O’r Fesen i’r Dderwen: Llunio Coeden Achau (Rhan 1)

 

Gellir astudio O’r Fesen i’r Dderwen: Llunio Coeden Achau (Rhan 1) yn gwrs annibynnol ar wahân, ac mae'n un o gyrsiau craidd y Dystysgrif Addysg Uwch mewn Astudiaethau Hel Achau ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Ffeithiau Allweddol 

 

Iaith: Saesneg

Hyd: 10 Wythnos

Nifer y Credydau: 10

Tiwtor: Dr Matthew Ward 

Dull Dysgu: Ar lein 

Lefel: Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC  

Cod y Modiwl: XE19210

Ffi: £130.00 - Cynllun Hepgor Ffioedd 

Gellir archebu lle ar y cwrs yma.

 

Braslun

Ydych chi wastad wedi bod eisiau gwybod mwy am eich cyndeidiau ond dim syniad ymhle i ddechrau? Os felly, dyma'r cwrs delfrydol oherwydd bydd yn eich rhoi ar ben ffordd i ddechrau llunio a datblygu eich coeden achau eich hun o'r cychwyn. Mae hefyd yn addas i’r rhai sydd eisoes wedi dechrau ymchwilio i'w coeden achau ond a hoffai ddysgu mwy am gofnodion achyddol ac ynglŷn ag ymchwilio yn fwy effeithiol mewn cronfeydd data.  

Mae'r cwrs yn canolbwyntio'n bennaf ar ymchwil i hanes teuluol ym Mhrydain. Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i chwilio yn effeithiol trwy nifer o wefannau hel achau, rhai lle telir tanysgrifiad a rhai y gellir eu defnyddio am ddim, yn ogystal â defnyddio a dehongli cofrestr 1939, y cyfrifiad, cofnodion sifil, cofnodion milwrol, ac ewyllysiau a phrofiant. Oherwydd fod hwn yn gwrs dysgu ar-lein byddwch yn gallu astudio gartref a bod yn rhan o gymuned ar-lein o fyfyrwyr eraill sy'n dysgu am hel achau. Cyflwynir y modiwl trwy Blackboard, ein hamgylchedd dysgu ar-lein, a bydd gweminar byw yn cael ei gynnal ar ddiwedd y modiwl. Lle bynnag y bo modd, tynnir sylw at adnoddau eraill sydd ar gael am ddim, ac mae rhan fwyaf y gwefannau a ddefnyddir sy’n gofyn am danysgrifiad ar gael am ddim trwy wasanaethau’r llyfrgelloedd cyhoeddus lleol. Fe fydd angen talu tanysgrifiad i rai o'r adnoddau ar-lein y cyfeirir atynt yn ystod y cwrs, os byddwch yn eu defnyddio gartref.  

Rhaglen 

Bydd gweithgareddau a thasgau yn rhan o bob uned er mwyn i’r myfyrwyr allu ymarfer y technegau y maent wedi'u dysgu, a datblygu eu medrau. Caiff myfyrwyr eu hannog i rannu eu gwaith eu hunain a chymryd rhan mewn trafodaethau ar Blackboard. Yn ogystal â'r deunyddiau dysgu ar Blackboard gellir cysylltu â’r tiwtor trwy e-bost yn ystod y cwrs i ateb unrhyw ymholiadau a chael arweiniad. Bydd y tiwtor yn cymryd rhan yn y trafodaethau ar-lein hefyd.   

Uned 1 - Rhagarweiniad y Cwrs 

  • Amcanion, pynciau ac asesiadau’r cwrs  
  • Sut i nodi a chrynhoi'r hyn y gwyddoch eisoes am hanes eich teulu  
  • Sut i ddefnyddio templed y goeden achau ar-lein  
  • Byrddau trafod a chyfnodolion ar-lein: sut y byddwn yn eu defnyddio yn ystod y cwrs 

 Uned 2 - Gwefannau Hel Achau 

  • Canfod y prif wefannau tanysgrifio ac am ddim ar-lein ar gyfer ymchwil hel achau. 
  • Dangos dulliau chwilio sylfaenol a chreu coeden ar-lein.  

Uned 3 - Cofrestr 1939 a'r Cyfrifiad 

  • Hanes y 2 gasgliad pwysig hyn o gofnodion 
  • Sut i ganfod cofrestr a chyfrifiad 1939, sut i chwilio trwyddynt a’u defnyddio’n effeithiol ar gyfer ymchwilio hanes teulu Gweld beth yw heriau a nodweddion hynod y dogfennau hyn.  

Uned 4 - Cofrestru Sifil: Cofnodion Geni, Priodi a Marw 

  • Hanes cofrestru sifil, enghreifftiau o dystysgrifau, tynnu sylw at nodweddion allweddol a dangos sut y gellir eu defnyddio i oresgyn rhwystrau.  
  • Dangos gwefan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol a sut i archebu tystysgrifau ar-lein.  

Uned 5 - Cofnodion Milwrol: Y ddau Ryfel Byd 

  • Hanes y rhyfeloedd hyn yn gryno a nifer y rhai yr effeithiwyd arnynt.  
  • Crynodeb o'r casgliadau sydd wedi goroesi a'r rhai nad ydynt ar gael bellach.  
  • Ymhle y gellir eu gweld, beth sydd wedi'i ddigideiddio, a sut i chwilio yn effeithiol am eich cyndeidiau.  

Uned 6 - Ewyllysiau a Phrofiant ar ôl 1858 

  • Diffiniadau o ewyllys a phrofiant, pam eu bod yn ddefnyddiol i haneswyr teuluol 
  • Cyflwyniad i'r Brif Gofrestrfa Profiant ar ôl 1858. 
  • Sut i ddefnyddio gwefan ewyllysiau a phrofiant llywodraeth y DU i archebu copïau o ewyllysiau. 

 

Canlyniadau Dysgu

Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn dylai'r myfyrwyr allu gwneud y canlynol: 

  1. Crynhoi a chloriannu eu deunydd archif personol er mwyn dechrau llunio eu coeden achau. 
  2. Cynnal chwiliadau amlran ar-lein mewn nifer o wefannau hel achau er mwyn dod o hyd i gofnodion perthnasol. 
  3. Cloriannu cofnodion achyddol a’u croesgyfeirio i brofi neu wrthbrofi damcaniaeth.  
  4. Dadansoddi a chyfosod yr wybodaeth sydd ganddynt er mwyn creu proffil i un o'u cyndeidiau. 

Asesiadau

  1. Prawf Chwilio Ar-lein - Cynhelir y prawf hwn yn Blackboard: ar ôl Uned 6 byddwch yn cael un ddogfen hel achau. Byddwch wedyn yn defnyddio'r dulliau ymchwil a'r technegau chwilio a ddysgoch i ddod o hyd i gofnodion pellach er mwyn ateb cyfres o gwestiynau ynglŷn â'r unigolyn hwnnw. Bydd yr holl gofnodion i’w canfod ar y prif wefannau hel achau tanysgrifio ac am ddim. (20% o'r marc cyffredinol) 
  2. Proffil un o’ch cyndeidiau - Byddwch yn ysgrifennu proffil i un o'ch hynafiaid gan ddefnyddio rhan fwyaf y cofnodion a drafodwyd yn ystod y modiwl. Dylai gynnwys data hanfodol amdano/amdani (e.e. dyddiadau geni, priodi a marw) yn ogystal â gwybodaeth am broffesiwn yr unigolyn a'r mannau lle bu’n byw. Dylech ddangos tystiolaeth eich bod yn dechrau gosod bywydau eich hynafiaid mewn cyd-destun cymdeithasol ac economaidd ehangach (800 o eiriau). (80% o'r marc cyffredinol) 

 

  1. Prawf Chwilio Ar-lein - Cynhelir y prawf hwn yn Blackboard: ar ôl Uned 6 byddwch yn cael un ddogfen hel achau. Byddwch wedyn yn defnyddio'r dulliau ymchwil a'r technegau chwilio a ddysgoch i ddod o hyd i gofnodion pellach er mwyn ateb cyfres o gwestiynau ynglŷn â'r unigolyn hwnnw. Bydd yr holl gofnodion i’w canfod ar y prif wefannau hel achau tanysgrifio ac am ddim. (20% o'r marc cyffredinol) 
  2. Proffil un o’ch cyndeidiau - Byddwch yn ysgrifennu proffil i un o'ch hynafiaid gan ddefnyddio rhan fwyaf y cofnodion a drafodwyd yn ystod y modiwl. Dylai gynnwys data hanfodol amdano/amdani (e.e. dyddiadau geni, priodi a marw) yn ogystal â gwybodaeth am broffesiwn yr unigolyn a'r mannau lle bu’n byw. Dylech ddangos tystiolaeth eich bod yn dechrau gosod bywydau eich hynafiaid mewn cyd-destun cymdeithasol ac economaidd ehangach (800 o eiriau). (80% o'r marc cyffredinol)  

Awgrymiadau am Ddeunydd Darllen

Cynigir awgrymiadau am ddeunydd darllen trwy gydol y cwrs. 

Gofynion Mynediad

Cwrs i bawb yw hwn.  Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol ac nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol.

Beth sydd ei angen arnaf?

Gan ei fod yn gwrs ar-lein, bydd angen y canlynol arnoch:
• Cyswllt â'r Rhyngrwyd
• Gliniadur neu gyfrifiadur sydd â gwe-gamera a meicroffon; efallai y bydd clustffonau yn ddefnyddiol
• Defnyddio’r gwe-borwr Chrome lle bo hynny'n bosib.