Gweithio ym Mhrifysgol Aberystwyth

Yn Aberystwyth, rydyn ni’n gymuned sy'n arloesi, yn ysbrydoli ac yn cefnogi.

Ers 1872, rydym wedi meithrin enw da ledled y byd am ragoriaeth ein haddysgu a'n hymchwil blaengar. Heddiw, ein cenadwri yw darparu addysg ac ymchwil sy'n ysbrydoli mewn amgylchedd cefnogol, creadigol ac eithriadol yng Nghymru. 

Os hoffech chi fod yn rhan o gymuned sy’n rhagori yn academaidd ac yn arloesi trwy ymchwil, yna fe hoffem glywed oddi wrthych.

Gweithio ym Mhrifysgol Aberystwyth - Cyfleoedd Cyfredol

Sefydlwyd Prifysgol Aberystwyth ym 1872, ac mae wedi datblygu i fod yn gymuned academaidd gref a chlos o fyfyrwyr. Does ‘na unman yn debyg i Aberystwyth: does dim un Brifysgol arall sy'n cynnig y cyfuniad unigryw o draddodiad academaidd hirsefydlog, lleoliad hardd eithriadol, a champws sy'n cyfuno'r adnoddau diweddaraf, Canolfan Gelfyddydau fywiog, a'r cyfle i ddefnyddio un o'r pum llyfrgell hawlfraint yng ngwledydd Prydain. Ger bryniau'r Canolbarth ac ar lan y môr, mae Aberystwyth yn ganolfan sydd o bwys cenedlaethol a rhanbarthol, yn ddiwylliannol ac yn fasnachol. 

Archwiliwch ein swyddi gwag presennol

Gweithio a Byw yn Aberystwyth

Mae'r fro o gwmpas Aberystwyth mor hardd. Rhwng mynyddoedd y Canolbarth a glannau Bae Ceredigion, mae'n dirwedd brydferth o fryniau tirion, dyffrynnoedd, traethau a'r môr. Ac nid yw parciau cenedlaethol enwog Eryri a Sir Benfro yn bell, chwaith. Mae ein lleoliad yn ddelfrydol os oes gennych ddiddordeb mewn gweithgareddau awyr agored. Mae Aberystwyth yn dref fyfyrwyr groesawgar, gynhwysol a bywiog ac yn amgylchedd diogel i gymdeithasu ynddo.

Dysgu fwy

Amdanom ni

Aberystwyth oedd Coleg Prifysgol cyntaf Cymru, ac mae gennym enw da hirsefydlog am ein rhagoriaeth academaidd, am ddarparu profiad eithriadol i'r myfyrwyr, ac am ymchwil sy'n arwain y byd. 

Mwy o wybodaeth

Cydraddoldeb ac Amrywioldeb

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i ddatblygu a hybu cydraddoldeb ac amrywioldeb ym mhob agwedd ar ein hymarfer a'n gweithgareddau. Ein nod yw gweithio ac astudio, gan ddarparu diwylliant cynhwysol, heb wahaniaethu, ac arddel gwerthoedd parch, urddas a chwrteisi. Mae gan bawb yr hawl i gael eu trin yn unol â'r gwerthoedd hyn.

Dysgu fwy

Dilynwch ni:

Facebook Twitter