Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth IBERS yn croesawu Cyswllt Ffermio ar gyfer Gweithdy Cydweithredol

17 Chwefror 2025
Ar 5 Chwefror 2025, croesawodd Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth IBERS adran dechnegol Cyswllt Ffermio ar gyfer gweithdy cydweithredol undydd yn IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Nod y digwyddiad oedd meithrin cysylltiadau cryfach rhwng Cyswllt Ffermio ac ymchwilwyr amaeth o IBERS ac Adran y Gwyddorau Bywyd, gan dynnu sylw at yr ymchwil sydd ar y gweill a thrafod cyfleoedd ar gyfer cydweithio yn y dyfodol.
Dechreuodd sesiwn y bore gyda chroeso gan Bennaeth Adran IBERS, ac yna cafwyd cyfres o gyflwyniadau byr yn arddangos meysydd allweddol o ymchwil amaethyddol, gan gynnwys:
- Cnydau ynni biomas
- Bridio glaswellt a meillion
- Bridio ceirch a chodlysiau
- Ymchwil i systemau amaethyddol
Cafodd y cyfranogwyr gyfle hefyd i ymweld â chyfleusterau ymchwil blaenllaw, gan gynnwys y Ganolfan Ffenomeg Planhigion Genedlaethol, ArloesiAber a Bioburo, i gael cipolwg ar ddatblygiadau blaengar ym meysydd gwyddor planhigion ac amaethyddiaeth gynaliadwy.
Gweithdy Rhyngweithiol a Chydweithio yn y Dyfodol
Yn y prynhawn, cynhaliwyd gweithdy rhyngweithiol lle bu tîm technegol Cyswllt Ffermio ac ymchwilwyr amaeth o IBERS ac Adran y Gwyddorau Daear yn cymryd rhan mewn trafodaethau bord gron. Bu’r sesiynau hyn yn lwyfan gwerthfawr i drafod syniadau am gyfleoedd i gydweithio, er mwyn meithrin partneriaethau newydd i ysgogi arloesi yn y sector amaethyddol.
Cefnogwyd y digwyddiad hwn gan raglen AberCollab Prifysgol Aberystwyth, a ariannwyd gan Gronfa Arloesi Ymchwil Cymru. Hoffai’r Ganolfan Cyfnewid Gwybodaeth ddiolch i bawb a ymunodd â ni ac a gyfrannodd i’r digwyddiad, gan ei wneud yn ddiwrnod cynhyrchiol ac ysbrydoledig o gyfnewid gwybodaeth.