Ymarfer Academaidd

Ymarfer Academaidd

Ymarfer Academaidd yw’r term a ddefnyddir i ddisgrifio’r cyfuniad unigryw o waith a wneir gan academyddion. Mae McAlpine a Hopwood (2007) wedi awgrymu y gellir rhannu’r gwaith hwn yn fras yn dri math:

  1. Mathau o ymholi: o archwilio dogfennau’n ysgolheigaidd i ymchwil empirig - boed gymwysedig neu bur, wedi’i gomisiynu, unigol neu gydweithredol
  2. Mathau o addysgu: gweithio gydag israddedigion, uwchraddedigion a chymrodyr ôl-ddoethurol yn yr ystyr ehangaf e.e. cynllunio gweithgareddau dysgu, asesu, goruchwylio, cynghori a mentora
  3. Mathau o wasanaeth:  i’r sefydliad, y ddisgyblaeth, y proffesiwn a’r gymuned ehangach e.e. cadeirydd/aelod o bwyllgor sefydliadol, trefnydd cynhadledd ddisgyblaethol, ymgynghorydd busnes neu elusen.

Fodd bynnag, gall rhannu’r gwahanol agweddau yn y modd hwn fod yn wrthgynhyrchiol ac mae’n cyflwyno’r cysyniad eu bod yn cystadlu â’i gilydd. Mae disgwyliad cynyddol i’r academydd modern fod yn broffesiynol yn y tair agwedd hon ac mae hyn yn aml yn golygu eu bod yn gwrthdaro â’i gilydd. Mae’n cael ei gydnabod ers tro ei bod yn haws o lawer darparu tystiolaeth o effaith ym maes ymchwil nag ym maes addysgu, ac mae hyn yn aml yn golygu bod mwy o ymdrech yn cael ei fuddsoddi mewn ymchwil yn hytrach na datblygu addysgu.

Fodd bynnag, mae synegedd amlwg rhwng y gwahanol agweddau (e.e. defnyddio dulliau ymholi i ddatblygu addysgu, defnyddio ymchwil i wneud penderfyniadau rheoli ac ati) yn ogystal â sgiliau ac ymddygiadau craidd, megis ymarfer myfyriol, sydd wrth wraidd pob un o’r tair.

Ein nod ym Mhrifysgol Aberystwyth yw datblygu ymchwil ac addysgu o ansawdd byd-eang. Ond ni ellir cyflawni a chynnal hyn oni bai ein bod yn cydnabod cyfraniadau ym mhob un o’r tair agwedd, ac mae cynllun dyrchafiadau academaidd Aberystwyth yn rhoi pwysau cyfartal i bob un o’r tair agwedd ar arfer academaidd.

I ddatblygu gyrfa academaidd gytbwys a llwyddiannus, mae angen ymdrin â phob un o’r agweddau hyn gyda phroffesiynoldeb, canfod cydbwysedd o ran y pwyslais a roddir i bob un o’r agweddau ar wahanol adegau mewn gyrfa, a chwilio’n gyson am y meysydd lle ceir tir cyffredin.

Addysgu a Dysgu

 

3 agwedd y rôl academaidd

Addysgu / Teaching

Arweinyddiaeth / Leadership  

Ymchwil / Research