Croeso i Gwasanaethau Gwybodaeth (G.G.) - Darllenwyr Cysylltiol (Sconul)

 Y Gwasanaethau Gwybodaeth sy'n darparu gwasanaethau llyfrgell a TG i ddefnyddwyr cofrestredig ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ddarostyngedig i Reoliadau a Chanllawiau.

Er mwyn defnyddio ein cyfleusterau bydd angen cyfrif TG Prifysgol Aberystwyth a cherdyn Aber arnoch.

 * Mae gan ddefnyddwyr SCONUL band R ddefnydd i gyfeirio yn unig ond gallant gael cyfrif TG a Cherdyn Aber fel y gallant Argraffu, Sganio, Copïo a chyrchu'r llyfrgell

 

Mae eich cyfrif cyfrifiadurol yn eich galluogi i:

Bydd modd i chi actifadu eich cyfrif TG prifysgol ar-lein unwaith y bydd eich cais am aelodaeth Sconul PA wedi'i phrosesu.   Anfonir e-bost atoch gyda chyfarwyddiadau i wneud hyn pan fydd eich cyfrif yn barod.

Caiff eich Cerdyn Aber ei ddefnyddio at y dibenion canlynol:

Unwaith y byddwch wedi actifadu eich cyfrif TG dylech wneud cais am eich Cerdyn Aber ar-lein fel ei fod yn barod i chi pan fyddwch yn cyrraedd y campws.

 

Ymwelwyr o sefydliadau academaidd eraill

 

  • Mae Prifysgol Aberystwyth yn cymryd rhan yng Ngwasanaeth Crwydro Janet.
  • Golyga hyn fod ymwelwyr o sefydliadau academaidd eraill sy’n cymryd rhan yn gallu cysylltu â rhwydwaith eu sefydliadau eu hunain drwy rwydwaith diwifr eduroam Prifysgol Aberystwyth pan fônt yn ymweld â’n campws. Gallwch wirio i weld a yw eich sefydliad yn cymryd rhan yn y gwasanaeth hwn ar wefan Gwasanaeth Crwydro JANET
  • Dylech wneud trefniadau i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn gyda’ch sefydliad cartref CYN dod i Brifysgol Aberystwyth.

Defnyddio Llyfrgelloedd Prifysgol Aberystwyth

Mae croeso i ddarllenwyr SCONUL ddefnyddio ein terfynfa 'Cerdded i Mewn i Adnoddau Electronig'

 Mae'r gwasanaeth 'Mynediad i Mewn i Adnoddau Electronig' yn rhoi mynediad i ddefnyddwyr SCONUL i nifer o adnoddau electronig, megis e-gyfnodolion a chronfeydd data, lle mae cytundebau trwyddedu'n caniatáu. Oherwydd y cytundebau trwyddedu hyn, ni allwn gynnig mynediad llawn i ddefnyddwyr SCONUL i'n hadnoddau ar-lein.