Gwyddonwyr yn datgelu peryglon cudd haint sydd yn achosi dolur rhydd

Dr Justin Pachebat (chwith) a Dr Martin Swain o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylchedd a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Dr Justin Pachebat (chwith) a Dr Martin Swain o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylchedd a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth.

05 Mawrth 2019

Mae rhywogaeth newydd o'r parasit Cryptosporidium, sy’n esblygu’n gyflym ac yn brif achos dolur rhydd ymhlith plant ledled y byd, wedi ei ddarganfod mewn astudiaeth a gyhoeddwyd yn Nature Microbiology.

Cafodd yr astudiaeth, sy'n taflu goleuni newydd ar sut mae'r parasit hwn wedi esblygu'r gallu i ledaenu yn haws rhwng pobl, ei harwain gan wyddonwyr ym Mhrifysgol East Anglia, mewn cydweithrediad ag ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, yr Uned Cyfeirio Cryptosporidium (CRU) yn Ysbyty Singleton, Abertawe, Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe, a Sefydliad Earlham ym Mharc Ymchwil Norwich.

Llwyddodd yr ymchwilwyr i ddilyniannu a chymharu genomau cyfan o dros 20 achos gwahanol o Cryptosporidium er mwyn darganfod mwy am y parasit a sut mae'n heintio pobl.

Bydd eu gwaith yn cynorthwyo ymyriadau iechyd y cyhoedd gyda'r nod o atal lledaeniad yr afiechyd.

Mae'r parasit Cryptosporidium yn un o nifer of ficro-organebau sy'n achosi clefyd dolur rhydd. Mae'n gyfrifol am oddeutu 57,000 o farwolaethau bob blwyddyn, gydag 80 y cant ohonynt ymysg plant dan bump oed.

Gwelir y mwyafrif helaeth o'r rhain mewn gwledydd incwm isel, ond ceir achosion hefyd yn y DU a mannau eraill yn Ewrop. Nid oes cyffur neu frechlyn effeithiol ar gael, felly mae deall sut mae’r parasit yn trosglwyddo yn hanfodol wrth fynd i'r afael ag achosion.

Yn bennaf, mae Cryptosporidium yn lledaenu trwy gyswllt â charthion, a’r haint yn drosglwyddadwy rhwng pobl neu anifeiliaid. Tan yn ddiweddar, roedd gwyddonwyr o’r farn taw dim ond dwy rywogaeth o’r parasit oedd yn bodoli, un yn cael ei drosglwyddo rhwng pobl a’r llall rhwng anifeiliaid a phobl.

Yn yr astudiaeth hon, mae'r gwyddonwyr yn adrodd am eu darganfyddiad o is-rywogaeth sydd yn benodol i bobl.

Dywedodd Dr Kevin Tyler o Ysgol Feddygol Norwich UEA, ac un o brif awduron yr astudiaeth: "Gallai adnabod yr is-rywogaeth hon o Cryptosporidium fod yn hynod arwyddocaol i gyrff iechyd y cyhoedd sydd â’r dasg o atal yr afiechyd rhag lledaenu.

“Er eu bod yn debycach yn enetig i'r rhywogaeth sydd fel arfer yn heintio o dda byw, mae'r ffurfiau hyn yn cael eu pasio rhwng pobl fel arfer, ac o’r herwydd bydd angen ffocws iechyd cyhoeddus gwahanol er mwyn rhwystro’r modd maent yn lledaenu - gan gyfeirio adnoddau tuag at wella glanweithdra, neu roi cyngor i ferwi dŵr cyn ei yfed, yn hytrach na gwella’r camau i gadw pobl ac anifeiliaid ar wahan.”

Yn fwyaf rhyfeddol, dangosodd y tîm fod y is-rywogaeth newydd wedi esblygu'n gyflym trwy groesi gyda rhywogaeth Cryptosporidium arall. Dim ond yn ddiweddar y digwyddodd y cyfnewid genetig hwn, mwy na thebyg o amgylch amser y Chwyldro Diwydiannol a datblygiad ardaloedd trefol.

Ers hynny, mae’r genynnau a ymgorfforwyd i enom yr is-rywogaeth newydd wedi esblygu'n gyflym, gan addasu eu hunain i'w gwesteiwr dynol newydd.

Dywedodd yr Athro Cock van Oosterhout o Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol UEA: “Gall straeniau parasitiaid sydd wedi'u haddasu i fyw ar bobl esblygu a dod i'r amlwg o fewn ychydig ddegawdau trwy gyfnewid genynnau gyda'i gilydd.

"Gallech ddweud bod y pathogenau yma sydd yn creu hybrid yn twyllo'r ras arfau gyd-esblygiadol trwy rannu genynnau gyda'i gilydd. Drwy wneud hynny, gallant ddefnyddio genynnau sy'n cael eu haddasu i heintio un rhywogaeth er mwyn heintio rhywogaeth arall – a phobl yw’r targed yn yr achos hwn.”

Mae'r tîm bellach yn llunio “blwch offer diagnostig” i wahaniaethu'n benodol rhwng y gwahanol ffurfiau, gan alluogi cyrff iechyd cyhoeddus i adnabod y ffurf newydd o Cryptosporidium, a llunio strategaethau lleol i atal lledaeniad yr haint.

Dywedodd Dr Tyler: "Drwy ddefnyddio'r data a ddarparwn yn y papur hwn, bydd modd i'r mathau hyn o Cryptosporidium gael eu nodi mewn labordai microbioleg gan ddefnyddio profion penodol a thechnegau safonol – ac yna hwyluso cynllunio ymyriadau syml ond effeithiol. Bydd deall pa driniaeth sy'n debygol o fod fwyaf effeithiol, yn enwedig yn ystod cyfnodau o heintio, yn cynorthwyo sefydliadau iechyd y cyhoedd i ganolbwyntio’u hadnoddau a chyflawni'r canlyniadau gorau.”

Dywedodd Dr Justin Pachebat o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Mae hyn i gyd yn deillio o dechneg a ddatblygwyd gennym, gyda'r CRU, i ddilyniannu genom clinigol ynysig Cryptosporidium, a chan fod Dr Martin Swain wedi defnyddio technegau biowybodeg newydd i adeiladu genomau’r parasit cymhleth hyn.”

Cefnogwyd yr ymchwil gyda chyllid gan brosiect AQUAVALENS yr Undeb Ewropeaidd, yn ogystal â grant gan Gyngor Ymchwil Y Gwyddorau Biotechnolegol a Biolegol (BBSRC), Cynghrair Systemau Daear a Bywyd, ac Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth, a ariennir yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd Llywodraeth Cymru (ESF) ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd.

Cyhoeddir ‘Evolutionary genomics of anthroponosis in Cryptosporidium’ yn y cyfnodolyn Nature Microbiology ddydd Llun, 4