Gwyddonwyr yn croesawu Strategaeth Biomas y DG
Miscanthus mewn cae ym Mhrifysgol Aberystwyth
10 Awst 2023
Mae gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth wedi croesawu Strategaeth Biomas Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol fel carreg filltir bwysig ar y llwybr tuag at economi sero net.
Mae biomas eisoes yn cynhyrchu dros 12% o gyflenwad ynni’r Deyrnas Gyfunol. Mae strategaeth newydd yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net yn amlinellu’r rôl y gall biomas ei chwarae wrth gyrraedd sero net a chynlluniau ar gyfer gweithredu pellach.
Mae ymchwilwyr yn Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn cymryd rhan mewn sawl prosiect sy'n helpu i ddatblygu cnydau biomas y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys gwaith ar wyddoniaeth cnydau Miscanthus a bridio planhigion sydd wedi cynhyrchu'r rhywogaeth gyntaf newydd yn y byd a gofrestrwyd ar gyfer cynhyrchu biomas, yn ogystal â Biomass Connect, arddangosfa a chanolfan wybodaeth am gnydau biomas.
Dywedodd yr Athro Iain Donnison, Pennaeth IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Rydym yn croesawu’r Strategaeth Biomas newydd a’i ffocws ar flaenoriaethu defnyddio biomas yn y ffyrdd hynny sydd fwyaf addas i helpu’r Deyrnas Gyfunol i gyrraedd sero net. Hefyd, o ystyried pryder y cyhoedd ynghylch cyrchu biomas yn gynaliadwy, mae’n bwysig bod y strategaeth wedi ymateb i’r angen am feini prawf cadarn ar gyfer monitro, dilysu ac adrodd ar gyflenwadau biomas p’un ai ydynt yn cael eu cynhyrchu’n ddomestig neu’n cael eu mewnforio.
“Mae hon yn strategaeth sydd wedi’i chynllunio i ddeall ac ysgogi galw diwydiannol, ac felly mae’n hollbwysig bellach bod y rheiny sy’n gwneud polisïau a rhanddeiliaid yn sicrhau bod mesurau ar waith i helpu i ateb y galw hwn. Argymhellodd Pwyllgor y Deyrnas Gyfunol ar Newid Hinsawdd y dylid plannu tua 750,000 hectar o gnydau biomas lluosflwydd, megis helyg Cylchdro Byr (SRC) a Miscanthus, yn y Deyrnas Gyfunol erbyn 2050 ac y gellid cyflawni hyn heb unrhyw effaith ar gynhyrchu bwyd. Mae’r cyfraddau plannu presennol yn llai na 1,000 hectar y flwyddyn, felly mae’n amlwg bod llawer i’w wneud.
“Y rheswm dros gael targedau mor uchelgeisiol ar gyfer cnydau biomas yw bod mynd i’r afael â newid hinsawdd nid yn unig yn gofyn am ostyngiad yn yr allyriadau nwyon tŷ gwydr presennol, ond y rhai hanesyddol hefyd. Er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, bydd angen sawl ateb arnon ni ac rydyn ni’n croesawu pwyslais y strategaeth ar yr angen am gymysgedd o dechnolegau tynnu nwyon tŷ gwydr hefyd.”
Wrth sôn am y camau nesaf, ychwanegodd yr Athro Donnison:
“Wrth reswm, mae ffermwyr a rheolwyr tir wedi bod yn amharod i ymrwymo ymlaen llaw i gostau plannu cnydau biomas lluosflwydd, yn enwedig o ystyried yr ansicrwydd ynghylch cymorthdaliadau a grantiau ar gyfer dewisiadau eraill megis plannu coed. Mae‘r cnydau hyn yn cynnig llawer o’r un manteision â choed, ac felly mae gan lywodraethau cenedlaethol gyfle i gefnogi ffermwyr i’w tyfu er mwyn cyrraedd y targedau sero net statudol yn ogystal â chefnogi’r economi wledig.
“Mae gan y Deyrnas Gyfunol yn gyffredinol, a Chymru yn arbennig, ardaloedd cymharol fach o dir amaethyddol o safon uchel ac mae’n bwysig ein bod yn parhau i gynhyrchu bwyd ar y tir hwnnw. Fodd bynnag, mae tir llai proffidiol yn addas iawn ar gyfer cnydau biomas lluosflwydd. Mae gan y cnydau hyn fanteision ehangach, gan gynnwys ar gyfer bioamrywiaeth, dal a storio carbon yn y pridd a gwrthsefyll llifogydd, yn ogystal â darparu porthiant ar gyfer ynni a gweithgynhyrchu gwyrdd. Felly, gall cynyddu biomas helpu i gefnogi economïau gwledig a threfol.”