Croeso

Mae'rUned Datblygu Dysgu ac Addysgu (UDDA) yn cynllunio ac yn darparu llawer o’r rhaglenni datblygu addysgola phroffesiynol i staff yn yBrifysgol. Mae’r Unedyn darparu rhaglen flynyddol o sesiynau, digwyddiadau a gweithdai datblygiad proffesiynol parhaus (DPP), ond mae hefyd yn darparu nifer o raglenni astudio achrededig, gan gynnwys y Dystysgrif Uwchraddedig Addysgu mewn Addysg Uwch (TUAAU), a’r modiwlau Arweinyddiaeth Effeithiol ac Arwain mewn Prifysgolion. Mae’r Uned hefyd yn chwarae rhan yn y gwaith o ddatblygu sefydliadol ac yn rheoli'r Cynllun Cydnabyddiaeth ar gyfer dyfarnu cymrodoriaethau’r Academi Addysgu Uwch. Yn ogystal â hyn, mae’r Uned yn gweithio'n agos gydag Ysgol y Graddedigion i drefnu rhaglen Ymchwilydd Aberystwyth -darpariaeth sgiliau a datblygu unedig, sy’n canolbwyntio ar anghenion ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa.Yn olaf, mae’r Uned yn hyrwyddo dysgu ac addysgu drwy gyfrwng technoleg, wrth gefnogi amrywiaeth o offer e-ddysgu, gan gynnwys Blackboard, Turnitin a Panopto.

Ein Cenhadaeth a’n Dull o Weithredu

Ein cenhadaeth yw proffesiynoli arferion gweithio mewn grŵp a gweithio unigol ym mhob agwedd ar fusnes y Brifysgol. Mae’r rhai sy’n broffesiynol yn eu gwaith:

  1. Yn cymryd cyfrifoldeb personol am eu swyddogaeth;
  2. Yn rhagweithiol;
  3. Yn dysgu o brofiad ac yn ymdrechu’n gyson i wella;
  4. Yn rhyngweithio a chyfathrebu’n effeithiol ag eraill.

Diben ein holl ddarpariaeth a chefnogaeth yw helpu staff i wella’r agweddau hyn ar arfer broffesiynol.

Ein dull o weithredu yw bod yn rhagweithiol wrth ddod o hyd i gyfleoedd igysylltu â staff a’u cefnogi yn eu datblygiad personol. Fe’ch anogir i gysylltu â’r Uned i drafod eich anghenion datblygu proffesiynol.