O’r Fesen i’r Dderwen: Llunio Coeden Achau (Rhan 3)

 

Gellir astudio O’r Fesen i’r Dderwen: Llunio Coeden Achau (Rhan 3) yn gwrs annibynnol ar wahân, ac mae'n un o gyrsiau craidd y Dystysgrif Addysg Uwch mewn Astudiaethau Hel Achau ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Ffeithiau Allweddol 

 

Iaith: Saesneg

Hyd: 10 Wythnos

Nifer y Credydau: 10

Tiwtor: Dr Matthew Ward 

Dull Dysgu: Ar lein 

Lefel: Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC  

Cod y Modiwl: XE11410

Ffi: £130.00 - Cynllun Hepgor Ffioedd

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’n rhestr bostio.

 

Braslun

Y trydydd o dri chwrs mewn cyfres hel achau yw O’r Fesen i’r Dderwen, Rhan Tri. Bydd yn eich cynorthwyo i barhau i ddatblygu eich coeden achau trwy eich cyflwyno i gofnodion hanesyddol newydd a thechnegau chwilio ar-lein. Mae hefyd yn addas i’r rhai sydd eisoes wedi dechrau ymchwilio i'w coeden achau ond a hoffai ddysgu mwy am gofnodion achyddol ac ynglŷn ag ymchwilio yn fwy effeithiol mewn cronfeydd data.

Mae'r cwrs yn canolbwyntio'n bennaf ar ymchwil i hanes teuluol ym Mhrydain. Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i chwilio yn effeithiol trwy nifer o wefannau hel achau, rhai lle telir tanysgrifiad a rhai y gellir eu defnyddio am ddim, yn ogystal â defnyddio a dehongli cofnodion a chyfeirlyfrau anghydffurfiol. Bydd y modiwl hefyd yn canolbwyntio ar ysgrifennu hanes eich teulu, sut i oresgyn y rhwystrau heriol sy’n codi, a'r hyn y gall profion DNA ei ddweud wrthym am hanes ein teulu. 
 
Oherwydd bod hwn yn gwrs dysgu ar-lein byddwch yn gallu astudio gartref a bod yn rhan o gymuned ar-lein o fyfyrwyr eraill sy'n dysgu am hel achau. Mae’r modiwl yn cael ei ddarparu trwy Blackboard, ein llwyfan dysgu ar-lein. Lle bynnag y bo modd, tynnir sylw at adnoddau eraill sydd ar gael am ddim, ac mae rhan fwyaf y gwefannau a ddefnyddir sy’n gofyn am danysgrifiad ar gael am ddim trwy wasanaethau’r llyfrgelloedd cyhoeddus lleol. Fe fydd angen talu tanysgrifiad i rai o'r adnoddau ar-lein y cyfeirir atynt yn ystod y cwrs, os byddwch 
yn eu defnyddio gartref. 

Rhaglen 

Bydd gweithgareddau a thasgau yn rhan o bob uned er mwyn i’r myfyrwyr allu ymarfer y technegau y maent wedi'u dysgu, a datblygu eu medrau. Caiff myfyrwyr eu hannog i rannu eu gwaith eu hunain a chymryd rhan mewn trafodaethau ar Blackboard. Yn ogystal â'r deunyddiau dysgu ar Blackboard gellir cysylltu â’r tiwtor trwy e-bost yn ystod y cwrs i ateb unrhyw ymholiadau a chael arweiniad. Bydd y tiwtor yn cymryd rhan yn y trafodaethau ar-lein hefyd.   

  • Uned 1: Rhagarweiniad  
  • Uned 2 - Cofnodion anghydffurfiol 
  • Uned 3 – Cyfeiriaduron 
  • Uned 4 - Adrodd eich stori: sut i greu naratif o ddata hanes teulu 
  • Uned 5 - Sut i ymdrin â hynafiaid os oes ganddynt enwau cyffredin 
  • Uned 6 - DNA: sut y gall ategu eich ymchwil DNA 

Bydd y modiwl hwn yn cynnwys 1-2 o weminarau byw i glymu holl linynnau'r modiwl ynghyd a gall myfyrwyr gyflwyno cwestiynau i'w hateb. 

Canlyniadau Dysgu

  1. Llunio a datblygu eu coeden achau yn ôl i'r ddeunawfed ganrif, os oes modd, trwy chwilio amrywiaeth eang o gofnodion hanesyddol yn effeithiol i ddod o hyd i wybodaeth. 
  2. Cynnal chwiliadau lefel uwch ar-lein mewn nifer o wefannau hel achau er mwyn dod o hyd i gofnodion perthnasol trwy ddefnyddio nifer o bytiau o wybodaeth. 
  3. Crynhoi, dadansoddi a chyfosod gwybodaeth, o amrywiaeth eang o ddeunydd ffynhonnell gwreiddiol ac eilaidd, i greu prosiect ymchwil sy'n gosod eu cyndeidiau mewn cyd-destun cymdeithasol-hanesyddol ehangach. 
  4. Wrth geisio creu coeden achau, ymdrin â 'wal frics' o rwystrau yn drefnus ac yn feirniadol, gan ddefnyddio amrywiaeth o offerynnau chwilio.  

Asesiadau

Prosiect Ysgrifenedig (2000 o eiriau) 100%  

Awgrymiadau am Ddeunydd Darllen

Cynigir awgrymiadau am ddeunydd darllen trwy gydol y cwrs.

Gofynion Mynediad

Cwrs i bawb yw hwn.  Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol ac nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol.

Beth sydd ei angen arnaf?

Gan ei fod yn gwrs ar-lein, bydd angen y canlynol arnoch:
• Cyswllt â'r Rhyngrwyd
• Gliniadur neu gyfrifiadur sydd â gwe-gamera a meicroffon; efallai y bydd clustffonau yn ddefnyddiol
• Defnyddio’r gwe-borwr Chrome lle bo hynny'n bosib.