Amdanom ni
Croeso i'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, y gyntaf o'i bath yn y byd!
Mae astudio gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol yn hollbwysig i ddeall ein byd cyfnewidiol sydd ohoni. Mewn cyfnod o argyfwng hinsawdd, chynnwrf gwleidyddol ac ideolegol, trawsnewidiadau cymdeithasol ac ansicrwydd economaidd a mathau newydd o wrthdaro, mae lles pawb ynghlwm â datrys yr heriau byd-eang hyn. Nod addysg ac ymchwil yr Adran yw ysbrydoli a chefnogi myfyrwyr i gwestiynu, herio, trawsnewid a meithrin hyder yn y ffordd y maent yn meddwl am wleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol.
Pam yr Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol?
Yma yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol mae gan ein rhaglenni Israddedig dair nodwedd allweddol: rhagoriaeth academaidd, amrywiaeth o ddewis a chymuned go iawn.
Rhagoriaeth:
Rydym yn ymfalchïo mewn addysgu gwych ac yn gyson yn cael sgôr uchel iawn am fodlonrwydd y myfyrwyr, fel y gwelwch o'r tabl isod. Mae ein staff yn darparu modiwlau ar eu meysydd arbenigol, felly maent yn angerddol a gwybodus am yr hyn y maent yn ei ddysgu, a bydd myfyrwyr yn dysgu am y pynciau a'r syniadau diweddaraf. Mae hyn yn gwneud dysgu yn brofiad gwych i fyfyrwyr a darlithwyr fel ei gilydd!
Dewis:
Mae ein modiwlau yn ymdrin ag amrywiaeth eang o bynciau, o Ddiogelwch Rwsiaidd i America Ladin Gyfoes trwy Wleidyddiaeth y DU, Newid Hinsawdd, Cenedlaetholdeb a Rhyfela Modern. Ym mlynyddoedd dau a thri, gall myfyrwyr ddewis o oddeutu 20 opsiwn y flwyddyn, sy’n llawer iawn o ddewis! Mae'r amrywiaeth hon o ddewis yn seiliedig ar fodiwlau craidd cryf sy'n darparu asgwrn cefn o sgiliau a gwybodaeth.
Cymuned:
Mae gan yr adran gymuned glos ond eangfrydig sy'n gefnogol, yn ysgogol a hwyliog! Rydym yn cynnal digwyddiadau trafod bob semester ac yn gwahodd myfyrwyr i sgyrsiau academaidd, ond rydym hefyd yn cynnal nosweithiau pizza a chwis sy'n dod â staff a myfyrwyr ynghyd, gan gynnwys uwchraddedigion. Mae'r myfyrwyr yn brysur hefyd, gyda'r Gymdeithas Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Gemau Argyfwng a Chymdeithas Modelu’r Cenhedloedd Unedig a Grŵp Amrywioldeb Israddedig yr Adran. Rydym hefyd yn cynnig rhaglen gyfnewid a'n Lleoliadau Seneddol a Gemau Argyfwng chwedlonol. Mae gan bawb diwtor personol ac mae mentoriaid myfyrwyr ar gael hefyd.
Ein Sgoriau yn y Tablau Cynghrair Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol
- Ar y brig yn y Deyrnas Unedig ar gyfer Bodlonrwydd â’r Cwrs (Tabl Cynghrair Prifysgolion y Guardian 2023)
- Ar y brig yn y Deyrnas Unedig am Fodlonrwydd â’r Dysgu ar gyfer pwnc Gwleidyddiaeth (Tabl Cynghrair Prifysgolion y Guardian 2023)
- 4ydd yn y Deyrnas Unedig ar gyfer Gwleidyddiaeth (Tabl Cynghrair Prifysgolion y Guardian 2023)
- Yn y 5 uchaf yn y Deyrnas Unedig am Ansawdd y Dysgu (Canllaw Prifysgolion Da y Times a'r Sunday Times 2024).
- Yn y 5 uchaf yn y Deyrnas Unedig am Fodlonrwydd gyda'r Dysgu a'r Adborth (Tabl Cynghrair Prifysgolion y Guardian 2024)
- Yn y 10 uchaf yn y Deyrnas Unedig am Fodlonrwydd Myfyrwyr (Complete University Guide 2024)
Pam Aberystwyth?
Mae Aberystwyth yn dref ddwyieithog, eangfrydig a bywiog rhwng bryniau tirion y Canolbarth a glannau prydferth Bae Ceredigion. Byddwch yn rhan o brifysgol gampws sydd â'i chanolfan chwaraeon ei hun a Chanolfan Gelfyddydau brysur; ac fe fyddwch ddrws nesaf i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, un o ddim ond pum llyfrgell hawlfraint yn y DU.
Yn ddiweddar cafodd Prifysgol Aberystwyth ei dewis yn Brifysgol y Flwyddyn yng Nghymru, a daeth i’r brig yng Nghymru ac ymhlith y 3 uchaf yn y Deyrnas Unedig am Ansawdd y Dysgu a Phrofiad Myfyrwyr gan Ganllaw Prifysgolion Da 2024, The Times and Sunday Times. Daethom hefyd i’r brig yng Nghymru a Lloegr am fodlonrwydd y myfyrwyr yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2022.