Archifau a Chasgliadau Arbennig
Croeso i dudalennau Casgliadau Arbennig. Mae Gwasanaethau Gwybodaeth yn meddu ar nifer o gasgliadau unigryw a phrin. Hyderwn y bydd y casgliadau o ddefnydd ar gyfer dysgu ac ymchwil yn ogystal o ddiddordeb cyffredinol.
Mae ymgynghori â chasgliadau arbennig trwy apwyntiad yn unig. Byddwn yn cysylltu â chi i drefnu'r apwyntiad unwaith y bydd y deunydd ar gael.
Rhai o uchafbwyntiau’r casgliad
Coffau’r Rhyfel Byd Cyntaf
Cyfres o erthyglau am Y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Profiad Cymreig sy’n gosod ein casgliadau arbennig yn eu cyd-destun hanesyddol.
Casgliadau George Powell
Casgliad o lyfrau, llawysgrifau a deunydd celf a roddwyd i’r Brifysgol gan George Powell Nanteos rhwng 1879 a 1882. Yn eu plith ceir wyth cyfrol o argraffiad 1747 yr Archesgob Warburton o waith Shakespeare. Defnyddiwyd y cyfrolau gan Samuel Johnson wrth iddo baratoi ei eiriadur a gwelir nifer o nodiadau a thanlinelliadau ynddynt.
Casgliad Appleton
Mae’r Casgliad Appleton yn cynnwys deunydd ar argraffu lliw a rhwymiadau cain o tua 1840 i 1890.
Casgliad Horton
Mae Casgliad Horton o Ddeunydd Plant yn cynnwys dros 800 o eitemau sy’n olrhain datblygiad llyfrau plant dros gyfnod o ddwy ganrif o ganol yn ddeunawfed ganrif hyd 1913.
Canllawiau ar gyfer edrych ar Lyfrau Prin
Mae’r eitemau yn y casgliadau arbennig yn ein llyfrgelloedd o werth hynafiaethol, yn enghreifftiau o argraffu cain, neu’n cael eu hystyried yn glasuron. Cedwir llawer o’r casgliadau hyn mewn mannau rheoli lleithder ac mae mynediad atynt yn gyfyngedig.
Mae cofnodion catalog cryno ar gael a gellir chwilio amdanynt ar http://primo.aber.ac.uk/. Ar hyn o bryd, mae’r broses o gynhyrchu cofnodion cyflawn ar gyfer casgliadau llyfrau prin yn barhaus. Pan fyddwch yn canfod eitem rydych yn dymuno ei defnyddio yn y llyfrgell, gallwch gyflwyno cais ar-lein.
Canllawiau:
- Defnyddiwch bensil yn unig i wneud nodiadau (ni chaniateir defnyddio inc, hylif cywiro nac ysgrifbinnau tra’n agos at y deunydd)
- Sicrhewch bod eich dwylo'n lân a cheisiwch beidio â gafael neu gyffwrdd yn y tudalennau yn fwy nag sydd ei angen gan fod modd i asidau ac olew yn y croen achosi difrod i’r papur(dim diheintydd dwylo).
- Nid oes angen gwisgo menig.
- Mae clustog llyfrau ar gael ar gyfer cynnal eitemau mawr, bregus neu rai sydd wedi’u rhwymo’n dynn.
- Dylid agor rhwymiadau cyn lleied â phosibl, gan gynnal meingefn y llyfr ar bob adeg.
- Ni chaniateir bwyta nac yfed tra’n edrych ar lyfrau prin.
- Gellir tynnu ffotograffau heb fflach.
Dod o hyd i gynnwys ein casgliadau
Chwiliwch Primo, ein catalog llyfrgell
Blog Casgliadau Arbennig
Ceir newyddion am ein harddangosfeydd diweddaraf a’n casgliadau o lyfrau prin a’r archifau sydd ar gael ym Mhrifysgol Aberystwyth.