Myfyrwyr Aber yn cipio Cwpan Agronomeg NIAB am yr ail flwyddyn yn olynol

Tim buddugol Cwpan Agronomeg NIAB 2019 o IBERS Prifysgol Aberystwyth: o’r chwith William Watson, Olivia MacGarvie a Philip Dray gyda’u darlithydd Bridio Planhigion Dr Irene Griffiths. William Davies yw'r aelod coll, gan ei fod yn Seland Newydd.

Tim buddugol Cwpan Agronomeg NIAB 2019 o IBERS Prifysgol Aberystwyth: o’r chwith William Watson, Olivia MacGarvie a Philip Dray gyda’u darlithydd Bridio Planhigion Dr Irene Griffiths. William Davies yw'r aelod coll, gan ei fod yn Seland Newydd.

22 Mawrth 2019

Mae tîm o fyfyrwyr o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi ennill Cwpan Agronomeg NIAB am yr ail flwyddyn yn olynol.

Cofnododd y myfyrwyr BSc Amaeth Philip Dray, Olivia MacGarvie, William Watson a Will Davies yr elw gros uchaf o £2,131 yr hectar yn y gystadleuaeth flynyddol plotiau arbrofol gwenith gaeaf, yn seiliedig ar gynnyrch o 12.24 tunell yr hectar a chost mewnbwn o £72.15 yr hectar.

Tîm IBERS yw'r cyntaf i gipio’r tlws ddwywaith ers i'r gystadleuaeth gychwyn, ar ôl ennill yn 2018 ac ail agos yn 2017.

Yn ei buddugoliaeth, curodd tîm IBERS chwe thîm o brifysgolion a cholegau. Aeth yr ail wobr i Glwb Ffermwyr Ifanc Diss yn Norfolk, a’r drydedd i Goleg Myerscough o Swydd Gaerhirfryn.

Sefydlwyd Cwpan Agronomeg NIAB yn 2012 ac mae’n agored i fyfyrwyr amaethyddiaeth a gwyddor cnydau o brifysgolion a cholegau o bob cwr o'r DU.

Nôd y gystadleuaeth, a gynhelir gan NIAB o Gaergrawnt, yw herio sgiliau agronomeg, rheolaeth fferm a sgiliau gwneud penderfyniadau amaethyddol y tîmau.

Yn ystod y gystadleuaeth roedd yn ofynnol i'r tîm wneud ymweliadau rheolaidd â lleiniau tyfu cnydau ar safle NIAB yn Henffordd.

Cynhaliwyd y gystadleuaeth ar fath o wenith, KWS Siskin, ar bum safle ledled y DU.

Dywedodd Dr Iwan Owen, darlithydd Amaethyddiaeth yn IBERS: “Rwy'n falch iawn bod tîm IBERS wedi ennill y gystadleuaeth hon unwaith eto, gan dynnu sylw at yr arbenigedd tyfu grawn y mae ein myfyrwyr yn ei ddatblygu fel rhan o'r cyrsiau amaethyddol a gynigir yma.”

“Mae ennill tlws NIAB yn arbennig o berthnasol eleni wrth i ni ddathlu 100 mlynedd o arbenigedd bridio planhigion byd enwog yn Aberystwyth.”

Dywed cydlynydd treialon Cenedlaethol NIAB, Ian Midgley: “Mae tîm IBERS Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn ddiwyd iawn unwaith eto, yn enwedig o ystyried pa mor bell y mae'n rhaid iddynt deithio i wirio'u lleiniau.

"Fe nodwyd yr holl wybodaeth a ddarparwyd gan staff NIAB am y safle; gwnaethpwyd defnydd da o’r ymweliadau â’r lleiniau yn Henffordd; adnabyddwyd heintiau a daethpwyd i ddeall cryfderau a gwendidau’r cnydau.”

Dywedodd capten tîm Prifysgol Aberystwyth, Olivia McGarvie: "Roedd yn gyfle gwych i roi’r hyn rydym wedi ei ddysgu am agronomeg ar ein cwrs ar waith.

"Roedd cystadleuaeth Cwpan Agronomeg NIAB yn gyfle euraidd i ddefnyddio'r sgiliau a ddysgwyd inni, a hoffwn ddiolch i'n darlithydd bridio planhigion, Dr Irene Griffiths am ei darlithoedd hynod addysgiadol.”