Cyfleoedd Byd-eang

Bachwch ar y cyfle i ganfod diwylliannau eraill, herio eich hun a chasglu profiadau a fydd yn helpu gyda'ch gyrfa.
Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle i chi astudio, gwirfoddoli neu weithio mewn gwlad arall, a hynny am flwyddyn academaidd, un semester neu ychydig wythnosau yn ystod eich gwyliau.
Gall astudio yn un o'n prifysgolion partner gynnig persbectif newydd i chi ar eich pwnc a chyfle i ddyfnhau ac ategu eich astudiaethau yn Aberystwyth. Gall y profiad o ymgyfarwyddo â diwylliant newydd hogi eich sgiliau rhyngbersonol a’ch sgiliau cyfathrebu, gwella eich gallu ieithyddol, ac ehangu eich meddylfryd rhyngwladol.
Yma yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, rydym yn annog myfyrwyr yn gryf i ystyried gwneud cais i astudio dramor mewn prifysgol a ddewiswyd yn ofalus am naill ai un semester neu flwyddyn academaidd lawn.
Cynlluniau pedair blynedd gyda blwyddyn integredig yn astudio dramor
Rydym wir yn credu bod hyn yn ddefnyddiol i fyfyrwyr sy'n astudio gwleidyddiaeth ryngwladol, ac felly mae modd i chi ymgorffori blwyddyn o astudio dramor ar ddau gynllun pedair blynedd:
BA Cysylltiadau Rhyngwladol (gyda blwyddyn integredig yn astudio dramor)
BA Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol (gyda blwyddyn integredig yn astudio dramor)
Mae'r cynlluniau hyn yn eich galluogi i ddewis astudio yn un o'n prifysgolion partner. Mae gennym nifer o brifysgolion partner yn Ewrop, Gogledd America, Asia, ac Awstralia. Mae'r flwyddyn yn astudio dramor yn digwydd yn ystod eich trydedd flwyddyn. Ar ôl hynny byddwch yn dychwelyd i Aberystwyth i gwblhau eich gradd yn eich pedwaredd flwyddyn. Bydd y credydau a enillir o fodiwlau a astudiwyd yn y sefydliad tramor yn cyfrif tuag at eich gradd.
Unrhyw gynllun: astudio semester dramor ym mlwyddyn 2
Ar draws ein cynlluniau gradd eraill, rydym yn cynnig y cyfle i astudio dramor am un semester. Mae hyn yn digwydd yn yr ail flwyddyn yn un o'n prifysgolion partner yn Ewrop, Gogledd America, Asia ac Awstralia. Bydd y credydau a enillir o fodiwlau a astudiwyd yn y sefydliad tramor yn cyfrif tuag at eich gradd.
Dysgwch fwy am ble gallwch chi fynd fel myfyriwr yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol