Gwyddonydd o Aber i ymddangos ar Ddarlithoedd Nadolig y Sefydliad Brenhinol
Dr Arwyn Edwards, sydd wedi datblygu pecyn dilyniannu DNA sy’n ffitio mewn i sach deithio ac yn gallu cael ei ddefnyddio yn unrhyw le yn y byd.
01 Ionawr 2019
Bydd gwyddonydd o Brifysgol Aberystwyth yn ymddangos ar gyfres Ddarlithoedd Nadolig 2018 y Sefydliad Brenhinol a fydd yn cael ei darlledu ar BBC 4 rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.
Bydd Dr Arwyn Edwards, uwch-ddarlithydd mewn Bioleg yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), yn arddangos techneg chwyldroadol ar gyfer dilyniannu DNA y mae wedi’i datblygu ar gyfer gweithio mewn amgylcheddau eithafol.
“Pwy ydw i?” yw thema Darlithoedd Nadolig 2018, a byddant yn cael eu cyflwyno gan yr anthropolegydd biolegol, awdur a darlledwr, yr Athro Alice Roberts, a’r arbenigwr mewn geneteg, yr Athro Aoife McLysaght.
Gyda chymorth y myfyriwr doethuriaeth Andre Soares, bydd Dr Edwards yn dilyniannu bacteria meicrobiom person yn y drydedd ddarlith a fydd yn cael ei darlledu ar BBC4 am 8 yr hwyr nos Wener 28 Rhagfyr 2018.
Dywedodd Dr Edwards: “Rwy’n falch iawn fy mod wedi cael fy ngwahodd i gymryd rhan yng nghyfres Darlithoedd Nadolig y Sefydliad Brenhinol eleni. Dyma un o uchafbwyntiau rhaglenni teledu ein teulu ni dros gyfnod yr ŵyl, ac mae’n gyfle gwych i fod yn rhan o draddodiad mawr cyfathrebu gwyddoniaeth, a chyflwyno sgiliau dilyniannu DNA i bobl yn eu hystafelloedd byw ar draws y DU.”
Ar y cyd gyda Oxford Nanopore, mae Dr Edwards wedi datblygu labordy dilyniannu DNA cludadwy sy’n ffitio mewn sach deithio fechan, a gellir ei defnyddio unrhyw le yn y byd.
Mae ei waith maes yn canolbwyntio ar ddilyniannu DNA mewn microbau a geir ar rewlifoedd a llenni iâ, wrth i wyddonwyr geisio deall sut maent yn ymateb i newid hinsawdd.
Yn ddiweddar dychwelodd wedi cyfnod yn gweithio ar Len Iâ’r Ynys Las. Mae hefyd wedi gweithio yn Svalbard, cyfres o ynysoedd yn yr Uwch-Arctig.
Yn ôl Dr Edwards, mae’r chwyldro mewn technoleg dilyniannu DNA cludadwy wedi dod yn sgil y camau breision sydd wedi eu gwneud ym maes genomeg ddynol.
Fodd bynnag, mae’n dadlau bod y microbau mwyaf diddorol i ficrobiolegwyr yn aml yn y mannau anoddaf i’w cyrraedd.
“Mae’r gallu i ddilyniannu DNA yn gyflym, yn rhad ac yn unrhyw le, a chan fwy neu lai unrhyw un, yn trawsnewid y ffordd ni’n gweithio ym maes bioleg. Mae potensial mawr i’r dechnoleg hon gael ei defnyddio ar gyfer gwneud diagnosis o heintiau, deall sut mae llygredd yn effeithio ar yr amgylchedd, ac mewn darganfyddiadau posibl newydd, er enghraifft pa ficrobau sydd yn y mannau anoddaf i’w cyrraedd allai fod o ddefnydd ar gyfer creu gwrthfiotigau newydd. Mae angen i ni ddeall amrywiaeth genomeg a geneteg microbau er mwyn gwneud hyn oll.”
Ym mis Mai 2018, bu Dr Edwards a’i gydweithwyr yn dilyniannu DNA yn fyw ar raglen Today BBC Radio 4.
Fe gwblhaodd y tîm y dasg o ddadansoddi sampl o bridd o ardd y cyflwynydd Justin Webb a chyflwyno’r canlyniadau yn fyw ar y rhaglen o fewn dwy awr.
Sefydlwyd y Sefydliad Brenhinol yn 1799 gyda’r bwriad o gyflwyno technolegau newydd ac addysgu’r cyhoedd am wyddoniaeth.
Traddodwyd Darlith Nadolig gyntaf y Sefydliad yn 1825 gan John Millington, Athro Mecaneg yn y Sefydliad Brenhinol o 1817 tan 1829.
Ymddangosodd dau o adran gyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth yng nghyfres 2014 Ddarlithoedd Nadolig y Sefydliad Brenhinol.
Bu cerddorfa roboteg Ian Izzet a Dave Price, oedd yn cynnwys darnau o hen hwfer, glockenspiel bach ac organ bibell, yn chwarae mewn perfformiad o arwyddgan Dr Who i gloi’r gyfres ‘Sparks will fly: how to hack your home’.