Athro yn Aberystwyth wedi’i benodi i banel o arbenigwyr ar TB buchol

Yr Athro Glyn Hewinson

Yr Athro Glyn Hewinson

10 Chwefror 2025

Mae academydd o Brifysgol Aberystwyth sy’n arbenigwr o fri rhyngwladol ym maes twbercwlosis buchol wedi cael ei benodi i banel blaenllaw yn Llywodraeth y DU i adolygu'r dystiolaeth ddiweddaraf am y clefyd.

Roedd yr Athro Glyn Hewinson CBE, Cadair Ymchwil Sêr Cymru yng Nghanolfan Ragoriaeth Cymru ar gyfer Twbercwlosis Buchol ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn rhan o'r panel annibynnol o arbenigwyr a gyhoeddodd yr Adolygiad o’r Strategaeth TB Buchol yn 2018.

Sefydlwyd y panel newydd gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Llywodraeth y DU, ac fe’i gomisiynwyd i ystyried a oes unrhyw dystiolaeth neu ddadansoddiadau sylweddol newydd sy'n effeithio ar y casgliadau a wnaed yn eu hadroddiad yn 2018.

Bydd hyn yn sicrhau bod gwaith ar y strategaeth newydd gynhwysfawr i ddileu TB buchol yn Lloegr a gyhoeddwyd ym mis Awst 2024 yn elwa o'r dystiolaeth a'r wyddoniaeth ddiweddaraf.

Cadeirydd y panel yw'r Athro Syr Charles Godfray, o Brifysgol Rhydychen. Yr aelodau eraill yw'r Athro Michael Winter OBE, o Brifysgol Caerwysg; Yr Athro Syr Bernard Silverman, o Brifysgol Rhydychen a'r Athro James Wood, o Brifysgol Caergrawnt.

Disgwylir y bydd y panel yn adrodd ei ganfyddiadau erbyn diwedd mis Mehefin eleni.

Dywedodd yr Athro Glyn Hewinson CBE:

"Mae'n anrhydedd cael y cyfle i gyfrannu at y darn pwysig hwn o waith. Mae TB buchol yn cael effaith ddinistriol ar fusnesau fferm a'r gymuned wledig ehangach, yn ogystal â bod yn gostus iawn i'r llywodraeth. Rwy'n gobeithio y gall y panel helpu i sicrhau bod gan lunwyr polisïau y dystiolaeth orau a mwyaf diweddar i helpu i lywio eu penderfyniadau." 

Sefydlwyd y Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Twbercwlosis Buchol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2018, ac mae’n cael ei chefnogi gan Sêr Cymru II, rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yr UE (Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop) a'r Brifysgol er mwyn cynyddu a datblygu arbenigedd ymchwil academaidd yng Nghymru.