Cymrodoriaethau’r Advance HE
Cydnabyddiaeth Prifysgol Aberystwyth i Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus trwy Addysgu a Chynorthwyo Dysgu mewn Addysg Uwch (Cynllun ARCHE)
Y dyddiadau cau nesaf ar gyfer gwneud ceisiadau yw
- 19/3/2025, 14:00
I fynegi diddordeb mewn gwneud cais, e-bostiwch felstaff@aber.ac.uk.
Gweler ARCHE Scheme Handbook 2022 (DOC), ARCHE Scheme Handbook 2022 (PDF) gael manylion llawn.
Gan ddechrau o fis Medi 2024, caiff ceisiadau eu hasesu gan ddefnyddio FfSP 2023 yn lle FfSPDU 2011. Bydd y llawlyfr newydd yn cael ei bostio ar y dudalen hon maes o law.
Gweithdai, sesiynau neu ddigwyddiadau sydd ar y gweill:
- 21/10/2024 15:00-16:30 Hugh Owen E3 Applying for Senior Fellow
- 13/1/2025 15:00-16:00 ar-lein ARCHE Applicant Training
- 28/1/2025 10:00-11:00 Hugh Owen E3 ARCHE Applicant Training
(In the interest of clarity, our policy is to show the titles and descriptions of courses in the language of delivery of those courses.)
Rhaglen yw ARCHE y gall staff Prifysgol Aberystwyth (PA) ei defnyddio i wneud cais am Gymrodoriaeth yr Advance HE. Trwy'r rhaglen, gall staff y Brifysgol wneud cais am statws Cymrawd Cyswllt (AFHEA), Cymrawd (FHEA), neu Uwch Gymrawd (SFHEA). Ni chodir ffi ar staff PA sy'n gwneud cais trwy ARCHE. Os dymunwch wneud cais am statws Prif Gymrawd (PFHEA), rhaid gwneud cais trwy Advance HE yn uniongyrchol a thalu'r ffi ofynnol.
Caiff y cynllun ei reoli a'i drefnu gan yr Uned Cyfoethogi Dysgu ac Addysgu (Yr Uned) ym Mhrifysgol Aberystwyth. I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch felstaff@aber.ac.uk.
Mae nifer o lwybrau i'w cael at gymrodoriaeth. Seilir pob un ohonynt ar Fframwaith Safonau Proffesiynol (FfSP) ar gyfer addysgu a chynorthwyo dysgu mewn addysg uwch. Mae'r llwybrau hyn wedi'u mapio isod:
Mae'r tri chynllun hyn (ARCHE, AUMA, a TUAAU), ynghyd â gweithgareddau eraill sy'n alinio'n uniongyrchol â'r UKPSF, er enghraifft gweithdai a digwyddiadau pwrpasol Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP), yn rhan o'r fframwaith DPP cyffredinol ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Cais drwy brofiadau ARCHE
Mae Advance HE wedi achredu llwybr cais brofiadau i Brifysgol Aberystwyth, sef cynllun ARCHE. Mae hyn yn caniatáu i ni ddyfarnu Cymrodoriaethau Cyswllt, Cymrodoriaethau, ac Uwch Gymrodoriaethau (D1-D3) yn seiliedig ar bortffolio o dystiolaeth a gyflwynir.
I fynegi diddordeb mewn gwneud cais trwy gyfrwng y llwybr hwn neu os oes gennych gwestiwn, cysylltwch â fellows@aber.ac.uk.
Tystysgrif Uwchraddedig Addysgu mewn Addysg Uwch (TUAAU)
Cynllun astudio achrededig dwy flynedd yw rhaglen TUAAU, yn cynnwys dau fodiwl sy'n para blwyddyn yr un. Cynlluniwyd canlyniadau dysgu'r cynllun ar sail y fframwaith PSF; ac mae'r cynllun wedi'i achredu gan yr Academi Addysg Uwch ac Advance HE ers 2005. Mae'r ymgeiswyr sy'n cwblhau modiwl 1 yn llwyddiannus yn ennill statws Cymrawd Cyswllt (AFHEA), ac mae'r rhai sy'n cwblhau'r Dystysgrif Uwchraddedig gyflawn yn ennill statws Cymrawd (FHEA).
I gael rhagor o wybodaeth, gweler gwe-ddalen TUAAU.
Addysgu i Uwchraddedigion ym Mhrifysgol Aberystwyth (AUMA)
Yn 2016, cafodd y cynllun AUMA ei achredu gan Advance HE. Cynlluniwyd y rhaglen flwyddyn hon ar gyfer myfyrwyr uwchraddedig sy'n gwneud gwaith addysgu, staff academaidd sy'n gwneud ychydig o addysgu ar hyn o bryd, a staff ategol sy'n cynorthwyo dysgu'r myfyrwyr yn uniongyrchol. Mae ymgeiswyr sy'n cwblhau AUMA yn llwyddiannus yn ennill statws Cymrawd Cyswllt (AFHEA). Ar ôl ennill statws Cymrawd Cyswllt, gallant wneud cais i ymuno â rhaglen TUAAU a symud ymlaen yn syth i'r ail fodiwl.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler gwe-ddalen AUMA.
Canllawiau hanfodol FfSP
Mae’r eitemau isod yn cael eu darparu trwy Advance HE i’ch cynorthwyo i ennill statws Cymrawd yn Advance HE. Rydym yn annog pob ymgeisydd i’w darllen yn ofalus cyn cyflwyno eich cais.
- FfSP 2023 Fframwaith Safonau Proffesiynol ar gyfer addysgu a chefnogi dysgu mewn addysg uwch 2023 (ar gael yn Gymraeg neu Saesneg)
- Associate Fellowship (D1) Guide to the PSF 2023 Dimensions (yn Saesneg yn unig)
- Fellowship (D2) Guide to the PSF 2023 Dimensions (yn Saesneg yn unig)
- Senior Fellowship (D3) Guide to the PSF 2023 Dimensions (yn Saesneg yn unig)
Eich Cofnodion Cymrodoriaeth
A oes gennych unrhyw gategori o Gymrodoriaeth o’r AAU (a ddyfernir gan Advance HE)? Gall hyn fod yn Gymrawd Cyswllt (AFHEA), Cymrawd (FHEA), Uwch Gymrawd (SFHEA) neu’n Brif Gymrawd (PFHEA). Yn rhan o’n datganiadau data blynyddol, mae angen i ni sicrhau bod gennym gofnodion o bawb sydd â chymrodoriaeth, ac ym mha gategori. Gallwch wneud hyn eich hun drwy ddiweddaru eich cofnod ABW. Os gwnaethoch chi ennill cymrodoriaeth mewn sefydliad arall, dylech hefyd ddiweddaru eich cofnodion gyda Advance HE i adlewyrchu eich swydd bresennol ym Mhrifysgol Aberystwyth.