Gwibdaith Drwy Lenyddiaeth Gymraeg 

 

Gwlad beirdd a chantorion medd yr anthem genedlaethol am Gymru, a thros gyfnod o ddeg wythnos, bydd y cwrs hwn yn rhoi cyflwyniad i rai o feirdd a llenorion Cymru.

Ffeithiau Allweddol

 

Iaith: Cymraeg

Hyd: 10 Wythnos 

Nifer y Credydau: 10

Tiwtor: Mererid Hopwood 

Dull Dysgu: Ar lein

Lefel: Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC

Cod y Modiwl: YD11010

Ffi: £130.00 - Cynllun Hepgor Ffioedd

Amlinell 

‘Gwlad beirdd a chantorion’ medd yr anthem genedlaethol am Gymru, a thros gyfnod o ddeg wythnos, bydd y cwrs hwn yn rhoi cyflwyniad i rai o feirdd a llenorion Cymru. Bob wythnos trafodir un darn o lenyddiaeth o wahanol gyfnod, gan roi trosolwg o rai o brif themâu a ffurfiau llenyddiaeth Gymraeg dros 1000 o flynyddoedd a mwy.  Bydd y sesiynau’n defnyddio cerddi a darnau o ryddiaith fel drws i agor trafodaeth am y gwaith, y bardd, yr hanes a’r gymdeithas. O’r Gododdin i Gwyneth Lewis, o Ddafydd ap Gwilym i Ddafydd Iwan, ceir cip ar Gymru drwy ei llenyddiaeth a chyfle hefyd i ddefnyddio a mireinio sgiliau iaith Gymraeg.  

Mae’r cwrs hwn yn eich galluogi i astudio o gartref a bod yn rhan o gymuned ar-lein gyda myfyrwyr eraill. Cynigir y modiwl drwy'r 'Bwrdd-du/Blackboard', sef ein hamgylchfyd dysgu rhithiol ym Mhrifysgol Aberystwyth.  

Mae’n addas ar gyfer dysgwyr Cymraeg sydd wedi cyrraedd rhengoedd uchaf Dysgu Cymraeg ac sy’n awyddus i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth. Mae’r modiwl yn cynnig cymysgedd o ddysgu yn ôl eich amserlen eich hunain a seminarau byw ac ar-lein dros Microsoft Teams. Arweinir y sesiynau gan aelodau Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd y Brifysgol sy’n arbenigwyr cydnabyddedig yn y maes.  

Rhaglen y Cwrs. 

Wythnos – 1  

  • Croeso a chyflwyniad i’r cwrs. Sesiwn sgiliau astudio gan gynnwys sut i ddefnyddio’r Bwrdd-du, Panopto ayb.  
    Gweithgaredd: cyflwyniad byw ar-lein gydag ymarferion mewn grwpiau. 
  • Cyflwyniad i’r Hengerdd. Cyflwyniad i farddoniaeth hynaf yr iaith Gymraeg, sy’n rhoi cipolwg ar erchyllterau rhyfel o safbwynt cymdeithas lle roedd marw’n arwrol ar faes y gad yn gamp i’w chlodfori  
    Gweithgaredd: cyflwyniad Panopto; gosodir 4 cwestiwn yn seiliedig ar y testun i’w trafod yn y sesiwn nesaf.  

Wythnos - 2  

  • Trafod yr Hengerdd  
    Gweithgaredd: seminar byw yn defnyddio’r cwestiynau a osodwyd fel sbardun i drafodaeth.  
  • Cyflwyniad i’r Mabinogion. Cyflwyniad i’r chwedlau canoloesol a adnabyddir, ers amser Charlotte Guest, fel Y Mabinogion: hud a lledrith, bwystfilod dychrynllyd, cyfeillgarwch, brad a moch arbennig yn erbyn tirwedd Cymru.  
    Gweithgaredd: cyflwyniad Panopto; gosodir 4 cwestiwn yn seiliedig ar y testun i’w trafod yn y sesiwn nesaf.  

Wythnos - 3   

  • Trafod Y Mabinogion. Gweithgaredd: seminar byw yn defnyddio’r cwestiynau a osodwyd fel sbardun i drafodaeth.  
  • Cyflwyniad i Ddafydd ap Gwilym a’i gyfoedion. Trosolwg o’r bedwaredd ganrif ar ddeg, un o’r cyfnodau mwyaf cyffrous yn hanes barddoniaeth Gymraeg. Roedd y cywyddwyr cynnar yn feirdd o fri a weddnewidiodd y traddodiad, a neb yn fwy na Dafydd ap Gwilym, un o feirdd mawr Ewrop yn yr Oesoedd Canol.  
    Gweithgaredd: cyflwyniad Panopto; gosodir 4 cwestiwn yn seiliedig ar y testun i’w trafod yn y sesiwn nesaf.  

Wythnos - 4 

  • Trafod Dafydd ap Gwilym a’i gyfoedion. Gweithgaredd: seminar byw yn defnyddio’r cwestiynau a osodwyd fel sbardun i drafodaeth.  
  • Cyflwyniad i ‘Merched a’r traddodiad barddol Cymraeg’  
    Trosolwg o gyfraniad merched i’r traddodiad barddol Cymraeg, gan gynnwys prif themâu eu cerddi a’r modd yr herient genres a chonfensiynau’r traddodiad barddol.  
    Gweithgaredd: cyflwyniad Panopto; gosodir 2 gwestiwn yn seiliedig ar y testun i’w trafod yn y sesiwn nesaf.  

Wythnos - 5 

  • Sesiwn drafod ac adolygu gyda chwis ar-lein.  

Wythnos - 6 

Trafod ‘Merched a’r traddodiad barddol Cymraeg’ Gweithgaredd: seminar byw yn trafod yr ymatebion i’r cwis ac yn defnyddio’r cwestiynau a osodwyd fel sbardun i drafodaeth.  

  • 20G: Detholiad o waith Iwan Llwyd. Cyflwyniad byr i yrfa Iwan Llwyd.  

Gweithgaredd: cyflwyniad Panopto; gosodir 4 Cwestiwn yn seiliedig ar y testun i’w trafod yn y sesiwn nesaf.   

Wythnos - 7   

Trafod cyd-destun cerddi Iwan Llwyd. Gweithgaredd: seminar byw yn defnyddio’r cwestiynau a osodwyd fel sbardun i drafodaeth Bydd cyfle i drafod, dadansoddi a chymharu enghreifftiau o waith gan gyfoeswyr Iwan.  

  • Crefft Cyfieithu Llenyddol: Williams a Walliams. Dyma gipolwg ar gyfieithu barddoniaeth a rhyddiaith ddiweddar. Trafodir cyfieithiad Rowan Williams o’r gerdd ‘Pa Beth yw Dyn?’ gan yr heddychwr a’r cenedlaetholwr, y bardd Waldo Williams. Edrychir hefyd ar gyfieithiadau Cymraeg o rai o nofelau poblogaidd David Walliams.  
    Gweithgaredd: cyflwyniad Panopto; gosodir darn i’w gyfieithu i’w drafod yn y sesiwn nesaf.  

Wythnos - 8   

  • Tasg Cyfieithu. Gweithgaredd: cyflwyniad a gweithdy byw yn trafod y darn a osodwyd i’w gyfieithu.  
  • Cyflwyniad i Gwyneth Lewis. Mae’r Prifardd Gwyneth Lewis yn fardd, llenor, dramodydd a libretydd. Bu’n Fardd Cenedlaethol Cymru rhwng 2005-06. Mae’n ysgrifennu yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd a’i harddull yn un o gynildeb a hwnnw’n aml yn ddeifiol.  
    Gweithgaredd: cyflwyniad Panopto; gosodir 4 cwestiwn yn seiliedig ar y testun i’w trafod yn y sesiwn nesaf.   

Wythnos - 9  

  • Trafod Gwyneth Lewis. Gweithgaredd: seminar byw’n defnyddio’r cwestiynau a osodwyd fel sbardun i drafodaeth.  
  • Cyflwyniad i rai o feirdd caneuon ‘poblogaidd’ Cymru. Mae barddoniaeth ddiddorol a chyfoethog yn nifer o ganeuon poblogaidd Cymru a’r gweithiau yn rhychwantu’r gerdd brotest a’r emyn, y delyneg a’r anthem. Yn y sesiwn hon, cawn gyfle i graffu ar rai o’r geiriau hyn o waith rhai fel Dafydd Iwan a Kizzy Crawford a gwerthfawrogi’r grym sydd y tu ôl i’r symlrwydd ymddangosiadol.  
    Gweithgaredd: cyflwyniad Panopto; gosodir 4 cwestiwn fel sbardun i drafodaeth yn y sesiwn nesaf.  

Wythnos - 10 

Trafod beirdd caneuon poblogaidd Cymru. Gweithgaredd: seminar byw.  

  • Adolygu a pharatoi ar gyfer y traethawd   
    Atgyfnerthir y sesiwn byw gan sesiwn Panopto yn trafod llunio traethawd sy’n ymateb i destun llenyddol.   

Canlyniadau Dysgu 

Ar ôl cwblhau'r modiwl dylai'r rhai sydd ar y cwrs fod yn gallu:  

  1. Dangos dealltwriaeth o brif themâu llenyddiaeth Gymraeg o’r gorffennol tan heddiw a datblygu gwybodaeth am rai o’r awduron a’r testunau allweddol. 
  2. Dadansoddi, dehongli a thrafod detholiad o destunau llenyddol gwreiddiol. 
  3. Datblygu’r gallu i ddarllen yn feirniadol. 
  4. Magu hyder i drafod llenyddiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar. 
  5. Llywio gwefannau i chwilio am ffynonellau gwreiddiol ac eilaidd a defnyddio’r deunydd hwnnw. 
  6. Crynhoi, dadansoddi a chyfuno gwybodaeth o blith yr amrywiaeth o ddeunydd a ddefnyddir ar y modiwl, er mwyn ysgrifennu traethawd byr sy’n dangos dirnadaeth o waith y bardd/yr awdur a ddewiswyd. 

Asesiadau 

  1. Cyfieithu detholiad cryno o ffynhonnell ysgrifenedig. 500 gair (25% o gyfanswm y marc).  
  2. Prosiect ar un o’r unigolion a gyflwynwyd ar y cwrs. 1500 gair (75% o gyfanswm y marc). 

Rhestr Darllen 

Llawlyfr y Modiwl a fydd yn cynnwys darnau allweddol o’r testunau a drafodir  
Literary translation a practical guide  
Landers, Clifford E. c2001 e-lyfr:  
Ysgrifau a Chanllawiau Cyfieithu gan Delyth Prys a Robat Trefor  
I. Williams (gol.), Canu Aneirin (Aberystwyth, 1938)  
K. Jackson (ed.), The Gododdin: The Oldest Scottish Poem (Edinburgh, 1969)  
Gwefan www.dafyddapgwilym.net  
D. Johnston, Llên yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300–1525 (Caerdydd, 2005)  

Gofynion Mynediad 

Mae hwn yn gwrs i bawb. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol ac nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol.  

Beth sydd ei angen arnaf? 

Gan mai cwrs ar-lein yw hwn, bydd angen y canlynol arnoch: 

  • Mynediad i'r rhyngrwyd. 
  • Mynediad i liniadur neu gyfrifiadur gyda chamera gwe a meicroffon; gallai clustffonau fod yn ddefnyddiol hefyd. 
  • Defnyddiwch borwr gwe Chrome lle bo hynny'n bosib.