rydym yn awyddus i glywed gennych ac rydym am i'r prosiect hwn fod mor agored a hygyrch â phosibl.

Cyfansoddwyr A Mentoriai

Nathan James DeardenNathan James Dearden

Mae Nathan James Dearden yn gyfansoddwr arobryn, ac mae ei waith wedi’i ddisgrifio fel “hiraethus o hyfryd” (Media Wales), ac wedi’i berfformio a’i gynnwys gan Gerddorfa Ffilharmonig Llundain, Pedwarawd Tippett, Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, Grand Band, Corau Cenedlaethol Prydain Fawr, Triawd Fidelio, ac Ensemble Hebrides. Mae ei gyfansoddiadau yn cael eu perfformio’n gyson mewn cyngherddau ledled y DU a thramor, gan gynnwys Gŵyl Gerdd Cheltenham, Gŵyl Ryngwladol Dartington, Gŵyl Ryngwladol  Cerddoriaeth Newydd, CROSSROADS a Gŵyl Bro Morgannwg. Mae ei gerddoriaeth wedi cael ei darlledu ar BBC Radio 3, BBC Radio Wales, BBC Radio Cymru, Resonance FM, RTÉ lyric FM, S4C a Soho Radio,  ac y mae hefyd wedi rhyddhau gwaith drwy Recordiadau NMC a Delphian.

Mae Nathan hefyd yn arweinydd ac mae galw mawr amdano fel ymgynghorydd ar y celfyddydau, curadur digwyddiadau ac fel addysgwr. Mae Nathan yn gweithio i sawl sefydliad rhyngwladol fel ymgynghorydd. Ar hyn o bryd mae'n Gyfarwyddwr Cyfansoddi Dros Dro ym Mhrifysgol Royal Holloway Llundain a Chanolfan Cerddorion Ifanc yng Ngholeg Morley.

Jeferson LoboJeferson Lobo 

Magwyd Jeferson Lobo  yn ninas fywiog Salvador, Brasil ac y mae bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae’n gyfansoddwr a cherddor llawn gweledigaeth a chreadigrwydd sy'n dwyn ysbrydoliaeth o chwedlau hynafol a thapestri cyfoethog natur.

Ceir cymysgedd hyfryd o ryfeddodau a dathliadau Nadoligaidd yng nghyfansoddiadau Jeferson gyda nodweddion o serenadau rhamantaidd o’r oes a fu. Mae ei gerddoriaeth yn cyfuno nodweddion Baróc, rhythmau ethnig a naws jazz, gan greu cyfanweithiau sy’n hollol unigryw.

Mae alawon Jeferson yn sionc a chwareus wrth gorddi teimladau o hiraeth iasol a swyngyfaredd angerddol. Disgrifiwyd ei gyfansoddiadau fel rhai chwareus, ffraeth, ac atgofus.

Mae Jeferson wedi cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer Tŷ Cerdd, Music Theatre Wales, Prifysgol Aberystwyth, (BACA) Cymdeithas Celfyddydau a Diwylliant Butetown, NDCW, a SSAP.

Mared EmlynMared Emlyn

Cwblhaodd Mared ei doethuriaeth mewn perfformio ar y delyn a chyfansoddi yn 2014 ym Mhrifysgol Bangor gydag ysgoloriaeth wedi ei ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd. Enillodd fedal y Prif Gyfansoddwr yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2011 am ei gwaith Perlau yn y Glaw ar gyfer y delyn sydd erbyn hyn yn cael ei berfformio yn aml mewn cystadlaethau a gŵyliau telyn. Mae Mared yn perfformio mewn cyngherddau fel unawdydd, mewn ensemblau ac fel aelod o gerddorfeydd. Mae wedi derbyn sawl comisiwn i gyfansoddi, gan gynnwys gweithiau ar gyfer Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru, Côr Meibion Colwyn, comisiwn ar gyfer Gŵyl Gerdd Bangor a gafodd ei berfformio gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, a concerto telyn ar gyfer Gŵyl Biwmares a berfformiwyd gan y Gerddorfa Siambr Gymreig a Mared ei hun fel yr unawdydd. Yn 2018, cydweithiodd â’r cerddor Gwenan Gibbard a’r bardd Mererid Hopwood ar gomisiwn gan Ŵyl Delynau Rhyngwladol Cymru fel rhan o ddathliadau penblwydd y telynor adnabyddus Osian Ellis yn 90 oed. Yn ddiweddar, cafodd Mared ei chomisiynu gan Opra Cymru i gyfansoddi opera ar gyfer plant a theuluoedd: Cyfrinach y Brenin, aeth ar daith ym mis Medi 2022.

David John RocheDavid John Roche

Mae cerddoriaeth David John Roche yn benderfynol ac yn uchel. Mae ôl dylanwadau cryf cerddoriaeth metel trwm, cerddoriaeth gerddorfaol cyfoethog, a’i gefndir dosbarth gweithiol Cymreig ar ei gyfansoddiadau. Disgrifiwyd ei waith fel “beiddgar, cyffrous, a swynol” (Syr James Dyson) “adrannau o rym mynegiannol cryf” (Thomas Adès), a “celfydd” (Adam Walton, BBC Introducing).

Ynghyd â pherfformiadau a chomisiynau rhyngwladol, mae ei gyfansoddiadau wedi cael eu darlledu’n rhyngwladol i filiynau o bobl (Rai5, Tellebelluno, S4C, NHK, BBC Radio 3, BBC Introducing, London Evening Standard, a llawer mwy). Ar hyn o bryd y mae wrthi'n cwblhau comisiynau ar gyfer Canolfan Gerdd Tanglewood, Tokyo Opera City Cultural Foundation, a Gŵyl Bro Morgannwg (Band Tref Tredegar). Mae hefyd yn gwneud gwaith ymchwil a chynhyrchu gyda Meta Arts a Wales Arts Review.

Mae David wedi cyfansoddi comisiynau ar gyfer Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Jan Willem Nelleke a Jose Zalba Smith, Siwan Rhys, Astrid the Dutch Street Organ, Cerddorfa Orion a Dyson, Brian Ellis, Adran Gyfathrebu Prifysgol Caergrawnt, Centre of Cell, Arsyllfa Frenhinol Greenwich, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Y Llyfrgell Brydeinig, Psappha, Hear and Now ar y cyd â Psappha, Tŷ Cerdd a Theatr Hijinx, Ensemble NAFTA, i enwi ond y rhai. Mae wedi sefydlu perthnasau hirion a chydweithredol gyda gwyliau ac ensembles.

Derbyniodd Grant Datblygu Ymarfer Creadigol gan Gyngor Celfyddydau Lloegr, Grant Cyngor Celfyddydau Lithwania, ysgoloriaeth ymchwil AHRC. Mae wedi bod yn gymrawd Tanglewood, a chafodd ei enwebu am wobr gan Academi Celfyddydau a Llythyrau America. At ei gilydd, mae wedi derbyn mwy na 30 o wobrau academaidd a phroffesiynol.

 

Arweinwyr Y Gweithdai

Samantha MuirSamantha Muir

Mae Samantha yn Gyfaill anrhydeddus yng Ngholeg Cerdd Frenhinol, Llundain lle derbyniodd Wobr Gitâr Madeline Walton. Hi yw’r person cyntaf erioed i gyflawni doethuriaeth sy’n trafod yr iwcalili (Prifysgol Surrey, Guildford, DU) ac mae’n flaenllaw fel perfformwraig iwcalili  yn yr arddull glasurol. Y mae wedi perfformio a chyflwyno gweithdai mewn gwyliau iwcalili ledled y DU ac Awstralia ac wedi rhoi nifer o ddarlithoedd ar yr arddull iwcalili clasurol (Canolfan Ymchwil Gitâr Ryngwladol, Sefydliad Gitâr America, cynhadledd Gitâr yr 21ain Ganrif, Symposiwm Gitâr Dulyn a Chymdeithas Athrawon Gitâr Ewrop). Cyhoeddir ei chyfansoddiadau a’i threfniadau gan Schott a Les Productions d’Oz. Yn ogystal â chanu’r gitâr a’r iwcalili mae Samantha hefyd yn canu’r machete de Braga a’r rajão – rhagflaenwyr yr iwcalili o ynys Madeira ym Mhortiwgal. Mae hi'n aelod o Gonsortiwm Caergrawnt ar gyfer Ymchwil Gitâr yng Ngholeg Sidney Sussex, Caergrawnt.

Katherine ReesKatherine Rees

Mae Katherine yn gerddor, yn ymarferydd creadigol ac yn entrepreneur cymdeithasol sy’n hanu o Abertawe. Hi yw’r entrepreneur ieuengaf i gael ei chefnogi gan Ysgol Fusnes Judge Prifysgol Caergrawnt: Canolfan Arloesedd Cymdeithasol ar gyfer ei busnes Be Extra - Wellbeing For The Arts CIC. Y mae hefyd yn llysgennad ar gyfer F-List for Music a'r Tŷ Opera Brenhinol. Fel cynhyrchydd/cyfarwyddwraig mae Katherine yn defnyddio ei galluoedd i fentora cerddorion a chwmnïau celfyddydol ar sut i adrodd straeon ffurf fer trwy gyfrwng fideos TikTok neu rîl.

Lillie HarriesLillie Harries 

Mae Lillie Harris yn gyfansoddwraig glasurol gyfoes sy’n byw yn y DU. Astudiodd yn y Coleg Cerdd Frenhinol gyda Haris Kittos lle enillodd Wobr Goffa Elgar am ei phortffolio cyfansoddi terfynol.

Magwyd ei diddordeb mewn cyfansoddi’n ifanc a hynny drwy ddysgu offerynnau, ei chlust am iaith a’i chariad at ysgrifennu creadigol. O ganlyniad, mae syniadau naratif ac emosiynau cymhleth yn nodweddion cyson yn ei gwaith. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf unwyd ei chariad at iaith a cherddoriaeth i greu cyfansoddiadau corawl a lleisiol newydd.

Yn ogystal â chyfansoddi, mae Lillie’n ysgrifennu’r llawlyfr defnyddiwr ar gyfer meddalwedd nodiant Steinberg, Dorico, yn canu gyda Chorws Covent Garden, ac yn trefnu a golygu i gyhoeddwyr a sesiynau recordio cerddoriaeth ffilm, teledu a gêm.

Cerddorfeydd, Beirniaid, Arweinwyr

Sinfonia Cymru orchestra colourful logoSinfonia Cymru 

Mae lle unigryw i Sinfonia Cymru yn y sector cerddoriaeth. Rydyn ni’n gerddorfa ‘dan 30’, sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo cerddorion ifanc proffesiynol o’r radd flaenaf, a’u cefnogi yng nghamau cyntaf eu gyrfaoedd. A ninnau wedi ein lleoli yng Nghaerdydd, rydym yn darparu profiadau cerddorol  o safon anhygoel o uchel ar gyfer cynulleidfaoedd a chyfranogwyr yng Nghymru a thu hwnt. Mae ein prosiectau wedi eu cynllunio i feithrin talent ein cerddorion ar draws y fformatau cerddorol. Ambell dro rydym yn gerddorfa yn yr ystyr draddodiadol, a bryd arall rydym yn gweithio gyda grwpiau llai o faint i ddarparu perfformiadau agos-atoch mewn arddulliau gwahanol. Ac elfen bwysig o’n gwaith yw darparu cyfleoedd i gerddorion archwilio eu creadigrwydd ac adeiladu portffolio o sgiliau drwy brosiectau dan arweiniad offerynwyr a rhai traws-genre. Nod ychwanegol yw bod llawer mwy o bobl o gefndiroedd amrywiol yng Nghymru yn cael mynediad at gerddoriaeth glasurol fyw, a chyfle i’w fynychu. Rydyn ni’n mynd i’r afael â chanfyddiadau, gan fynd â cherddoriaeth i mewn i gymunedau ledled Cymru ac ymweld â neuaddau pentref, ysgolion a chymunedau.

Aberystwyth Philomusica 

Wedi’i ffurfio ym 1972, dathlodd Philomusica Aberystwyth ei phenblwydd yn hanner cant yn 2022. Yn wreiddiol cerddorfa’r dre oedd hi, ond ers y 1990au mae wedi bod yn gerddorfa i fyfyrwyr hefyd, gan dderbyn cefnogaeth sylweddol wrth Brifysgol Aberystwyth, wedi penodiad y Cyfarwyddwr Cerdd cyntaf yn dilyn cau’r Adran Gerdd. Ffurfiodd Dr David Russell Hulme y Ganolfan Gerdd ac fe’i penodwyd yn arweinydd a Chyfarwyddwr Artistig ar y gerddorfa, gan selio’r cysylltiad agos gyda’r Brifysgol, sy’n cynnwys darpariaeth Ysgoloriaethau Cerdd i ddenu myfyrwyr talentog i chwarae. Bellach dan arweinyddiaeth Iwan Teifion Davies, ar hyn o bryd, mae’r gerddorfa yn llwyfannu dau gyngerdd y flwyddyn, ym mis Mawrth a Rhagfyr, yn ogystal â digwyddiadau achlysurol eraill, fel perfformiadau yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron yn 2022, a diwrnodau astudio. Mae’r gerddorfa’n chwarae’r repertoire symffonig mawr, ac mae uchafbwyntiau diweddar yn gynnwys 5ed Symffoni Shostakovich, Consierto Piano 1af Rachmaninoff, a darn Errollyn Wallen This frame is part of the painting, yn ogystal â premier byd darnau gan y cyfansoddwyr Cymraeg David Roche a Claire Victoria Roberts. 

Iwan Teifion DaviesIwan Teifion Davies

Iwan Teifion Davies yw’r Cyfarwyddwr Cerdd ac arweinydd Philomusica Aberystwyth. Fe’i hyfforddwyd yn Ysgol Gerddoriaeth a Drama y Guildhall ac yn y Stiwdio Opera Genedlaethol yn Llundain, lle bu ynghlwm wrth nifer o berfformiadau mewn cydweithrediad ag Opera North, Scottish Opera, a Chwnmi Opera Cenedlaethol Cymru. Fe fu’n arweinydd staff yn y Salzburger Landestheater, lle arweiniodd y Mozarteum Orchester mewn perfformiadau o La Gazzetta (Rossini), The Trial (Glass), Wiener Blut (Strauss), a My Fair Lady. Fe yw Pennaeth Cerdd Gŵyl Ryngwladol Buxton, lle mae wedi arwain cynyrchiadau o Cendrillion (Viardot), Viva la Diva (Donizetti) a premier operetta newydd sy’n defnyddio cerddoriaeth Ivor Novello, The Land of Might-Have-Been. I OPRA Cymru, mae wedi arwain premier byd opera Gareth Glyn, Wythnos yng Nghymru FyddFidelioCosì fan tutte, ac ail opera Glyn, Un Nos Ola Leuad, gyda cherddorfa’r Cwmni Opera Cenedlaethol, sydd bellach yn cael ei throi’n ffilm. I English Touring Opera bu’n arwain La bohème The Golden Cockerel (Rimsky-Korsakov). Fel cefnogwr brwd o gerddoriaeth Cymraeg, mae wedi comisiynu a pherfformio gweithiau newydd gan Claire Victoria Roberts, Pwyll ap Siôn, Gareth Olubunmi Hughes, Hana Lili, Jefferson Lobo, David Roche, Sarah-Lianne Lewis a Mared Emlyn.

Simmy SinghSimmy Singh

Mae Simmy Singh yn feiolinydd a chyfansoddwraig o Gymru; mae’i mam yn Saesnes a’i thad o India. Ei bwriad yw cysylltu grym rhyfeddol cerddoriaeth a byd natur er mwyn ail-gysylltu pobl â’u hunain, ei gilydd, a’r byd o’u cwmpas. Mae Simmy yn gredwr cryf mewn amrywiaeth ac yn gwneud ei gorau i gadw’n driw i hyn trwy’i gyrfa. Hi wnaeth cyd-sefydlu’r Manchester Collective ac mae’n chwarae gyda cherddorfeydd adnabyddus fel Manchester Camerata a’r London Contemporary Orchestra, ond ei phrif ddiddordeb yw cyfuno’i magwraeth glasurol gyda cherddoriaeth heddiw. Mae’n flaenwraig i’r cerddorfeydd cyfoes Kaleidoscope Orchestra, Untold Orchestra ac Ignition Orchestra. Mae’n gweithio’n agos gydag artistiaid fel Abel Selaocoe, Bill Laurance, Gwilym Simcock a Portico Quartet ac yn ymddangos ar eu recordiadau diweddar i gyd. Gyda’i phedwarawd, Amika, mae Simmy’n cyd-weithio’n agos gyda nifer o brif artistiaid jazz y DU, fel Alfa Mist, Jordan Rakei, Rob Luft ac Alice Zawadski.

 

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i dderbyn diweddariadau!

YouTube: @CERDDWN
Facebook: Aber Music Centre
Instagram: cerddwn

Dolenni yn agor mewn tab newydd