Canllawiau Cymorth Addysgu gan Gymheiriaid
Diben
Ffordd i helpu staff i ddatblygu eu haddysgu mewn cydweithrediad â’u cydweithwyr yw cymorth addysgu gan gymheiriaid. Mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn adfyfyrio ar arfer da ac yn nodi meysydd sydd angen eu datblygu. O ran datblygu proffesiynol parhaus (DPP), mae cymorth addysgu gan gymheiriaid:
- yn broses ddwyffordd lle mae'r cefnogwr a'r sawl a gefnogir yn dysgu oddi wrth ei gilydd, yn datblygu eu hymarfer, ac yn cyfoethogi profiad dysgu'r myfyrwyr
- yn ffordd o nodi a lledaenu ymarfer addysgu da
- yn ffordd i staff adfyfyrio, datblygu a thystio eu sgiliau a’u harbenigedd
Er mwyn cynnal gwerth adfyfyrio ar gyfer datblygu, mae’n hanfodol bod cymorth addysgu gan gymheiriaid yn parhau’n annibynnol o unrhyw brosesau’n ymwneud ag arfarnu a dyrchafiad.
Sesiwn Cymorth gan Gymheiriaid
Rhaid cynnig sesiwn Cymorth gan Gymheiriaid i'r holl staff a thiwtoriaid uwchraddedig sy'n addysgu neu'n hyfforddi myfyrwyr ar unrhyw lefel o leiaf unwaith ym mhob blwyddyn academaidd. Bydd y broses yn anfeirniadol ac yn cael ei chynnal gydag urddas a chyd-barch.
Mae'r modelau canlynol yn caniatáu dull hyblyg a dylai staff ddewis y model sy'n fwyaf addas i'w dull addysgu a'u hamgylchiadau:
- Arsylwi dosbarth (ar-lein neu wyneb yn wyneb)
- Sgwrs am weithgareddau a deunyddiau
Arsylwi Dosbarth
Gellir defnyddio'r model hwn ar gyfer unrhyw sesiwn addysgu fyw, naill ai wyneb yn wyneb neu'n fyw ar-lein. Mae'r arsylwi yn cynnwys tri cham:
- Trafodaeth cyn yr arsylwi
- Arsylwi addysgu
- Trafodaeth yn dilyn yr arsylwi
Yn y sesiwn cyn yr arsylwi, yr unigolyn a arsylwir sy’n penderfynu pa agweddau ar yr addysgu fydd ffocws yr arsylwi. Gall ofyn am adborth ar unrhyw elfennau o’r addysgu, megis deunyddiau addysgu, cynllun PowerPoint, amlinelliad neu lawlyfr y modiwl, trefniant y modiwl yn Blackboard, neu elfennau eraill fel y dymunir. Mae’r sawl sy’n arsylwi a’r unigolyn a arsylwir yn trafod ac yn cytuno ar feini prawf arfer da. Dylai'r sawl sy’n arsylwi gael dolen i'r cyfarfod ar-lein cyn y sesiwn.
Yn ystod yr arsylwi, mae'r sawl sy’n arsylwi yn gwneud nodiadau manwl am yr hyn sy'n digwydd yn ystod y sesiwn, gan nodi’n arbennig unrhyw ryngweithio ac ymatebion gan y myfyrwyr i weithgareddau addysgu. Er enghraifft, gall dull sy'n seiliedig ar linell amser fod yn arbennig o ddefnyddiol (e.e. 10.10 y darlithydd yn dechrau darlithio gyda PowerPoint; 10.30 gweithgaredd meddwl-paru-rhannu, myfyrwyr yn taflu syniadau am sut mae cysyniad allweddol yn y darlleniad yn ymwneud â'r ddarlith, y myfyrwyr yn cymryd rhan weithredol yn y gwaith paru ac 20% yn cyfrannu i’r drafodaeth dosbarth llawn; 10:40 dychwelodd y darlithydd at y dull darlithio').
Nid yw'r sawl sy’n arsylwi yn cymryd rhan yn y sesiwn a rhaid iddo fod yn sensitif i’r perygl o dynnu sylw myfyrwyr mewn amgylchedd tiwtorial neu seminar lle mae cyfraniadau gan fyfyrwyr yn ofynnol.
O fewn wythnos i’r arsylwi, mae'r sawl sy’n arsylwi yn defnyddio'r Templed Adborth i rannu adborth gyda'r unigolyn a arsylwir, gan drafod meysydd i'w datblygu ymhellach a meysydd o arfer da. Mae'r unigolyn a arsylwir yn cadw rheolaeth dros y sylwadau a gall benderfynu a gaiff agweddau o’r adolygiad eu lledaenu er budd cydweithwyr. Rhaid i bawb sy'n ymwneud â'r broses barchu cyfrinachedd yr wybodaeth a gesglir.
Sgwrs am Weithgareddau a Deunyddiau
Mae hyn wedi'i gynllunio i helpu cydweithwyr i edrych ar gynllun a gweithrediad gweithgareddau a deunyddiau dysgu. Bydd yn canolbwyntio ar sut mae gweithgareddau dysgu wedi'u cynllunio a sut maen nhw’n cyd-fynd â gweithgareddau eraill yn y cwrs. Gall y sgwrs hon gynnwys trafodaethau am ddeunyddiau ar-lein yn ogystal â gweithgareddau wyneb yn wyneb. Gellir defnyddio'r model hwn ar gyfer pob senario addysgu ond mae'n arbennig o ddefnyddiol i staff sy’n dysgu ar fodiwlau dysgu o bell neu fodiwlau sydd ag ychydig bach o oriau cyswllt myfyrwyr.
Dylai cydweithwyr gyfarfod i drafod yr agweddau ar y gweithgareddau dysgu sydd i'w cynnwys. Gall hyn fod ar Teams neu yn bersonol. Gall y drafodaeth fod am weithgareddau penodol (megis defnyddio trafodaethau ar-lein mewn modiwl neu weithgareddau dysgu gweithredol mewn darlithoedd) neu gynllun mwy cyffredinol y modiwl (e.e. defnyddio Blackboard i gefnogi dysgu myfyrwyr).
Cyn cynnal y sgwrs, dylai'r unigolyn sy'n cefnogi aelod o staff gael mynediad i Blackboard, neu unrhyw amgylchedd arall a ddefnyddir. Dylent hefyd drafod pa agweddau i ganolbwyntio arnynt. Unwaith y byddant wedi cael cyfle i edrych ar yr adnoddau perthnasol, dylid trefnu cyfarfod.
Dylai'r sgwrs ganolbwyntio ar y penderfyniadau ynghylch defnyddio’r gweithgaredd neu'r dull gweithredu, sut mae myfyrwyr yn ymgysylltu ac yn cael eu cefnogi. Dylai'r cefnogwr roi adborth, gan drafod meysydd i’w datblygu a meysydd sy’n dangos arfer da. Efallai yr hoffech wneud nodiadau yn ystod y sgwrs, er enghraifft, os ydych yn cwrdd ar-lein, gallwch ddefnyddio'r nodwedd rhannu dogfen yn Teams (neu drefniant tebyg). Mae'r unigolyn a arsylwir yn cadw rheolaeth dros y sylwadau a gall benderfynu a gaiff agweddau o’r adolygiad eu lledaenu er budd cydweithwyr. Rhaid i bawb sy'n ymwneud â'r broses barchu cyfrinachedd yr wybodaeth a gesglir.
Adrodd
Yn dilyn y sesiwn, rhaid i'r cefnogwr gofnodi'r arsylwi yn y dangosfwrdd Cymorth Addysgu gan Gymheiriaid (Gweler Cofnodi Sesiwn Cymorth Addysgu gan Gymheiriaid (DOC) / Cofnodi Sesiwn Cymorth Addysgu gan Gymheiriaid (PDF).
Mae'r wybodaeth a gofnodir yn cynnwys:
- Enw'r person sy'n cael ei gefnogi
- Enw'r cefnogwr
- Dyddiad y sesiwn arsylwi neu gefnogaeth
- Cyfeirnod y Modiwl
- Math o sesiwn (e.e. darlith / seminar / dosbarth ymarferol, ac yn y blaen)
- Unrhyw nodiadau ynghylch arfer da
Bydd y Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu adrannol yn adrodd am unrhyw arfer da i Bwyllgor Dysgu ac Addysgu yr adran. Yn ogystal, mae'r brifysgol yn annog staff i rannu arfer da ar draws adrannau drwy unrhyw ddulliau priodol. Gall hyn gynnwys cyflwyno yn y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu, creu astudiaeth achos fideo i wefan y brifysgol, neu unrhyw lwyfan arall ar gyfer rhannu arfer da.
Adnoddau
Mae'r Uned Gwella Dysgu ac Addysgu yn cynnig ymgynghori a hyfforddiant ar arsylwi addysgu gan gymheiriaid. Cysylltwch â'r Darlithydd ar gyfer Dysgu ac Addysgu.
Gall staff lawrlwytho'r Templed Adborth o'r dudalen Arsylwi Addysgu gan Gymheiriaid. [mewnosod dolen]
Fletcher, Jeffrey A., "Peer Observation of Teaching: A Practical Tool in Higher Education" (2017). Journal of Faculty Development. (32)1. https://lib.dr.iastate.edu/fshn_hs_pubs/23 (cyrchwyd 16 Mai 2019)