Myfyriwr o Aber yn rownd derfynol Gwobrau STEM y Telegraph 2019

Eleanor Wilson, myfyrwraig trydedd flwyddyn MBiol yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Prifysgol Aberystwyth, enillydd Gwobr Her Gofal Iechyd STEM y Telegraph 2019, ac un o bump sydd wedi cyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth.

Eleanor Wilson, myfyrwraig trydedd flwyddyn MBiol yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Prifysgol Aberystwyth, enillydd Gwobr Her Gofal Iechyd STEM y Telegraph 2019, ac un o bump sydd wedi cyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth.

29 Ebrill 2019

Mae syniad am brawf symudol newydd ar gyfer y diciâu mewn pobl wedi sicrhau lle yn rownd derfynol Gwobrau STEM y Telegraph 2019 i fyfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth.

Mae Eleanor Wilson yn ei thrydedd flwyddyn yn astudio gradd MBiol yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ac yn un o fwy na 10,000 a ymgeisiodd am y wobr eleni.

Bellach yn ei chweched flwyddyn, mae Gwobrau STEM y Telegraph yn cynnig cyfle i is-raddedigion brofi ei doniau i rai o enwau mwyaf y diwydiant.

Yr her eleni oedd cynnig syniadau allai ddatrys problemau mewn pum maes – gofal iechyd, arloesedd, technoleg foduro, trydanol a thechnoleg amddiffyn.

Cynnig Eleanor yw defnyddio’r dull golygu genynnau CRISPR i adnabod TB mewn pobl, cyflwr a all fod yn gyffredin mewn dioddefwyr HIV ledled y byd.

Dywedodd Eleanor: “Mae’r dechnoleg CRISPR gymharol newydd yma’n cael ei defnyddio’n bennaf ar gyfer therapi genynnau, ond rwyf wedi datblygu’r syniad ar gyfer ei ddefnyddio fel dull diagnostig symudol, sy’n gweithio’n debyg i brawf beichiogrwydd.

“Mae fy nghynllun i yn defnyddio technoleg CRISPR i sganio DNA mewn poer ar gyfer ardal “ôl bysedd” sy’n benodol i Mycobacterium tuberculosis.

“Unwaith y bydd y system CRISPR wedi glynu at ardal darged y DNA, mae ensym yn deffro a stribed lliw yn ymddangos ar y ddyfais, sy’n nodi presenoldeb DNA TB yn y sampl.

“Drwy newid ardal darged y DNA, gellir defnyddio’r system i edrych am enynnau sydd yn gwrthsefyll triniaeth gan gyffuriau neu wrthfiotig.”

Fel un o’r pump sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, bu Eleanor yn cyflwyno’i syniadau i banel arbenigol yn Llundain ganol mis Ebrill. Cyhoeddir yr enillydd, a fydd yn ennill £25,000, ym mis Mehefin.

Er mwyn cyrraedd y rownd derfynol profodd Eleanor lwyddiant yn adran Her Gofal Iechyd y gystadleuaeth nodedig hon, ac mae wedi sicrhau lleoliad gwaith pwrpasol gydag un o gwmnioedd iechyd mwyaf y byd, GSK.

Dywedodd Dr Dylan Philips, sydd yn darlithio mewn geneteg yn IBERS: “Mae Eleanor yn fyfyrwraig hynod alluog a chreadigol. Roedd yn hyfryd clywed ei bod ar restr fer yr Her Gofal Iechyd. Pan ddatgelodd ei chysyniad buddugol, roedd yn amlwg ei bod hi wedi dod o hyd i syniad ysbrydoledig gan ddefnyddio dyfeisiau arloesol mewn golygu genomau.”

“Dwi wedi bod wrth fy modd gyda gwyddoniaeth ers yn blentyn,” ychwanegodd Eleanor.

“Dwi mor hapus fy mod wedi ennill yr Her Gofal Iechyd. Mae’n cadarnhau fy mod yn medru datblygu syniad creadigol ac arloesol yn rhywbeth sydd â’r potensial i gael effaith go iawn.

“Roeddwn eisiau astudio’n Aber oherwydd bod y cwrs yn unigryw gan ei fod yn cyfuno geneteg a biocemeg, a hefyd yn darparu hyfforddiant mewn biowybodeg - sy’n cymhwyso technegau cyfrifiadureg i ddata biolegol.

“Dwi wrth fy modd yma – bywyd yn yr awyr agored a llety arbennig Fferm Penglais. Dwi’n gobeithio parhau â’m hastudiaethau a chwblhau fy noethuriaeth yma.”