O’r Fesen i’r Dderwen: Llunio Coeden Achau (Rhan 2)

 

Gellir astudio O’r Fesen i’r Dderwen: Llunio Coeden Achau (Rhan 2) yn gwrs annibynnol ar wahân, ac mae'n un o gyrsiau craidd y Dystysgrif Addysg Uwch mewn Astudiaethau Hel Achau ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Ffeithiau Allweddol 

 

Iaith: Saesneg

Hyd: 10 Wythnos

Nifer y Credydau: 10

Tiwtor: Dr Matthew Ward 

Dull Dysgu: Ar lein 

Lefel: Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC  

Cod y Modiwl: XE11210

Ffi: £130.00 - Cynllun Hepgor Ffioedd

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’n rhestr bostio.

 

Braslun

Yr ail o dri chwrs mewn cyfres hel achau yw O’r Fesen i’r Dderwen, Rhan Dau. Bydd yn eich cynorthwyo i barhau i ddatblygu eich coeden achau trwy eich cyflwyno i gofnodion hanesyddol newydd a thechnegau chwilio ar-lein. Mae hefyd yn addas i’r rhai sydd eisoes wedi dechrau ymchwilio i'w coeden achau ond a hoffai ddysgu mwy am gofnodion achyddol ac ynglŷn ag ymchwilio yn fwy effeithiol mewn cronfeydd data. Mae'r cwrs yn canolbwyntio'n bennaf ar ymchwil i hanes teuluol ym Mhrydain. Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i chwilio yn effeithiol trwy nifer o wefannau hel achau, rhai lle telir tanysgrifiad a rhai y gellir eu defnyddio am ddim, yn ogystal â defnyddio a dehongli cofnodion plwyf, papurau newydd, ffotograffau, mapiau, ac ewyllysiau a phrofiant (cyn 1858). 

Mae hwn yn gwrs dysgu o bell a byddwch yn gallu astudio gartref a bod yn rhan o gymuned ar-lein o fyfyrwyr eraill sy'n dysgu am hel achau. Cyflwynir y modiwl trwy Blackboard, ein hamgylchedd dysgu ar-lein, a bydd gweminar byw yn cael ei gynnal ar ddiwedd y modiwl. Lle bynnag y bo modd, tynnir sylw at adnoddau eraill sydd ar gael am ddim, ac mae rhan fwyaf y gwefannau a ddefnyddir sy’n gofyn am danysgrifiad ar gael am ddim trwy wasanaethau’r llyfrgelloedd cyhoeddus lleol. Fe fydd angen talu tanysgrifiad i rai o'r adnoddau ar-lein y cyfeirir atynt yn ystod y cwrs, os byddwch yn eu defnyddio gartref. 

Rhaglen

Bydd gweithgareddau a thasgau yn rhan o bob uned er mwyn i’r myfyrwyr allu ymarfer y technegau y maent wedi'u dysgu, a datblygu eu medrau. Caiff myfyrwyr eu hannog i rannu eu gwaith eu hunain a chymryd rhan mewn trafodaethau ar Blackboard. Yn ogystal â'r deunyddiau dysgu ar Blackboard gellir cysylltu â’r tiwtor trwy e-bost yn ystod y cwrs i ateb unrhyw ymholiadau a chael arweiniad. Bydd y tiwtor yn cymryd rhan yn y trafodaethau ar-lein hefyd.  

  • Uned 1: Rhagarweiniad
  • Uned 2 – Cofnodion Plwyf
  • Uned 3 - Ewyllysiau a Phrofiant cyn 1858
  • Uned 4 – Papurau Newydd Hanesyddol 

Gweminar Byw 

  • Uned 5 – Ffotograffau
  • Uned 6 - Mapiau    

 Canlyniadau Dysgu

Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn dylai'r myfyrwyr allu gwneud y canlynol: 

  1. Llunio a datblygu eu coeden achau y tu hwnt i 1837 (cofrestriad sifil) trwy chwilio cofnodion hanesyddol yn effeithiol, er enghraifft cofrestrau plwyf, ewyllysiau, a phapurau newydd i ddod o hyd i wybodaeth allweddol. 
  2. Dehongli a thrawsgrifio dogfennau hanesyddol ac achyddol allweddol er mwyn cael gwybodaeth gywir ohonynt ar gyfer eu hymchwil 
  3. Cynnal chwiliadau ar lefel ganolradd ar-lein mewn nifer o wefannau hel achau er mwyn dod o hyd i gofnodion perthnasol trwy ddefnyddio nifer o bytiau o wybodaeth. 
  4. Crynhoi, dadansoddi a chyfosod gwybodaeth, o'r amrywiaeth eang o ddeunydd ffynhonnell a archwiliwyd yn y modiwl, i greu prosiect ymchwil cryno sy'n gosod eu cyndeidiau mewn cyd-destun cymdeithasol-hanesyddol ehangach. 

Asesiadau

  1. Prawf Trawsgrifio - Bydd y myfyrwyr yn cael 4 dogfen fer i'w hastudio a'u trawsgrifio'n gywir. (20%) 
  2. Prosiect Ymchwil Byr - Bydd y myfyrwyr yn ysgrifennu traethawd byr am ran/cangen o'u coeden achau, gan defnyddio'r rhan fwyaf o'r cofnodion a astudir yn ystod y modiwl. Dylai gynnwys diagram o’r goeden achau, o leiaf un ffotograff a dau fap. Dylid gweld tystiolaeth bod y myfyriwr wedi ymchwilio i hanes y man lle roedd ei hynafiaid yn byw ac yn eu gosod mewn cyd-destun cymdeithasol-hanesyddol ehangach. 1000 o eiriau (80%). 

Awgrymiadau am Ddeunydd Darllen

Cynigir awgrymiadau am ddeunydd darllen trwy gydol y cwrs. 

Gofynion Mynediad

Cwrs i bawb yw hwn.  Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol ac nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol.

Beth sydd ei angen arnaf?

Gan ei fod yn gwrs ar-lein, bydd angen y canlynol arnoch:
• Cyswllt â'r Rhyngrwyd
• Gliniadur neu gyfrifiadur sydd â gwe-gamera a meicroffon; efallai y bydd clustffonau yn ddefnyddiol
• Defnyddio’r gwe-borwr Chrome lle bo hynny'n bosib.