Llyfrgell Hugh Owen

 

Llyfrgell Hugh Owen yw prif Lyfrgell y Brifysgol a chanolfan weinyddol Gwasanaethau Gwybodaeth. Lleolir ar gampws Penglais, wrth ymyl Adeilad Hugh Owen a Chanolfan y Celfyddydau [lleoliad].

Mae gan y Llyfrgell dri llawr, Lefel D, Lefel E a Lefel F ac ystafell astudio cynllun agored, Ystafell Iris de Freitas. Mae'n cynnig mannau astudio, amrywiaeth o gyfleusterau ac adnoddau a'r Ddesg YmholiadauTG a Llyfrgell.

Nodyn atgoffa: Bydd angen eich Cerdyn Aber arnoch i ddefnyddio'r Llyfrgell a'r mannau astudio

 

Oriau agor

 

Cefnogaeth y Gwasanaethau Gwybodaeth a lefelau gwasanaeth

Oriau craidd: 09:00-17:00 dydd Llun-Gwener

  • Mae Gwasanaethau Gwybodaeth yn cynnig ystod o wasanaethau a chymorth rhwng 09:00-17:00, dydd Llun i ddydd Gwener yn ystod y tymor a’r gwyliau (ag eithrio pan fydd y llyfrgelloedd ar gau).

 

Mannau astudio

Mae amrywiaeth o fannau ar gyfer astudio'n dawel, unigol ac astudio mewn grŵp yn Ystafell Iris de Freitas ac ar Lefelau E & F yn Llyfrgell Hugh Owen.

Noder: Bydd angen eich Cerdyn Aber arnoch i ddefnyddio'r llyfrgell a'r mannau astudio

Lefelau E & F 

Study spaces in Level E & F

Mae amrywiaeth o fannau astudio, ystafelloedd astudio unigol a grŵp ar Lefelau E & F. Mae'r casgliadau o lyfrau hefyd yn cael eu cadw ar y lefelau hyn.

Os hoffech ddefnyddio'r ystafelloedd astudio grŵp a'r carelau astudio unigol, bydd angen ichi archebu lle o flaen llaw (dilynwch y dolenni). 

Sut mae cyrraedd Lefelau E ac F 

Dewch i'r Llyfrgell trwy'r brif fynedfa ac i fyny'r grisiau ym mhen pellaf Lefel D:

Prif fynedfa'r Llyfrgell

 

Ystafell Iris de Freitas 

Study spaces in Iris de Freitas

Mae gan Ystafell Iris de Freitas gymysgedd o garelau astudio unigol ac ystafelloedd astudio grŵp, mannau astudio, argraffydd/llungopïwr/sganiwr ac ardal werthu bwyd a diod.

Os hoffech ddefnyddio'r ystafelloedd astudio bydd rhaid ichi archebu lle o flaen llaw.

Sut mae cyrraedd Ystafell Iris de Freitas

Dewch i mewn i'r Llyfrgell trwy'r brif fynedfa ac ewch i fyny i Lefel E. Trowch i'r dde wrth ddod o'r grisiau, ewch heibio'r ddwy ystafell astudio ac mi welwch fynedfa Ystafell Iris de Freitas trwy'r drws nesaf ar y dde:

Casgliadau

Mae casgliadau Llyfrgell Hugh Owen yn cwmpasu pynciau'r Celfyddydau, y Gwyddorau Cymdeithasol a Gwyddorau'r Ddaear ac yn cynnwys:

Gellir dod o hyd i wybodaeth am fenthyca o gasgliadau'r llyfrgell yma

Canfod eich ffordd - Map Llawr y Llyfrgell

Map Llawr y Llyfrgell

Porwch fap ar-lein newydd yn libraryfloormap.aber.ac.uk i ddarganfod lle mae popeth yn Llyfrgell Hugh Owen, i gael rhagor o wybodaeth am adnoddau a mannau’r llyfrgell ac i ymgyfarwyddo â'r cynllun llawr.

Taith rithiol

Dyma daith rithiol o gwmpas Llyfrgell Hugh Owen:

Hygyrchedd

AccessAble - Cliciwch i gael Gwybodaeth am Hygyrchedd

Cysylltwch â ni os hoffech gael taith dywysedig o amgylch yr adnoddau, neu i drafod unrhyw ofynion penodol sydd gennych.