Cyfleoedd allgyrsiol

Bydd digon o gyfleoedd i chi gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

O'r Gemau Argyfwng enwog a'r Cynllun Lleoliadau Seneddol i sgyrsiau ac amrywiaeth o gymdeithasau i fyfyrwyr, bydd digon o bethau i'ch cadw'n brysur yn ystod eich cyfnod yn Aberystwyth. Bydd y pethau hyn yn gyfle i ddatblygu sgiliau ychwanegol a fydd yn edrych yn dda ar eich CV hefyd.

Sgyrsiau

Mae ein hadran yn cynnig amgylchedd fywiog i astudio ac archwilio syniadau newydd. Bob blwyddyn rydym yn cynnal dwsinau o sgyrsiau gan arbenigwyr a ffurfwyr barn sy'n arwain yn y byd. Mae trigolion y gymuned leol yn mynychu rhain yn rheolaidd, yn ogystal â myfyrwyr a staff y brifysgol.

Gemau Argyfwng

Hon oedd yr adran gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gynnal efelychiadau argyfwng er mwyn cysylltu'r hyn a ddysgir yn yr ystafell ddosbarth â chymhlethdodau go iawn gwleidyddiaeth ryngwladol. Caiff y Gemau Argyfwng eu cynnal unwaith y flwyddyn, a'r digwyddiad hwn yw'r mwyaf poblogaidd ym mlwyddyn academaidd pob myfyriwr yr adran.

Cynllun Lleoliad Seneddol : Ty’r Cyffredin, San Steffan a’r Senedd, Caerdydd

Mae ein rhaglen interniaeth fawreddog, y Cynllun Lleoliad Seneddol yn rhoi'r cyfle i chi brofi llywodraeth ar waith ac i fod wrth galon bywyd gwleidyddol! Mae myfyrwyr yn gweithio gydag Aelod Seneddol yn San Steffan neu Aelod o’r Senedd yng Nghaerdydd am tua pedair i chwe wythnos ar ddiwedd eu hail flwyddyn. Mae myfyrwyr yn cymryd rhan wirioneddol, yn ymchwilio i brosiectau, yn gwneud gwaith etholaethol ac weithiau hyd yn oed yn dyst i etholiadau - neu argyfwng arweinyddiaeth! Mae cyllid adrannol ar gael i ymgeiswyr llwyddiannus i helpu gyda chostau.

Cymdeithasau Myfyrwyr

Mae myfyrwyr hefyd yn cymryd yr awenau yn yr Adran. Mae rhai yn cyfrannu at ein cyfnodolyn myfyrwyr Interstate – y cyfnodolyn gwleidyddiaeth ryngwladol hynaf yn y Deyrnas Unedig sydd o dan ofal myfyrwyr – drwy ysgrifennu neu olygu. Rydym hefyd yn cynnal y Gymdeithas Interpol sy'n cynnal digwyddiadau cymdeithasol ac academaidd. Mae gan Aberystwyth ystod eang o gymdeithasau myfyrwyr hefyd, ac mae staff a myfyrwyr yn cydweithio drwy'r 'Grŵp Amrywiaeth a Arweinir gan Fyfyrwyr'.

Interstate

Interstate yw’r cyfnodolyn a gaiff redeg gan fyfyrwyr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Aberystwyth, a sefydlwyd yn y 1960au. Mae'n gyfnodolyn cyhoeddedig a dyfynadwy o waith academaidd sy'n edrych yn wych ar eich CV, mae hefyd yn darparu arfer ysgrifennu da i'r rhai sy'n gweithio tuag at draethodau hir neu'n ystyried astudiaeth academaidd bellach.  

Mae Interstate yn aryneilio rhwng themâu strategaeth a chysylltiadau rhyngwladol yn ei rifynnau. Rydym yn bwriadu cyhoeddi'r rhifyn nesaf ym mis Ionawr 2025 ar bwnc diogelwch a’r teitl yw 'Modern Strategy'. Dylid cysylltu cyfraniadau â theitl y rhifyn, er enghraifft, myfyrio ar y gwrthdaro parhaus yn yr Wcráin, MENA, Gorllewin a Chanolbarth Affrica a Môr De Tsieina. Bydd erthyglau strategaeth, cudd-wybodaeth neu ryfela eraill yn cael eu hystyried gan y bwrdd golygyddol. 

Rydym yn chwilio am erthyglau gan israddedigion yr 2il a’r 3edd flwyddyn yn ogystal â myfyrwyr Meistr. Dylai erthyglau fod rhwng 2,000 a 4,000 o eiriau a dylent gynnwys dyfyniadau troednodyn. Gellir cyflwyno gwaith yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cael cyhoeddi eich gwaith, e-bostiwch ddisgrifiad byr o gysyniad eich erthygl i'r Golygydd Gweithredol, John Hinchliff  jeh79@aber.ac.uk. Byddwn yn cysylltu â’r rhai sy'n pasio'r broses ddethol yn unigol.